Y ddau air allweddol yn Salm 125 yw ‘ymddiried’/‘trystio’ sy’n digwydd yn yr adnod gyntaf ac yna’r gair ‘heddwch’ sy’n ymddangos yn y coda ar y diwedd. Fel Cristnogion rydym yn darllen y Salmau drwy lens Crist ganolog felly rydym yn dwyn i gof eiriau Iesu yn efengyl Ioan 14 –
“Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd.” (Ioan 16.33)
Felly, wrth ddarllen Salm 125 drwy lens Iesu mae’n briodol i ni ddeall y syniad o “heddwch” neu “dangnefedd” yma nid fel syniad neu stad o berffeithrwydd terfynol (er bod y Beibl mewn llefydd eraill yn ei drafod yn y cyd-destun hwn wrth feddwl am y nefoedd a’r ddaear newydd sydd yn dod). Y math o “heddwch” neu “dangnefedd” sy’n cael ei gyfeirio ato yn y Salm yma fwy na thebyg yw’r syniad neu’r stad o feddwl o ffeindio heddwch yn y storm neu yng nghanol realiti bywyd nawr. Fel mae Walter Bruggemann yn dweud:
“[this peace is about] well-being that exists in the very midst of threats – from sword and drought … It is well-being of a material, physical, historical kind, not idyllic pie in the sky, but salvation in the midst of trees and crops and enemies, in the very places where people always have to cope with anxiety, struggle for survival, and deal with temptation.”
Er bod yr heddwch tragwyddol yn rhywbeth i edrych ymlaen eto, rydym hefyd yn troi at Iesu am heddwch heddiw wrth i ni geisio byw ein bywydau mewn byd toredig.
1. MAE ‘HEDDWCH’ YN AMODOL AR YMDDIRIED/TRYSTIO’R ARGLWYDD
Mae’r ymadrodd “rhai sy’n ymddiried/trystio” yn yr adnod gyntaf yn awgrymu hyder, gobaith ac argyhoeddiad. Nid fod y Cristion yn berson sydd wedi hyderu neu ymddiried yn Nuw unwaith yn unig, ond yn hytrach ei fod yn berson sydd yn hyderu ac yn ymddiried yn Nuw yn barhaus. Hynny yw, rhywbeth actif yw ymddiried yn Nuw i’r Cristion ac nid rhywbeth goddefol. Rhywbeth i’w ymarfer, rhywbeth i’w fyw. Rhywbeth, efallai, sydd dim ond yn bosib i’w fyw os yw yn cael ei brofi? Clywais ymadrodd unwaith: “a faith that hasn’t been tested cannot be trusted.”
2. Y BYD NATURIOL YN EIN CYFEIRIO AT HEDDWCH DUW
Mae’r ail adnod yn cymharu’r modd mae’r Arglwydd yn cofleidio ei bobl gyda’r modd y mae’r mynyddoedd oedd yn amgylchynu Jerwsalem yn cofleidio’r ddinas sanctaidd. Mae Jerwsalem yn ddinas sydd wedi ei osod ar fryn, ond mae’r bryn hwnnw wedi ei amgylchynu gan fryniau eraill. Wrth edrych ar fynyddoedd a bryniau Cymru sy’n fframio’r olygfa o lawer o’n cymunedau gallwn hanner dychmygu sut brofiad ydy byw yng nghysgod bryniau sy’n amddiffynfa.
Mae’n hyfryd sut mae’r Salmydd fan hyn yn defnyddio profiad pobl Jerwsalem o’r byd naturiol i’w hatgoffa am wirionedd am eu Duw. Yn yr oes yma le rydym yn treulio gormod o’n hamser gyda tho uwch ein pen, carped dan ein traed a sgrin o’n blaen byddai’n llesol i ni dreulio mwy o amser allan ym myd natur gan gredu y gall y profiad yna ein dysgu a’n hatgoffa ni hefyd am heddwch Duw.
3. MAE’R SALM YN EIN HATGOFFA FOD HEDDWCH YN CAEL EI HERIO’N BARHAUS GAN Y BYD
Mae sôn yn adnod tri bod y tir wedi ei ymddiried i bobl Dduw. Awn ni ddim i drafod yma os mai cyfeiriad penodol yw hwn at y ‘Tir Sanctaidd’, oherwydd mae dehongliadau gwael wedi arwain at ryfel ar ben rhyfel i lawr trwy’r cenedlaethau. Ond mewn termau cyffredinol rydym yn credu fel Cristnogion fod Duw wedi ymddiried y greadigaeth gyfan i ni fel dynoliaeth ei stiwardio.
Fodd bynnag, mae’r adnod yma yn ein hatgoffa ni fod dynoliaeth yn ei ddrygioni yn chwalu a llurgunio’r heddwch yma. Lle bynnag y mae’r cyfiawn yn ceisio stiwardio creadigaeth Duw yn gyfrifol, mae dyn yn ei bechod hefyd wrthi yn gwyrdroi cyfiawnder ac yn egsbloitio cyd-ddyn a’r byd naturiol. Gelyn pennaf dynoliaeth ydym ni ein hunain. Y rhwystr mwyaf rhag heddwch yw’r rhyfel mewnol sydd yn natur pob un ohonom.
4. OND MAE HEDDWCH DUW YN REAL AC YN GORCHFYGU YN Y DIWEDD
Dyma weddi am gyfiawnder, a’r realiti fod Duw yn barnu’n gyfiawn a bod yna berthynas anhepgorol rhwng cyfiawnder a heddwch. Un o sloganau ymgyrchwyr yn aml yw: “No justice, no peace”. Slogan sy’n llawn gwirionedd, nid oes cyfiawnder heb heddwch. Ond ein problem ni fel pobl doredig yw’r reddf yna sydd ynom ni i gymryd pethau i mewn i’n dwylo ein hunain. Y reddf yna am gyfiawnder sy’n gallu troi yn reddf am ddialedd yn llawer rhy hawdd.
Dydy heddwch i’r Cristion ddim yn rhywbeth i ymladd amdano, mae’n realiti sydd eisoes wedi ei ennill gan Grist ar y Groes. Mae’n realiti i’w fyw mewn ffydd hyd yn oed pan fo amgylchiadau yn teimlo’n wahanol.
Bydd nifer ohonoch yn gyfarwydd gyda hanes trist cyflafan Bloody Sunday yn Derry Iwerddon yn 1972 pan laddwyd nifer o ymgyrchwyr diniwed a di-drais gan y Fyddin Brydeinig. Flynyddoedd wedyn ysgrifennodd y band U2 gân bwerus yn ymateb i’r digwyddiad a’r holl gasineb a tor-calon ddaeth yn ei sgil. Yn y pennill olaf mae yna adlais o’r hyn mae’r Salm yma yn dweud am berthynas heddwch ac ymddiriedaeth i’r Cristion.
“The real battle just begun
To claim the victory Jesus won
On Sunday, Bloody Sunday, yes
Sunday, Bloody Sunday”
Daw heddwch i’n bywyd a’n byd toredig ni, nid drwy ymdrech ac yn sicr nid drwy fwy o dywallt gwaed, ond yn hytrach, fel mae geiriau U2 yn awgrymu, drwy lawn sylweddoliad o gyfiawnder perffaith ein Harglwydd Iesu Grist, ein cyfiawnder.
Salm 125
Cân Esgyniad.
1Y mae’r rhai sy’n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion,
na ellir ei symud, ond sy’n aros hyd byth.
2Fel y mae’r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem,
felly y mae’r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
3Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwys
ar y tir sy’n rhan i’r rhai cyfiawn,
rhag i’r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder.
4Gwna ddaioni, O ARGLWYDD, i’r rhai da
ac i’r rhai uniawn o galon.
5Ond am y rhai sy’n gwyro i’w ffyrdd troellog,
bydded i’r ARGLWYDD eu dinistrio gyda’r gwneuthurwyr drygioni.
Bydded heddwch ar Israel!

