Un: NHS.
Dwi’n ifanc, ac ar y cyfan mae fy nheulu i gyd wedi mwynhau iechyd da. O ganlyniad dwi ddim wedi gorfod treulio llawer o amser yn yr ysbyty ac yn nwylo’r NHS erioed. Hynny yw tan wythnos yma. Dwi’n iawn ac mae fy nheulu yn iawn ond wythnos yma bu salwch difrifol yn un o fy eglwysi am y tro cyntaf ers i mi ddechrau ar y gwaith yn yr Hydref felly treuliais beth amser gyda’r brawd a’i deulu yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd. Fe ddysgodd hyn i mi fod yr NHS yn wych a bod gofal nyrsys Ysbyty Gwynedd yn rhagorol.
Dau: Bro.
Mae fy nheulu i yn enghraifft berffaith o deulu symudol sydd â gwreiddiau mewn cant a mil o lefydd ond bellach heb wraidd yn unman mewn ffordd. Yn Aberystwyth ces i fy magu ond doedd Mam na Dad yn dod o Aberystwyth. Roedd Mam yn dod o Lanelli ond bellach does neb o deulu Mam yn byw yn Llanelli. Roedd Dad yn dod o Benrhyndeudraeth ond ers colli Nain rydym ni’n colli mwy mwy o gysylltiad o Phenrhyn. Mae Mam a Dad dal yn byw yn Aberystwyth, dwi’n byw yng Nghaernarfon, mae fy chwaer yn byw yng Nghaerfyrddin a’m brawd yng Nghaerdydd. Ar un llaw mae yna rywbeth braf am hyn – fedra i byth ddweud fod fy nghysylltiadau teuluol yn glostraffobig oherwydd mae wythnosau, weithiau misoedd yn mynd cyn i mi ddal fyny gyda phawb. Fodd bynnag dwi wedi cael y fraint wythnos yma o dreulio amser gyda theulu lle mae’r rhan fwyaf wedi aros yn eu milltir sgwâr. Fe ddysgodd hyn i mi fod llawer o gymdogaeth a chynhaliaeth teulu yn cael ei golli wrth i deuluoedd rannu allan a gadael bro eu mebyd.
Tri: Ysbryd.
Paratôdd dim un ddarlith, seminar na chynhadledd Gristnogol fi ar gyfer y gwaith bum yn ei gylch wythnos yma. Ces droi at ambell i un ar y ffôn am gyngor ond yn y diwedd bu rhaid i mi bwyso ar yr Ysbryd i fy arwain i droi at yr adnodau iawn, i ddweud y geiriau iawn ac i weddïo’r hyn oedd ei angen. Fe ddysgodd hyn i mi mae’r Ysbryd, yn y diwedd, yw’r arweiniad pwysicaf.
Pedwar: Gobaith.
Amlygodd Duw’r adnod yma i mi wythnos yma: ‘Y mae’r Arglwydd yn dda – yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae’n adnabod y rhai sy’n ymddiried ynddo.’ (Nahum 1:7) Fe ddysgodd hyn i mi mae’r unig obaith, a’r unig obaith sydd angen, ar amseroedd anodd fel hyn ydy gobaith tragwyddol Iesu.