anarchismMae rhai wedi sôn fod yna ddau brif ideoleg ymysg arweinwyr Cymdeithas yr Iaith ar hyn o bryd – mae yna lond dwrn ohonom yn dod tuag at waith y Gymdeithas fel Cristnogion ac mae yna lond dwrn hefyd yn dod at waith y Gymdeithas fel anarchwyr. Ar yr olwg gyntaf mae’r ddau safbwynt yma yn gwbwl wrthwynebus i’w gilydd ac o ddiffinio anarchiaeth yn yr ystyr gul, sef gwrthwynebu’r angen am unrhyw fath o awdurdod, yna y mae Cristnogaeth ac Anarchiaeth yn anghydnaws.

Nid yw Cristnogion yn credu y dylai y Wladwriaeth fod yn holl-bwerus, rydym ni’n credu y dylai’r Wladwriaeth, yn hytrach, fod yn was i’w phobl a hynny dan (ac nid yn uwch) na sofraniaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Mae’r Cristion yn gweld bod sffêr i’r Wladwriaeth mewn cymdeithas ond ei fod wedi llwybro allan o’i sffêr cyfrifoldeb ef a dylanwadu’n anghyfiawn mewn sffêroedd eraill dros y canrifoedd, wedi ymlwybro’n orthrymus i sffêr crefydd, i sffêr addysg ac yn y blaen. Felly, er ein bod ni fel Cristnogion yn gweld rôl i’r Wladwriaeth rydym ni hefyd yn credu fod rôl barhaus gan Gristnogion a’r Eglwys roi critique o’r Wladwriaeth honno. Ac yn yr ysbryd yna fedra i ddeall y cyfaill o anarchydd ddywedodd wrtha i neithiwr fod y ddau garfan o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn rhyw fath o anarchwyr mewn gwirionedd. Yr adnodau ddaeth yn syth i’m meddwl i oedd:

Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef. (Rhufeiniaid 12:1-2)

Os mae priodwaith Mi5 yn Thames House, Llundain ydy ‘to protect the UK against… actions intended to overthrow or undermine parliamentary democracy by political, industrial or violent means,’ yna efallai mae dim ond mater o amser y bydd hi cyn i’r Wladwriaeth fynnu nad yw’n “briodol” darllen a phregethu rhannau o Air Duw fel yr adnodau uchod.

Please follow and like us: