Dwi wedi bod yn trio atgyfodi fy mlog Saesneg wythnos yma, fe ddechreuodd pethau’n dda yna cyn y ‘Dolig ond gyda’r flwyddyn newydd fe aeth paethau’n dawel. Ond dyma’r cofnodion dwi wedi cyhoeddi yna dros yr wythnos diwetha:
- Dear John Benton… – 5 Chwefror 2009
- Martyn Lloyd-Jones and Pietism, Part 1 – 10 Chwefror 2009
- Martyn Lloyd-Jones and Pietism, Part 2 – 11 Chwefror 2009
- Doxology, Mars Hill and Wales – 12 Chwefror 2009
Mae David Ceri Jones, darlithydd yn Adran Hanes Aberystwyth wedi gadael sylwadau difyr ar yr ail gofnod am Martyn Lloyd-Jones. Bydd rhaid i mi ymateb i’w sylwadau rhyw dro, fedra i ddim cytuno efo llawer maen dweud ond mae ysgogi trafodaeth yn beth da. Hefyd mae gŵr o’r enw Tim Chester wedi gadael sylwadau ar fy nghofnod am John Benton, mae Tim Chester yn eitha bid deal yn y byd cyhoeddi Cristnogol, yn arweinydd eglwysig pwysig ac yn awdur toreithiog – da gweld fod Tim yn darllen fy mlog a gwell fyd ei fod yn cytuno a mi!