Un o wersi mwyaf annifyr sgandal Horizon a’r Swyddfa Bost oedd nad oedd dweud y gwir bob amser wedi arwain at ryddid a chyfiawnder i rheiny oedd wedi eu cam-gyhuddo. Am flynyddoedd, dywedodd is-bostfeistri cyffredin fod rhywbeth o’i le ar system gyfrifiadurol. Ond yn hytrach na gwrando, trodd y sefydliad yn eu herbyn. Cawsant eu beio am golledion nad oeddent wedi’u creu; chwalwyd enw da, bywoliaeth a theuluoedd rhai ohonynt.
Mae’n stori sy’n codi cwestiwn dyfnach am ein cymdeithas: beth sy’n digwydd pan fydd y gwir yn herio grym? Hoffem gredu bod sefydliadau’n barod i dderbyn bai a newid pan gyflwynir y dystiolaeth. Ond yn aml, mae grym yn amddiffyn ei hun. Mae’n gwadu, yn oedi ac weithiau’n cosbi’r sawl sy’n gwrthod cadw’n dawel.
Dyna’r byd rydym yn ei gyfarfod yn Exodus 5. Mae’r Israeliaid yn gaethweision yn yr Aifft, yn gwneud brics i adeiladu teyrnas Pharo. Mae Duw wedi clywed eu cri ac wedi anfon Moses i fynnu eu rhyddid. Mae Moses yn ufuddhau—ond mae popeth yn gwaethygu.
Nid yw Pharo’n ildio. Mae’n mynnu’r un nifer o frics ond yn gwrthod darparu’r adnoddau crai. Mae’n creu targed amhosibl ac yna’n cosbi’r gweithwyr am fethu. Mae hefyd yn llwyddo i droi’r bobl yn erbyn Moses. Yn lle herio’r grym sy’n eu gorthrymu, maent yn beio’r dyn a ddaeth i gyhoeddi rhyddid.
Mae’n hawdd deall sut mae Terry Eagleton a deallusion Marcsaidd eraill wedi eu dennu at y rhan penodol hwn o’r Hen Destament. A dyna pam hefyd fod y llun o’r tips glo wedi eu cynnwys. Sylwch mor debyg maen nhw’n edrych i byramidiau’r Aifft. Yr un yw baich gwerin y byd!
Beth bynnag, yn nes at adref rydym yn adnabod rhywbeth o’r patrwm hwn. Gall enwi problem mewn teulu wneud y berthynas yn fwy cymhleth cyn iddi wella. Gall gwrthod diwylliant anonest yn y gwaith ein gadael ar yr ymylon. Gall eglwys sy’n ceisio newid ei harferion er mwyn gwasanaethu ei chymuned ddarganfod bod gwrthwynebiad yn dod nid yn unig o’r tu allan, ond o’r tu mewn hefyd.
Nid yw hynny’n golygu bod pob gwrthwynebiad yn profi ein bod yn iawn. Mae angen digon o hunanymwybyddiaeth i ofyn a ydym wedi camddeall, siarad yn ddiofal neu drin pobl yn wael. Ond nid yw anhawster ynddo’i hun yn profi ein bod ar y llwybr anghywir. Weithiau mae pethau’n gwaethygu oherwydd bod rhywbeth anghywir wedi cael ei herio.
Y cwestiwn wedyn yw sut rydym yn ymateb. Mae Moses yn mynd yn ôl at Dduw, ond nid gyda gweddi daclus. Mae’n gofyn: “Pam?” ac yn cyhuddo Duw o beidio â gwneud dim i achub ei bobl.
Gall crefydd ein dysgu i guddio’r fath deimladau, fel petai ffydd yn golygu cynnal wyneb parchus. Ond mae’r Beibl yn cynnig rhywbeth mwy gonest. Mae’r Salmau’n dadlau â Duw. Mae’r proffwydi’n llawn protest.
Nid y gwrthwyneb i ffydd yw gonestrwydd. Gall dweud y gwir wrth Dduw fod yn weithred o ffydd, oherwydd rydym yn dal i droi ato.
Pan ateba Duw Moses, nid yw’r amgylchiadau wedi newid eto. Mae Pharo ar ei orsedd o hyd. Mae’r bobl yn dal yn gaeth. Ond mae Duw’n dweud: “Fi ydy’r ARGLWYDD.” Mae wedi clywed, wedi cofio ac yn mynd i weithredu.
Nid sicrwydd y bydd bywyd yn hawdd yw craidd y ffydd Gristnogol. Y sicrwydd yw nad Pharo—na’r grymoedd sy’n ei efelychu heddiw—fydd yn cael y gair olaf. Mae’r groes yn ymddangos fel buddugoliaeth grym Rhufain dros gariad, ond daw’r atgyfodiad fel gair olaf.
Weithiau nid map o’r ffordd ymlaen sydd gennym, ond addewid nad yw’r stori drosodd. Efallai mai dyna’r math o obaith sydd ei angen arnom: nid optimistiaeth rad, ond y dewrder i ddweud y gwir, a gwrthod credu mai’r grymoedd mwyaf amlwg yw’r rhai mwyaf terfynol.

