Cwestiwn dwi’n gorfod ei ateb yn aml dyddiau yma ydy “lle wyt ti arni gyda’r PhD erbyn hyn?” Wrth ddechrau’r ymchwil bron i dair mlynedd yn ôl roedd rhyw syniad naïf gyda mi y byddai modd gorffen y cyfan o fewn y dair blynedd ond bellach a finnau yn nesáu at ddiwedd y dair mlynedd dwi’n rhagweld tua 9 mis arall tan fod y cyfan wedi gorffen gyda fi. Dwi’n iawn am y peth gan mae prin iawn yw’r bobl sy’n gorffen mewn tri, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymeryd y bedair lawn a rhai yn cymryd mwy na hynny eto. Yr eithriad wrth gwrs oedd R. Tudur Jones ei hun a orffennodd ei draethawd doethuriaethol o Rydychen mewn dwy flynedd!

Mae swmp yr ymchwil wedi ei wneud gyda mi ac mae rhai miloedd o eiriau wedi eu paratoi fydd yn gweithio fel esgyrn cefn i’r penodau felly beth sydd angen i mi wneud nawr ydy jest naddu’r penodau yma allan un wrth un. Ond haws dweud na gwneud yn enwedig gyda’r haf o’m blaen! Dwi wedi gwneud drafft gyntaf o’r bennod gyntaf, wedi paratoi peth wmbreth o adnoddau i benodau 2, 3 a 5 ond mae angen i mi wneud peth ymchwil eto cyn gallu sgwennu pennod 4. Mi fydda i’n hapus iawn os bydd gyda mi dair pennod dda wedi gwneud erbyn Tachwedd ac yna tair arall wedi ei wneud erbyn tua mis Chwefror yna dod a popeth ynghyd erbyn Pasg 2010.

Dyma sut dwi’n gweld y penodau yn dod at ei gilydd ar hyn o bryd (subject to change!)

I ba raddau yr oedd Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones a’r gweithgaredd oedd yn dilyn yn deillio o’i argyhoeddiadau Cristnogol?

Pennod 1: Cefndir cenedlaetholdeb

Pennod 2: Pwy a beth yn y traddodiad diwinyddol Cymraeg oedd yn ddylanwad ar Tudur? Cyflwyno J.E.Daniel, Michel D Jones, Emrys ap Iwan…

Pennod 3: Esboniad llawn o syniadaeth Tudur Jones (a oedd natur ei ddadl yn wahanol mewn gwahanol amgylchiadau? Cyhoeddiadau Cristnogol / Papurau Plaid Cymru?)

Pennod 4: Ym mha ffordd yr oedd Tudur Jones yn gwahaniaethu gyda rhai o’i gyfoeswyr? e.e. Bobi Jones, J. R. Jones, Pennar Davies…

Pennod 5: Pa fynegiant ymarferol rhoddodd Tudur Jones i’w syniadau genedlaetholgar/Gristnogol? Pennod llai syniadaethol a mwy hanesyddol.

Pennod 6: Casgliadau

Please follow and like us: