Baner yr Iwcrain

Baner yr Iwcrain

Ddiwedd yr wythnos mi fydda i yn teithio gyda Jim Stuart fel rhan o ddirprwyaeth o Gymru i ymweld ag Eglwysi a gwaith Cristnogol blaengar yn Kiev, Prif Ddinas yr Iwcrain. Gydol wythnos yma felly dwi am rannu rhywfaint am y daith ar hyn fyddw ni’n gobeithio ei wneud/darganfod allan yna. Dwi’n ymwybodol hefyd fod rhai o ddarllenwyr y blog sy’n aelodau yn fy Eglwys adref yn Aberystwyth ac hefyd fyny yma ym Mangor wedi gwneud cyfraniadau hael tuag at y daith, dwi’n hynnod ddiolchgar i chi am eich cyfraniadau.

 

Felly pam mynd a beth rydym yn disgwyl ei ddysgu?

Jim Stewart or Gynghrair Efengylaidd (Arweinydd y Ddirprwaeth)

Jim Stewart o'r Gynghrair Efengylaidd (Arweinydd y Ddirprwaeth)

Fe’n gwahoddwyd ni rai misoedd yn ôl gan Jim Stewart (sy’n aelod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd yn y Cynulliad ac yn swyddog cyswllt yn y Cynulliad i’r Gynghrair Efengylaidd) i deithio gydag ef i’r Wcráin i ddysgu am berthynas yr Eglwysi a gwleidyddiaeth a gwaith dyngarol yn y brifddinas, Kiev. Fe enynnodd hyn chwilfrydedd ynom ni i ymuno â Jim Stewart er mwyn dysgu gwersi i ni yng Nghymru a deall pwysigrwydd dod ag agweddau mwy ymarferol y ffydd Gristnogol yn ôl i ganol gwaith yr Eglwysi yng Nghymru.

 

Rhagwelwn y bydd mynd allan i arsylwi model Dwyrain Ewrop o berthynas cymunedau Cristnogol a chymdeithas sifig yn ehangu ein gorwelion ac yn ein llenwi ag ysfa i ddod â gweledigaeth ac ysbrydoliaeth newydd yn ôl i’r eglwysi yng Nghymru. O ran cwestiynau sydd yn codi ac y gallwn fynd ar eu hôl tra’n rhannu profiadau gyda’r eglwysi mae:

● Sut mae Duw wedi bendithio a rhoi tŵf yn yr eglwysi yn Kiev?

● A oes traddodiad cryf o waith yn y gymuned wedi perthyn i’r Eglwys yn yr Wcráin?

● Pa fath o berthynas sydd gan yr eglwysi newydd sydd yn tyfu gydag Eglwys Uniongred yr Wcráin?

● A yw cenedligrwydd aelodau’r eglwysi yn bwysig iddynt?

● A oes yna draddodiad o Gristnogion yn cefnogi gwahanol bleidiau neu un blaid wleidyddol yn unig?

Mwy o wybodaetham y daith yn y blogiad nesa!

Please follow and like us: