Parch. J.D. Williams 1915-2006

Heddiw yma fe fynychais angladd Y Parchedig J.D. Williams yng Nghapel Bethany, Rhydaman. Ef oedd olynydd yr enwocaf o Weinidogion y Capel y Parch. Nantlais Williams; ac fe olydwyd J.D. wedi hynny gan fy Nhad-cu, Y Parch. Gareth H. Davies. Claddwyd J.D. nesaf at fy Nhad-cu – heno yma mae olion yr olyniaeth a ddefnyddiodd Duw i bregethu ei air yn Nhref Rhydaman gydol yr Ugeinfed Ganrif yn res urddasol ar Heol y Gwynt – Nantlais Williams 1874-1959 (Bethany 1901-1944) J.D Williams 1915-2006 (Bethany 1944-1981) a Gareth H. Davies 1927-2005 (Bethany 1981-1994) – y gair allweddol yw ‘olion’ wrth gwrs oblegid, i ddyfynnu un o’r emynau y phrynhawn yma “…bydd canu yn y nefoedd pan ddel y plant ynghyd.” Mae’r trio ohonyn nhw yn fyw ac yn iach yn y baradwys dragwyddol bellach.

J.D. Williams

Fe’i ganwyd ym Mhen-uwch, Ceredigion. Aeth ymlaen i ysgol y sir yn Nhregaron ac yna i Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn gyntaf ac yna a gradd BD (Diwinyddiaeth). Ei ofalaeth gyntaf oedd Eglwys Bethel, Llangyfelach – roedd felly yn weinidog yng nghylch Abertawe yn ystod blynyddoedd blin y Rhyfel. Yn 1944 daeth galwad wedi ymddeoliad Nantlais iddo symud i Bethany, Rhydaman. Cyrhaeddodd Eglwys fawr ac iddi 500 o aelodau yn ei eiriau ef; “…roedd Nantlais Williams wedi gosod yr eglwys ar sylfeini cadarn, ymhob ystyr.” Cyrhaeddodd Bethany yn llawn brwdfrydedd, fodd bynnag profodd ei ddwy flynedd gyntaf yna yn anodd iawn – doedd rhywbeth ddim yn cydio.

Dywedodd J.D. Am y cyfnod anesmwyth yma;

…bu’r ddwy flynedd gyntaf yn rhai digon anodd. Synhwyrais yn fuan fod rhywbeth yn eisiau yn fy ngweinidogaeth. Roedd nifer dda o’r aelodau wedi bod drwy Ddiwygiad 1904-05, a phrofiadau mawr y cyfnod hwnnw yn dal i liwio eu bywyd eglwysig o hyd. Ond roedd hyn oll yn ddieithr i mi! Sut y gallwn i gynorthwyo a helpu’r rhain i gynyddu ar unrhyw lefel ysbrydol?

…Ar derfyn y ddwy flynedd anniddig, trefnwyd Ymgyrch Efengylu yn yr eglwys… Bendithiwyd yr eglwys yn fawr; cafodd nifer o’r aelodau, gan gynnwys pobl ifanc, dröedigaeth – a minnau, eu gweinidog, yn eu plith.

Dechreuodd ar ei Weinidogaeth felly, fel Nantlais hefyd, cyn dod i gredu drosto ef ei hun! Profi unwaith yn rhagor fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus nad ydym ni’n gwybod y geiriau heb adnabod y gair. Gweinidogaethodd yn Bethany am 37 o flynyddoedd arall wedi ei dröedigaeth. Yn ogystal a’i waith beunyddiol fel Gweinidog bu’n weithgar yn rhengoedd Mudiad Efengylaidd Cymru yn ogystal a bod yn Llywydd Sasiwn y De o’i enwad Eglwys Bresbyteraidd Cymru (aka Methodistiaid Calfinaidd). Fel Nantlais o’i flaen am Tad-cu ar ei ôl roedd J.D. (wedi ei dröedigaeth beth bynnag) yn Fethodist Calfinaidd old school – cydnabu bechod yn ei bregethu ac fe esbonia ffordd gras Duw trwy farwolaeth iawnol Iesu ar y Groes i ddyn ddianc o bechod a dod yn iawn gyda Duw. No messing chadal plant y dyddiau yma – symlrwydd Efengyl Crist ydyw’r unig Gristnogaeth sydd wedi achub ac sydd yn achub. Diolch i Dduw am ddefnyddio olyniaeth Bethany, Rhydaman i argyhoeddi dynion o’i pechod a’i galw yn ôl i’r gorlan.

I orffen fe ddyfynnaf emyn gan Nantlais a ganwyd heddiw ac a ganwyd yn angladd fy Nhad-cu y llynedd;

Trugarog a graslawn yw’r Arglwydd,
Hwyrfrydig i lid o roi lle;
Nid byth y mae’n cadw digofaint,
Nid byth yr ymryson efe;
Fel tad wrth ei blant y tosturia,
Mae’n cofio mae llwch ydynt hwy;
O f’enaid, bendithia yr Arglwydd
Bendithia yr Arglwydd byth mwy.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.