Daeth fel syndod i lawer fy mod i wedi dilyn galwad i fod yn weinidog mewn enwad. Roedd gweld person ifanc a fagwyd mewn eglwys efengylaidd anenwadol yn dewis mynd yn Weinidog mewn enwad yn ymddangos yn rhyfedd i bobl oedd wedi credu bod rhywbeth anorfod yn y ffaith bod eglwysi enwadol yn marw ac mai eglwysi efengylaidd anenwadol oedd y dyfodol. Os mai eglwysi efengylaidd anenwadol oedd y dyfodol a bod eglwysi enwadol yn marw pam ar wyneb daear roedd Rhys Llwyd yn derbyn galwad i fynd yn weinidog mewn enwad? Roedd sawl rheswm pam y teimlais alwad i’r enwadau, fel y bydd gan eraill resymau cwbwl gywir a didwyll am ddilyn llwybr gwahanol. 

Am amrywiol resymau credaf fod yna ragfarn yn bodoli yn y Gymru Gymraeg yn erbyn Cristnogaeth “efengylaidd”. Yn aml mae hyn am resymau personol, bydd rhywun efallai wedi cael profiad negyddol o ymwneud a Christion sy’n arddel y safbwynt efengylaidd a bydd hynny wedyn yn faen tramgwydd. Bydd eraill wedi cael profiad negyddol o gael Cristion efengylaidd yn tystiolaethu iddynt yn rhy “galed” drwy siarad yn ormodol am bechod a barn yn hytrach na rhoi amser i wrando a dod i adnabod y person. Bydd rhai efallai wedi clywed Cristnogion efengylaidd yn siarad i lawr yn negyddol am gapeli Cymraeg traddodiadol neu Weinidog enwadol ac felly wedi cael yr argraff fod Cristnogion efengylaidd yn haerllug a thrahaus am Gristnogion eraill. Rwy’n gallu siarad am hyn oherwydd rwy’n cydnabod fy mod i wedi bod yn euog o hyn ar adegau ac am hynny rwy’n ymddiheurio am yr hyn y byddwn i’n adnabod heddiw fel balchder ysbrydol. Balchder ysbrydol sy’n parhau’n rhan o fy nghymeriad ac sy’n dal i frigo ei ben mewn ffyrdd gwahanol yn llawer rhy aml.

THESIS: GWELD CRISTNOGAETH EFENGYLAIDD FEL ADWAITH

Ond beth bynnag am y rhesymau personnol sydd tu ôl y rhagfarn rwy’n credu fod modd cynnig thesis cymdeithasol-ddiwylliannol hefyd pam fod y Gymru Gymraeg a rhagfarn yn erbyn Cristnogaeth efengylaidd, ac mae’r thesis yn mynd rhywbeth fel hyn: 

O’r 1960au ymlaen fe sefydlwyd Eglwysi efengylaidd newydd Cymraeg ac fe adawodd rhai Cymry Cymraeg eglwysi enwadol Cymraeg i fynd i rai efengylaidd Saesneg hefyd. Yn gam neu’n gymwys, dehonglwyd hyn gan rai fel adwaith yn erbyn yr eglwysi enwadol Cymraeg yn gymaint â bod yn rhywbeth o blaid y dystiolaeth Gristnogol. Rwy’n pwysleisio nad dyma oedd bwriadau’r rhai oedd ynghlwm gyda sefydlu eglwysi efengylaidd newydd, ond dyma sut y’i dehonglwyd gan rai yn anffodus. Mae’r polemig gwrth-enwadol yn parhau hyd heddiw mewn rhai cylchoedd efengylaidd, rwyf wedi ei brofi a’i glywed fy hun dros y blynyddoedd diwethaf. 

Gan fod y Cymry yn brin o unrhyw sefydliadau cenedlaethol hyd yr Ugeinfed Ganrif a heb unrhyw Senedd tan droad yr Unfed Ganrif ar Hugain ei heglwysi a’r enwadau oedd ei sefydliadau cenedlaethol. Felly i lawer o Gymry credaf fod y feirniadaeth ar ein heglwysi a’n enwadau gan efengylwyr yn cael ei weld gan rai gyfystyr a beirniadaeth ar ein cymeriad a’n diwylliant fel Cymry. 

Roedd efengylwyr yn cynnig critique diwinyddol ac ysbrydol o gyflwr yr enwadau ac Anghydffurfiaeth ac o safbwynt ysbrydol/diwinyddol roedd y critique yn cywir gan amlaf. Ond i Gymry nad oedd yn poeni’n ormodol am ddiwinyddiaeth fe ddehonglwyd y feirniadaeth ddiwinyddol fel beirniadaeth gymdeithasol-ddiwylliannol o un o’i phrif sefydliadau diwylliannol sef y “Capel Cymraeg” a ddaeth yn rhyw fath o icon, neu hyd yn oed eilyn, yn y meddwl Cymreig. 

Wrth i Gristnogaeth efengylaidd o 1960au ymlaen sefydlu ei hun fel rhywbeth ar wahân i’r prif enwadau Cymreig fe’i dehonglwyd gan lawer, yn gam neu’n gymwys, fel rhywbeth ar wahân i’r bywyd Cymraeg a Chymreig. Ac oherwydd hynny credaf fod y dasg o dystiolaethu a chenhadu o’r newydd yng Nghymru heddiw yn wynebu her ychwanegol o geisio gwneud hynny dan y fanner “efengylaidd” oherwydd y rhagfarn gwrth-efengylaidd yma sydd wedi ymdreiddio trwy’r diwylliant Cymraeg. Credaf fod eglwysi a mudiadau efengylaidd yn gwybod hyn dyna pam fod eglwysi efengylaidd oedd yn cael eu hadnabod fel “Eglwys Efengylaidd Aberstalwm” rai degawdau yn ôl bellach yn mynd dan enw tebyg i “Eglwys Deuluol Aberstalwm” ac ati.

Mae’r rhagfarn yma sy’n bodoli ar ffordd mae’r label “efengylaidd” wedi colli ei ystyr yn drasiedi mewn gwirionedd oherwydd mae’r dreftadaeth Gristnogol Gymreig yn un drwyadl efengylaidd – ni yw disgynyddion John Dafis Mallwyd, Williams Pantycelyn, Ann Griffiths, Thomas Jones o Ddinbych a Christmas Evans. Ond eto pan fydd y rhan fwyaf o Gymry heddiw yn meddwl am Gristnogaeth efengylaidd maen nhw’n meddwl am yr hyn sydd wedi nodweddu’r adwaith efengylaidd ers yr 1960au – symudiad Saesneg ar y gorau, Americanaidd ar ei waethaf – yn hytrach ‘na rhywbeth sy’n perthyn i’n treftadaeth Gymreig ni. Wrth i bobl feddwl am “evangelicals” heddiw dydy pobl ddim yn meddwl am y Tadau Methodistaidd maen nhw’n meddwl am gefnogwyr Donald Trump! Nid Cristnogaeth efengylaidd yw’r broblem, ond mae gan Gristnogaeth efengylaidd broblem.

YDW I’N FEDYDDIWR NEU’N EFENGÝL?

Gadewch i mi fod yn glir am un peth, yn ystyr draddodiadol y gair mi rydw i yn Gristion efengylaidd er nad wyf yn arddel y term yn gyhoeddus rhyw lawer bellach oherwydd ei fod yn derm sydd wedi mynd i olygu rhywbeth gwahanol. Rwy’n parhau i arddel egwyddorion craidd Cristnogaeth efengylaidd fel y diffinnir hwy gan yr hanesydd David Bebbington:

“conversionism, the belief that lives need to be changed; 
activism, the expression of the gospel in effort; 
biblicism, a particular regard for the Bible; 
and what may be called crucicentrism, a stress on the sacrifice of Christ on the cross.”

David Bebbington

Yn ôl Bebbington dyma bileri canolog y ffydd efengylaidd a dyma bileri fy ffydd i hyd heddiw. Ond eto ar faterion eraill nid oedd adaim mwy ceidwadol efengyliaeth Gymreig yn caniatáu rhyddid ar faterion fel rôl merched yn arwain a phregethu yn yr eglwys, croesawu elfennau o’r traddodiad carismataidd a phwyslais ar faterion cyfiawnder a chymdeithasol. Eto, dylwn bwysleisio fy mod yn parchu ac yn parhau i fwynhau cymdeithas gyda Christnogion sydd yn arddel sabwyntiau gwahanol i mi, ond erbyn y cyfnod lle roeddwn yn profi’r alwad i’r weinidogaeth roeddwn yn teimlo fod mwy o ryddid a gofod i mi fod yn fi fy hun yn y byd enwadol nac mewn eglwysi efengylaidd oedd yn tueddu i fod yn fwy caeth a ceidwadol ar fateriol diwinyddol eilradd. Eto, rwy’n parchu profiadau gwahanol, ond dyma fy stori i. 

Rhywbeth rwyf wedi dod i werthfawrogi mwy mwy wrth i’r blynyddoedd fynd yn ei blaen ydy sut mae enwad y Bedyddwyr yn benodol yn draddodiad sy’n rhoi’r rhyddid i mi fynegi a byw allan fy Nghristnogaeth gyda’r rhyddid hwn oherwydd cymal cyntaf eu datganiad o egwyddor:

“Ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist, Duw a amlygwyd yn y cnawd, yw’r unig awdurdod llwyr a hollol mewn materion yn ymwneud â ffydd ac ymarfer, fel y’i mynegwyd yn yr Ysgrythurau Sanctaidd, ac mae gan bob Eglwys ryddid i ddehongli ac i weinyddu Ei Gyfreithiau dan arweiniad yr Ysbryd Glân.”

(Datganiad o Egwyddor y Bedyddwyr, Cymal 1)

I lawer o Gristnogion efengylaidd mae’r datganiad o egwyddor yma yn beryglus o eang. Ond i mi mae’n rhyddid bendigedig i’w ymarfer yn ostynedig dan awdurdod diogel Ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist.

Nid yw enwad y Bedyddwyr yn berffaith o bell ffordd, rwyf wedi gweld marweiddra a sychder ysbrydol rhyfeddol ar lawr gwlad ac mewn ambell i bwyllgor. Rwyf hefyd wedi clywed sawl heresi gan bobl dylai wybod yn well! Ond oherwydd mai rhwydwaith o eglwysi lleol yw enwad y Bedyddwyr (yn hytrach nac enwad Esgobyddol neu Bresbyteraidd fel Yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru) mae pob eglwys leol yn cael y rhyddid i ddatblygu ei weledigaeth a’i flas ei hun. Ac er nad yw pawb o fewn enwad y Bedyddwyr yn cytuno gyda’n gweledigaeth a’n diwinyddiaeth ni yng Nghaersalem rydym wedi mwynhau perthynas a chefnogaeth iach dros y blynyddoedd. Rydym wedi derbyn grantiau gweinidogaethol a chenhadol, cefnogaeth i ariannu hyfforddiant, a chefnogaeth solet gan swyddogion yr enwad wrth ddelio a materion dyrys cyfreithiol, diolgelwch a bugeiliol fel eu gilydd. 

Rwy’n derbyn fy mod i efallai wedi cael fy ngwarchod rhag y profiadau anoddaf o fod yn weinidog mewn enwad gan fod fy rhagflaenydd wedi brwydro rhai brwydrau na fuodd rhaid i mi wedyn eu hwynebu fy hun. Ond, dyma fy stori i am pam mod i wedi dilyn galwad i Weinidogaethu mewn hen enwad. Bydd gan eraill stori wahanol, ond dyma yn nhrefn rhagluniaeth lle aeth Duw a fi.

Please follow and like us: