Mae’n rhaid i’r pleidiau gwleidyddol ddechrau biahfio nawr! Mae’r holl bethau yma sy’n codi yn dipyn o wrthdyniad o’r PhD. Y diweddaraf isod; ebost uniaith Saesneg gan Blaid Cymru. Dwi’n siŵr fod yr hogiau ifanc sydd tu ôl yr ebost ddim yn ymwybodol o’r tramgwydd y byddai’r neges uniaithog yn ei beri i’r cefnogwyr traddodiadol. Ond dydy hynny ddim yn esgus – fel aelodau lled flaenllaw yn y Blaid (nhw yw arweinwyr newydd Cymru X) dylai’r Blaid yn ganolog fod wedi eu haddysgu yng ngwerthoedd craidd Plaid Cymru. Neu tybed a yw hyn yn dangos i ni eto nad ydy’r Gymraeg yn un ohonynt bellach?
Please follow and like us:
Wn i ddim be fuasa Gwynfor neu Saunders yn meddwl am hyn.
Wedi cael un ddwy ieithog nawr chwarae teg i’r Blaid. Mae’r stwff wedi derbyn gan Llafur, Dem Rhydd a’r Toriaid i gyd bron iawn yn uniaith Saesneg. Mae’n warth o beth.
Mae’r un dwyieithog wedi dod trwyddo AR ôl i ni gwyno ddo. Dyle ni ddim fod wedi gorfod cwyno.