Byddwn ni’n hedfan o Fanceinion ar Hydref 3 2008 ac yn dychwelyd o Kiev ar Hydref 8. Fel nodwyd yn y blogiad diwethaf arweinydd y daith fydd Jim Stewart. Tra allan yn Kiev ein gwesteiwr a’n tywysydd fydd Kelly Houdikoff, sy’n arwain YWAM (Youth With A Mission) yn Wcráin. YWAM fydd yn ein bwydo a’n lletya. Byddwn ni’n ymweld â’r Eglwysi/Mudiadau canlynol tra yn Kiev:

Embassy of God, Kiev

Embassy of God, Kiev

Embassy of God, Kiev:
Eglwys wedi ei sefydlu yn 1994 ac wedi gweld bendith aruthrol yn y ddegawd diwethaf. Wedi rhoi cymorth i dros 3,000 ddod yn rhydd o gaethiwed cyffuriau ac alcohol. Yn cartrefu plant amddifad. Rhwng 1,000 a 2,000 yn cael eu bwydo’n ddyddiol yng Nghegin Gawl yr Eglwys. Wedi dwyn dylanwad llesol ar Wleidyddion llwgr ac aelodau Maffia dinas Kiev. Gwefan: www.godembassy.org

Eglwys Fedyddiedig, Kiev
Eglwys sy’n flaengar yn dangos diddordeb yng ngwleidyddiaeth eu gwlad. Y Gweinidog â phrofiad helaeth o gynghori gwleidyddion sy’n gorfod delio â themtasiynau i gyfaddawdu eu gwerthoedd wrth wleidydda.

YWAM, Kiev

YWAM, Kiev

YWAM, Kiev

‘Mercy Trucks’ sy’n dod â gwasanaethau iechyd a deintydda i ardaloedd sydd heb glinigau ac i bobl na all fforddio gweld deintydd arferol. ‘Key of Hope’ sy’n gweithio gyda phlant di-gartref. Gwasanaeth Cynghori i deuluoedd sydd ar chwâl, i bobl sy’n gaeth i gyffuriau ac i bobl â phroblemau rheoli tymer. Gwefan: www.ywamkyiv.org

Mae Jim wedi trefnu i ni ymweld a mwy o eglwysi ond dyna’r tri eglwys/mudiad dwi wedi cael gwybodaeth amdanynt ar hyn o bryd. Mwy am y trefniadau yn y blogiad nesaf.

Please follow and like us: