Yn y ddau ran gyntaf (Rhan 1, Rhan 2) fe wnes i roi rhyw fraslun o ddiben y daith a’r eglwysi/mudiadau fyddw ni’n ymweld a nhw. Yn y blogiad yma dyma air am yr hyn fyddw ni’n gobeithio rhoi nôl i’r Eglwysi yng Nghymru.

Ar ôl dychwelyd fe ragwelwn gyfres o erthyglau yn adrodd am yr hyn a welsom a’i gymhwyso i sefyllfa’r eglwysi yng Nghymru i’w gyhoeddi ym mapurau a chylchgronau Cristnogol Cymru, seciwlar hefyd os yn addas. Fe fyddw ni’n trefnu taith i adrodd am yr hanes a’i gymhwyso – un cwrdd yn y gogledd, un yn y canolbarth a un tua’r de – noson ym Mangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin ac mi fuasem yn agored i wahoddiadau pellach. Gwneud cyflwyniadau i gynadleddau ieuenctid yr holl eglwysi sy’n agored i’n gwahodd, enwadol ac anenwadol. Bod yn agored i dderbyn gwahoddiadau i roi adroddiad i fyrddau bywyd eglwys a chenhadaeth yr enwadau oll os bydd galw a gwahoddiad. Fe fyddwn yn mynd ag offer ffilmio allan gyda ni ac wedi dychwelyd mi fyddwn yn golygu fideo neu gyfres o fideos am y daith a’r hyn a ddysgasom a’i osod ar y we i eglwysi a Christnogion edrych arno a dwyn gwersi/ysbrydoliaeth oddi wrtho.

Dyna yw’r gobaith beth bynnag. Blogiad neu ddwy arall cyn gadael ben bore Gwener gobeithio.

Please follow and like us: