Cefais i fy magu mewn teulu Cristnogol ac roedd mynd i’r capel dair gwaith y Sul yn rhywbeth roeddwn i’n derbyn yn ddi-gwestiwn. Oedfa’r bore am 10, nol i’r Ysgol Sul am 2.30 ac yna oedfa’r nos am 6.

Dwi ddim yn cofio cyfnod yn fy mywyd pan nad oeddwn i’n credu mewn Duw. Ond pan roeddwn yn fy arddegau fe wnes i gredu mewn ffordd fwy personol, hynny yw deall fod ffydd ddim yn rhywbeth roedde chi’n gallu ei etifeddu gan eich rhieni yn awtomatig a bod rhaid i bawb ymateb yn bersonol i gariad Iesu. Ches i ddim tröedigaeth ddramatig a fedra i ddim enwi lle ac amser lle ces i fy “ail eni” – roedd mwy fel proses dros gyfnod i fi na digwyddiad.

Felly roeddwn wedi credu mewn Duw ers erioed, ac wedi credu gydag argyhoeddiad o fy arddegau ymlaen. Fodd bynnag, erbyn i mi gyrraedd y Brifysgol roeddwn wedi dadrithio rhywfaint gyda’r eglwys fel sefydliad am wahanol resymau er na wnes i erioed stopio mynd, allan o arfer neu allan o euogrwydd, wn i ddim. Yr hyn oedd tu ôl y dadrithiad oedd ankst fy ieuenctid yn bennaf, ond roedd yr ankst yna yn ddigon cymedrol mewn gwirionedd. Doedd dim rhaid i mam boeni mod i’n cymryd cyffuriau na dim byd felly, ei gofid pennaf hi oedd ‘mod i wedi newid enwad! Ond roedd gen i ychydig o rwystredigaeth hefyd fod y diwylliant eglwysig oedd yn fy amgylchynu ar y pryd ddim yn rhoi gofod i ofyn cwestiynau anodd a chydnabod fod yna amrywiaeth barn i gael am amrywiol bynciau o fewn yr eglwys. Yn gam neu’n gymwys, dyna oedd fy nghanfyddiad i ar y pryd ac fe wnes i ddadrithio gyda’r eglwys.

Tua diwedd fy nghyfnod yn y Brifysgol roedd fy ffydd ar lefel bersonol yn rhywbeth real o hyd, ond rhywsut roeddwn wedi colli gobaith yn yr eglwys. Ond yr haf yna fe wnaeth ffrind fy ngwahodd i gynhadledd Souled Out yn y Bala am y tro cyntaf, roeddwn i’n gwybod ychydig am Coleg y Bala ond heb fod yno i ddim byd ers ‘mod i’n blentyn ac yn mynd yno gyda Chlwb Plant Hwyl Hwyr.

Yr haf yna y prif siaradwr yn y gynhadledd oedd Andrew Ollerton – ac er mawr sioc i fi – er ei fod yn gynhadledd yn y Bala oedd wedi ei drefnu gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru (Yr Hen Gorff) roedd y prif anerchiadau yn Saesneg! Ac yn naturiol, fel Cymro Cymraeg ac aelod brwd o Gymdeithas yr Iaith roedd hyn yn fy ngwneud yn anghyfforddus iawn i ddechrau.

Ond yr haf yna – trwy gyfrwng y Saesneg – clywais gyfres o bedwar o anerchiadau cwbl ysgubol gan Andrew Ollerton wedi ei selio ar Lythyr Paul at y Philipiaid a dyna oedd dechrau’r daith i fi o ran meithrin calon a baich unwaith eto dros gyflwr eglwys Iesu Grist yng Nghymru. Drwy ei bregethu Beiblaidd ond cyfoes defnyddiodd Duw Andrew i ddeffro rhywbeth yndda i.

Efallai, mewn ffordd ryfedd, roedd angen i mi glywed yr anerchiadau yna yn Saesneg – mewn cyfrwng ac iaith wahanol i’r arfer – iddo beri i mi weld rhywbeth o’r newydd ac adfywio fy ngalwad dros yr eglwys Gymraeg? Wn i ddim, mae gan Dduw synnwyr digrifwch a trefn ryfedd i’w ragluniaeth.

Ers hynny mae Llythyr Paul at y Philipiaid wedi bod yn go-to rheolaidd i fi atgoffa fy hun o gynhesrwydd yr efengyl a phwysigrwydd cymdeithas y saint. Ac felly pan roeddwn i i ffwrdd yn sâl dros yr haf roedd hi’n galondid clywed fod y tîm arwain yng Nghaersalem yn fy absenoldeb wedi penderfynu mai dyma’r darn o’r Beibl y byddem ni’n troi ato tymor yma i gael ein cyfareddu o’r newydd gan gariad Iesu a’n galw eto i fod yn ddisgyblion iddo.

Sul yma rydym yn gorffen y gyfres cyn symud ymlaen i dymor yr Adfent:

Dw i’n gwybod sut mae byw pan dw i’n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu’r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy’r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i’n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim. Dw i’n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi’r nerth i mi wneud hynny.” (Philipiaid 4.12-13)

Please follow and like us: