Heno dechreuodd drama hir ddisgwyliedig S4C, Pen Talar. Fe addawyd ‘siwrne epig dau ffrind’ wedi blethu gyda ‘hanes cenedl.’ Dyma fydd ‘drama fawr yr hydref ar S4C’; ‘cyfres epig’ sy’n dilyn Defi a Doug dros hanner canrif, drwy un o’r cyfnodau mwyaf tymhestlog yn hanes Cymru, hanes y byd a’u hanes nhw. Roeddwn i’n meddwl fod y bennod gyntaf yn ardderchog. Os gwnaethoch chi ei fethu yna gwyliwch hi ar S4/Clic a cofiwch wylio gweddill y gyfres.
Mewn cyfnod lle mae dyfodol S4C yn ansicr mae’r gyfres yma wedi landio ar ein setiau teledu ar yr amser gorau posib. Dyma’r union math o ddrama oedd S4C ei hangen ar y foment dyngedfennol hon yn ei hanes. Drama uchel tu hwnt ei safon ac, a hynny’n gyn bwysiced efallai yn yr hinsawdd sydd ohoni, drama yn dilyn hanes y mudiad cenedlaethol. Drama i ysbrydoli a deffro’r Cymry ac i’w hatgoffa, yn y bôn, ein bod ni wedi gorfod brwydro dros bob dim gan gynnwys S4C ei hun, y sianel sy’n darlledu’r ddrama hon. Mewn ffordd mae hi’n ffitio i mewn i’r un genre a Llafur Cariad, un o fy hoff ddramâu ar S4C erioed, a ddarlledwyd rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Cofiwch am ddeiseb NA i doriadau S4/C os ydym ni am barhau i weld mwy o ddramau o safon Llafur Cariad a Pen Talar yn Gymraeg
Ar y rhaglen gyntaf heno cafwyd hanes y ddau gymeriad ddechrau’r 1960au. Mae Menna wedi sefydlu pentalarpedia.com (wedi ei ddylanwadu gan lostpedia) er mwyn trafod cynnwys a datblygiadau’r ddrama o un wythnos i’r llall. Yn naturiol, ac yn or-ragfynegiadwy efallai, dwi mynd i ddilyn sylwebaeth y ddrama am rôl crefydd yn y gwahanol gyfnodau. A dyma rhai o’r pethau wnaeth sefyll allan heno ‘ma:
Ysgol Sul ac Argyfwng Taflegrau Ciwba
Yn y bennod gyntaf mewn golygfa tu allan i Gapel Siloa cafwyd trafodaeth rhwng Brwmstan, y Gweinidog, a Thad Defi Lewis oedd yn adlewyrchu trafodaethau crefyddol y cyfnod. Mynegodd Brwmstan fod dirywiad amlwg i’w weld yn y Capel ond mynnodd Tad Defi fod torf gref yn parhau i fynychu ar y Sul. Esboniodd Brwmstan mae nid sôn am niferoedd ydoedd, ond yn hytrach at sylwedd ffydd yr addolwyr. Roedd hyn wrth gwrs yn dra eironig ac yn dangos rhagrith gan i’r bennod ddangos maes o law fod Brwmstan yn dreisiwr ac yn cam ddefnyddio ei bŵer fel Gweinidog. Ysywaeth, ymatebodd Tad Defi drwy anghytuno a Brwmstan gan fod ei ddosbarth Ysgol Sul ef yn parhau i ennyn trafodaethau brwd a dwys. Ond mynnodd Brwmstan fod hynny oherwydd bod dosbarth Tad Defi wedi bod yn trafod Argyfwng Taflegrau Ciwba yn hytrach na phethau ysbrydol.
A rhoi plot ehangach cymeriad Brwmstan i’r neilltu am y tro roedd hwn yn olygfa oedd yn dal tensiwn crefyddol y cyfnod yn effeithiol. Ar un llaw roedd y ffaith fod trafod brwd wedi bod yn yr Ysgol Sul ar Argyfwng Taflegrau Ciwba yn dangos y secwlareiddio oedd wedi dechrau lledu i mewn i fywyd yr eglwysi anghydffurfiol erbyn dechrau’r 1960au. Ar y naill law roedd ymateb Brwmstan, a ddadleuodd na ddylid trafod materion o’r fath o gwbl yn y Capel, yn nodweddiadol o’r adwaith ceidwadol oedd yn hirymarhous i weld perthnasedd dysgeidiaeth Gristnogol i broblemau cyfoes yr oes.
God is Dead – Friedrich Nietzsche
Yn y bennod gyntaf wrth i’r trydanwr, sy’n gariad cudd i Enid Lewis, chwaer Defi drio cusanu Enid yn nhŷ ei rhieni mae Enid yn ei wthio i ffwrdd. Mae’n ymateb drwy ddweud na fydd neb yn gwybod a gweld ac yna mae Enid yn dweud y bod Duw yn gweld. Yna mae’r bachgen yn ymateb drwy ddweud: “Nag wyt ti di clywed? God is dead!”. Mae hwn yn gyfeiriadaeth at athroniaeth Friedrich Nietzsche a boblogeiddiwyd yng Nghymru yn y cyfnod gan J.R. Jones ymysg eraill.
Gwyliwch weddill y gyfres da chi a cofiwch droi i ddarllen a chyfrannu at pentalarpedia.com
Onid Siân yw chwaer Defi ac Enid yn fam iddo?