Gweinidog, Cerddor a Phererin
Brodor o Galiforia oedd Phil Wyman, wedi ei fagu mewn teulu a berthyn i’r Christian Scientists, sect oedd yn un o’r ‘new religious movements.’ Yn ddyn ifanc bu’n byw’r freuddwyd Americanaidd gan fwynhau syrffio, chwarae polo dŵr a dysgu’r gitâr gyda sain bandiau surf y 1960au yn gefnlen i’w ieuenctid. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth gan arbenigo yn y gitâr glasurol. Gyda gwaddol y Jesus Movement yn parhau yng Nghalifornia profodd dröedigaeth Gristnogol erbyn 1980 a dod yn rhan o’r mudiad carismataidd. Ymhen amser ymdeimlodd alwad i’r Weinidogaeth gan wasanaethu o fewn yr enwad Pentecostalaidd ‘Foursquare’, bu’n Weinidog yn Carlsbad, California rhwng 1985 a 1999.
Yn gymeriad oedd yn cael ei ddenu gan yr amgen a’r annisgwyl gadawodd Galifornia a derbyn galwad i blannu eglwys newydd genhadol yn Salem, Massachusetts – ‘Witch City’ – dinas sy’n enwog am gynnal y ‘witch trials’ yn 1692-93 a anfarwolwyd gan ddrama bwerus Arthur Miller, The Crucible. Oherwydd ei chysylltiad gyda gwrachyddiaeth mae Salem yn gyrchfan i bobl sy’n uniaethu a chrefyddau a diwylliant Neo-Baganaidd ac mae’r ddinas yn ferw gwyllt trwy dymor calan gaeaf.
Ar y cyfan bu’r gymuned Gristnogol yn elyniaethus tuag at y gymuned Neo-Baganaidd a phan gyrhaeddodd Phil Salem roedd y rhan fwyaf o genhadaethau Cristnogol yn ymwneud a siarad (neu waeddu!) at y Neo-Paganiad; ond meiddiodd Phil siarad gyda nhw a gwneud ffrindiau yn eu plith. Yn ystod gŵyl Calan Gaeaf (sy’n parhau am fis cyfan yn Salem), nid pregethu tân a brwmstan a wnaeth Phil ond agor pabell “Psalm Readings” ochr yn ochr â’r stondinau Palm Readings a mentrodd gynnig dehongli breuddwydion pobl gan droi at wirebau o Lyfr y Diarhebion neu rai o eiriau’r Iesu. Gwahoddodd bobl i mewn i gell gyffes, nid i ddatgan eu beiau ond yn hytrach i wrando ar Gristnogion yn cyffesu pechodau’r eglwys. Roedd pobl yn aros mewn llinell am oriau weithiau i gael amser gyda’r Gweinidog gwahanol yma oedd yn ffrind i bawb.
Pan ddewisodd Iesu eistedd gyda’r “pechaduriaid” derbyniodd sen y Phariseaid a dyna hefyd oedd hanes Phil. Ystyriwyd ei fodel o weinidogaethu yn Salem fel heresi gan rai, fe’i cyhuddwyd o apostasi gan eraill – adroddwyd am yr helynt yn y New York Times hyd yn oed. Canlyniad y cyfan oedd iddo gael ei daflu allan o’i enwad a’i adael i dorri cwys ei hun gyda dim ond y Meddyg Da fel ffrind.
Parhaodd i ddilyn ei alwad yn Salem am rai blynyddoedd ond yn dilyn profiadau anodd yno fe gollodd ffydd mewn crefydd gyfundrefnol. Tua’r un cyfnod dechreuodd ymweld yn gyson â Chymru, ac ystyriai ei ymweliadau fel balm i’r enaid a syrthiodd mewn cariad â phobl Cymru a’i diwylliant. Ei alwad a’i angerdd mwyaf oedd dod â phresenoldeb a chariad Iesu i mewn i Wyliau, boed hynny yng Ngŵyl Geffylau’r Teithwyr yn Appleby, gyda Chymuned Iona yn Glastonbury neu gyda’r Gorlan Goffi a Gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Eto, fel yn Salem – nid dod i bregethu ydoedd, ond dod i wasanaethu a charu pobl yn enw ei Arglwydd. Teitl ei lyfr diweddaraf oedd ‘Love Big or Go Home’ lle mae’n amlinellu ei weledigaeth Gristnogol a’i athroniaeth bywyd.
Symudodd yma yn barhaol yng Nghanwyn 2022, sicrhaodd Caersalem Caernarfon ac Undeb y Bedyddwyr VISA iddo ddod yma fel Gweinidog ond gyda’r ddealltwriaeth mai dilyn gweinidogaeth amgen y byddai, yn mynd â chariad Crist i lefydd annisgwyl drwy ddulliau anghonfensiynol a phontio’r sgwrs rhwng ffydd, diwylliant, cerddoriaeth ac athroniaeth.
Ei gynllun mawr oedd pererindota trwy Gymru yn cychwyn fis Awst 2023 – ‘taith Dim Saesneg’ – yn siarad dim byd ond Cymraeg a gweld sut y byddai’r antur yn dechrau sgyrsiau, perfformio caneuon gwreiddiol ar thema’r Gwynfydau a chyd-gerdded â chyfeillion newydd. Roedd ei alwad yn anghonfensiynol, roedd yn anghyfforddus mewn capel ond eto roedd hi’n amlwg i bawb a’i adnabu mai’r grym oedd yn ei yrru oedd yr un grym nefol a brofodd yn gyntaf ar draethau Califfornia ddeugain mlynedd yn ôl.