Mae wedi mynd yn beth ffasiynol ymysg Cristnogion ifanc dyddiau yma i ddweud nad ydyn nhw’n “berson crefyddol”. Y syniad tu ôl y naratif yma yw ceisio cael pobl i ddeall fod yna wahaniaeth rhwng crefydd (farwaidd) a ffydd (fyw). Ond, pan fydda i’n cyfarfod pobl sy’n holi am fy ffydd neu fy ngwaith fel Gweinidog ac yn eu hateb gyda’r ymadrodd slic nad ydw i’n “berson crefyddol” rhyw olwg o ddryswch nid goleuedigaeth sy’n dod dros eu hwynebau. Dyma geisio esbonio rhywfaint felly sail fy honiad nad ydw i’n “berson crefyddol”.
Y gwahaniaeth technegol/diwinyddol rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw bod a wnelo crefydd ac ymgais dyn i gyrraedd duw tra bod a wnelo Cristnogaeth a Duw, trwy ei gariad, yn cyrraedd at ddyn. Mae hyn yn ddigon clir a hawdd i’w ddeall.
Y gwahaniaeth cymhlethach rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw’r gwahaniaeth diwylliannol; a dyma sydd i gyfrif pam fod y duedd boblogaidd ymysg Cristnogion ifanc i ddweud nad ydyn nhw’n “grefyddol” ddim i’w weld yn ddealladwy i’w cyd-Gymry. Mae crefydd yn ddiwylliant tra bod Cristnogaeth, pan ei fod yn driw i’r Beibl a dysgeidiaeth Iesu, yn draws-ddiwylliannol. Does dim rhaid mabwysiadu diwylliant penodol i fod yn Gristion; mae Cristnogaeth yn medru dod yn rhan o, adfer a thrawsnewid y diwylliant oedd gan y person hwnnw yn barod. Parodrwydd y ffydd Gristnogol ar un llaw i lynu wrth ei hegwyddorion craidd ond eto mabwysiadu traddodiadau, diwylliant ac iaith pawb y daw ar ei thraws sydd i gyfri am ei lledaeniad. Yng ngeiriau’r Apostol Paul: “euthum yn bopeth i bawb.”
Dyna yw Cristnogaeth y Beibl beth bynnag; ond y realiti ydy fod Cristnogion dros y canrifoedd wedi llurgunio’r syniad am ddiwylliant a dyma wnaeth y diwylliant capelyddol Cymraeg. Aeth ein ffydd Gristnogol yn grefydd ddiwylliannol. Cymylwyd y linell rhwng ffydd a diwylliant i’r graddau fod crefydd gyda’i gynodiadau negyddol wedi dal gafael. Nid “Cristnogaeth” ym meddwl y Cymry bellach yw ffydd syml ddi-ffuant yn Iesu ond “Cristnogaeth” yw’r grefydd Gymreig gyda’r trimings i gyd: Cwlt y Pregethwr (rhagrithiol mwy na thebyg), y gymanfa ganu, teyrn yr Organ, canu pedwar llais, dyngarwch arwynebol, adeilad nid pobl, traddodiadaeth nid traddodiad.
Ond gwedd gyfoes o hyn yn unig yw llawer o’r diwylliant anglo-americanaidd efengylaidd hefyd. Pregethir mai Cristnogaeth yw ffydd syml ddiffuant yn Iesu ond mewn gwirionedd disgwylir i chi fabwysiadu diwylliant crefyddol hefyd. Cwlt pod-bregethwr, y profiad athsetig neo-Grismataidd, teyrn yr emynau cyfoes canol y ffordd, canu unllais, dyngarwch glamerized, difrïo’r eglwys leol, gweld dim gwerth o gwbl mewn traddodiad; ac y tristaf ohonynt oll – ildio i’r gred fod rhaid troi o’r Gymraeg i’r Saesneg i gael y profiad Cristnogol cyflawn.
Problem crefydd yn ei wedd Gymreig draddodiadol fel yn ei wedd anglo-americanaidd efengylaidd fodern yw ei fod yn mynnu fod pobl yn derbyn Iesu ac hefyd y trimings diwylliannol. Problem hyn yw fod pobl ar y gwaethaf yn methu gweld Iesu trwy’r diwylliant crefyddol ac ar y gorau yn gweld Iesu a gweld y diwylliant crefyddol ac yn gwrthod y ddau. Does gen i ddim amser i Gristnogaeth felly, dyna pam mod i ddim yn “berson crefyddol”.
Rwy’n ceisio dilyn Iesu a pheidio â bod yn grefyddol. Mae’r naill a’r llall eithaf annodd – yn amhosib, wir – heb arweiniad yr Ysbryd!
Mae sawl math o “Gristnogaeth” gan gynnwys enghreifftiau o gapelyddiaeth Cymraeg a Chymreig, ac mae pob math o Gristnogaeth yn syrthio’n brun o ddelfryd y Deyrnas mewn rhyw ffordd. Byw fel disgybl ar ffordd Iesu ydy tasg pob Cristion ym mhob oes a phob gwlad, nid cydymffurfio gyda pha Gristnogaeth bynnag sydd fwyaf dylanwadol o’i g/chwmpas.