Fe ddechreuom gyfres newydd yng Nghaersalem ddydd Sul yn edrych ar Actau’r Apostolion. Ar ddechrau pob cyfres rwy’n hoff o rannu rhai egwyddorion cyffredinol ynglŷn â sut ydw i’n darllen a deall y Beibl. Rydw i’n cadarnhau awdurdod y Beibl – rydw i’n credu fod Duw yn gallu siarad gyda ni trwy bob rhan o’r Beibl, a bod yr holl Feibl yn llawn gwirionedd.
Ond, ac mae hwn yn ond pwysig, er mwyn deall a chymhwyso pob rhan o’r Beibl mae’n bwysig i ni sylwi fod rhaid i ni ddarllen, deall a chymhwyso gwahanol rannau o’r Beibl mewn gwahanol ffyrdd. Nid un llyfr yw’r Beibl ond casgliad o lyfrau yn cynnwys genres gwahanol.
Felly, dydw i ddim yn “llythrenolwr”, neu fel y dywedodd rhywun unwaith: “mae’n bwysig darllen y Beibl yn llenyddol ac nid yn llythrennol.”
Mae rhai rhannau o’r Beibl yn llyfrau hanes lle y gallwn eu cymryd, ar y cyfan, fel adroddiadau dibynadwy. Ond mae rhannau eraill yn llyfrau proffwydol neu farddonol. Mae rhannu barddonol ac alegoriol y Beibl dal yn cyfleu gwirioneddau am Dduw – ond ddim mewn ffordd lythrennol – ond drwy ffurf lenyddol wahanol.
Er enghraifft, nid oen na llew – yn llythrennol – ydy Duw. Ond eto mae’r delweddau a’r trosiadau yna’n cyfleu gwirionedd i ni am gymeriad a phwrpasau Duw.
Neu o roi enghraifft o gyd-destun cwbl wahanol, mae 1816 yn cael ei adnabod fel ‘The Year Without Summer’ o ganlyniad i’r cwmwl o ddwst oedd dros Ewrop yn dilyn y ffrwydrad enfawr fo losgfynydd Tambora rai misoedd yn gynt. Rhai blynyddoedd yn ôl gwrandewais ar raglen ar Radio 4 oedd yn sôn am sut roedd yr adroddiadau gorau oedd yn bodoli heddiw o ddigwyddiadau’r flwyddyn yna mewn gwirionedd i’w canfod yn y gweithiau llenyddol a gyfansoddwyd yn y cyfnod, gweithiau yn hytrach na’r adroddiadau newyddiadurol neu wyddonol. Oherwydd eu bod nhw’n weithiau llenyddol mae’n rhaid eu darllen trwy’r ffilter yna, ond o wneud hynny maen nhw’n dod a phrofiad o’r ‘year without summer’ yn fwy byw nag y gallai unrhyw adroddiad newyddiadurol ffeithiol plaen.
Dydy nodi’r gwahanol genres yma sydd i’w canfod o fewn y Beibl ddim yn golygu fod rhai rhannau o’r Beibl yn fwy pwysig na’i gilydd. Dim ond bod angen dysgu darllen gwahanol rannau o’r Beibl mewn ffordd wahanol. Nid yn annhebyg i’r ffordd y byddech chi’n darllen nofel a llyfr hanesyddol mewn ffordd wahanol. Mae gwerth a phwrpas i’r ddau fath o lyfr, ond mae angen eu darllen mewn ffordd lenyddol addas i gael y gorau allan ohonynt.
SUT I DDARLLEN ACTAU? GWARCHOD EIN HUNAIN RHAG ‘OVER-REALIZED ESCHATOLOGY’
Ar y sbectrwm o lyfrau sydd yn y Beibl – o bethau sy’n farddoniaeth neu alegori pur i bethau y gallwn ddarllen yn weddol lythrennol – mae Actau yn pwyso tuag at yr ochr fwy llythrennol. Wedi dweud hynny, mae’n bwysig i ni gofio mai hanesydd a diwinydd gydag agenda oedd Luc. Yn yr un ffordd dwi dim ond yn cyfri faint sydd yn y capel pan mae’r capel yn llawn – gallwn gymryd fod ychydig o hynny yn mynd ymlaen yn adroddiadau Luc hefyd. Ystyriwch yr Efengylau, nid yw pob manylyn am fywyd Iesu yn yr Efengylau. Yr hyn sydd wedi ei gynnwys yw’r manylion sy’n cyfrannu at y naratif diwinyddol mae’r awduron yn ceisio ei greu. Neu, o roi’r peth mewn cyd-destun cwbl wahanol, pan roddwn i’n paratoi fy PhD am R. Tudur Jones nid oeddwn yn cynnwys pob un manylyn am ei fywyd, ond yn hytrach dim ond yn cynnwys y manylion oedd yn cyfrannu at ddadl y thesis – felly roedd rhaid gadael allan yr adran am ei obsesiwn gyda threnau stêm! Mae’r un peth yn wir am Actau, roedd Luc yn ysgrifennu gyda phwrpas – roedd eisiau dangos grym yr Atgyfodiad a phŵer gwaith yr Ysbryd Glân.
I bob diwrnod llawn cyffro sy’n cael ei adrodd yn Actau, mae yna gyfnodau o wythnosau – weithiau misoedd – lle nad oes dim byd cyffrous yn digwydd. Gallwn ond dychmygu fod y Cristnogion yn ystod y cyfnodau tawel yna yn cario mlaen yn ffyddlon i geisio Duw wrth gario mlaen i fyw eu bywydau bob dydd – ac efallai fod yna wers i ni yn yr hyn nad sydd wedi ei nodi yn Actau.
Mae tuedd gan yr eglwys, a dwi wedi bod yn euog o hyn fy hun yn y gorffennol wrth bregethu Actau, i’w ddarllen mewn ffordd rhy fuddugoliaethus (triumphalist). Hoffwn i ddysgu darllen Actau gydag osgo mwy gostyngedig. Rhaid gwerthfawrogi mae nid criw buddugoliaethus, o leiaf o safbwynt bydol, oedd yr eglwys fore.
Perygl darllen Actau gydag osgo rhy fuddugoliaethus yw ein bod yn gosod ein hunain i fyny i fethu wrth ddisgwyl miloedd o dröedigaethau ac adroddiadau cyson o iachâd ym mywyd ein heglwys heddiw. Rwy’n credu ac wedi profi pobl yn cael tröedigaethau dramatig a hefyd yn adnabod pobl sydd wedi profi iachâd. Ond, fe all darlleniad rhy fuddugoliaethus o Actau arwain at yr hyn sydd wedi ei alw yn ‘Over-Realized Eschatology’, hynny yw disgwyl y bydd popeth y mae Duw wedi ei addo yng nghyflawniad amser i ddigwydd yn unionsyth heddiw.
Felly, wrth i ni edrych ar Lyfr yr Actau tymor yma dwi eisiau i ni werthfawrogi ei gyd-destun diwylliannol a dynol. Ond hefyd cofio ei wraidd Dwyfol. Mae yna rywfaint o baradocs yn hyn – sut all y Beibl fod o wraidd Dwyfol ond â chyd-destun dynol? Fel y dywedodd Peter Enns: “…as Christ is both God and human, so is the Bible.” Heb fod un yn tanseilio’r llall.