Y nofel gyntaf cydiais ynddi eleni oedd Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred, ac yn ei dro fe gydiodd y nofel ynof finnau. Wedi ei lleoli ym Meirionnydd, yr ardal lle’r oedd Nain yn byw, roedd yr hin yn ddigon cartrefol. Y disgrifiadau o wyntoedd oer Ardudwy yn gyfarwydd i ni oedd yn cofio mynd am dro at Bont Briwat ym mhob tywydd i osgoi syrthio i drwmgwsg o flaen y tanllwyth o dân ar Griffin Terrace wedi llond bolaid o ginio dydd Sul Nain, wedi ei weini gyda phys slwj bob tro.

Fe wnes i fwynhau’r nofel yn arw, roedd yn darllen fel sgript ffilm ar adegau gyda dawn dweud ffraeth Alun Ffred yn gwneud i mi wenu a chwerthin yn uchel. Ond un agwedd o’r nofel wnaeth ddal fy sylw oedd ei fod wedi ei lleoli, yn fwriadol felly, droad y mileniwm a hynny fel y datgelodd Alun Ffred mewn cyfweliadau, mewn byd cyn dyfodiad y smartphone a’r gorfwylldra ddilynodd hynny gyda milwriaeth y cyfryngau cymdeithasol. 

Ac yn naturiol i fi fel Gweinidog roedd gen i ddiddordeb sut roedd ffydd a chrefydd yn cael ei bortreadu yn y gymdeithas Gymreig hon oedd ar y rhicyn rhwng yr hen Gymru anghydffurfiol a’r wawr seciwlar newydd. A doedd dim rhaid edrych yn bell, roedd sawl cyfeiriad cynnil at rôl barhaol y capel ym mro’r nofel. Ond y sylw a safodd allan i fi oedd hwn:

“… nid hynny oedd yn gyfrifol bod Idwal Davies ar bigau ac yn methu byw yn ei groen. Gobeithiai, ond ni ddisgwyliai, weld Bob Hughes yn cyrraedd i gyfaddef ei bechodau, os oedd y fath beth â phechod yn dal i fodoli yn y unfed ganrif ar hugain.”

Wel dyma sylw craff sy’n cynnig trafodaeth i ni. Pechod! Mae’r syniad yma o ‘bechod’ – a phechod gwreiddiol o ran hynny – yn rhywbeth mae’r eglwys wedi bod yn cnoi cil arno trwy hanes. Un o’r pethau gorau dwi wedi darllen am ‘bechod gwreiddiol’ yn ddiweddar oedd y llyfr ‘Chosen’ gan yr Offeiriad a’r Colofnydd Giles Fraser. Yn y llyfr mae’n awgrymu fod y term ‘unoriginal sin’ yn gwneud mwy o synnwyr:

“Human beings are fundamentally broken. In other words, sin is not some secret shame but a feature of our common humanity. Original sin is badly named: it really should be called unoriginal sin because it is part of all of us, and is mostly configured in the same way. Sin is original only in terms of its origination. Properly understood, sin is Christian language for human nature.”

Y ddynol natur! Roedd digon o hwnnw i’w weld yn nofel Alun Ffred yn sicr. Giles Fraiser eto:

“The concept of original sin is often condemned as harsh and judgmental – as if to speak of human beings as ontologically sinful is somehow to rubbish them and denigrate the beauty of human life.  Talk of sin instinctively feels repressive. In fact, the reverse is true. For if our wills are corrupted by Adam’s fall and human beings are congenitally incapable of moral perfection – the message of original sin – then it is a profound cruelty to require perfection of us.”

I fyd ac i bobl sy’n flinedig gyda phwysau pechod dydy’r syniad Beiblaidd o bechod gwreiddiol ddim yn gondemniad mae’n rhyddhad … neu o leiaf yn esboniad. Ond fel yr awgryma awdur y nofel, nid yw’r Gymru gyfoes yn meddu’r cysyniad o bechod, a heb hynny sut ellir gwneud synnwyr o’n dyndod bregus?

Please follow and like us: