islam

Mae llawer wedi newid ym Mhlaid Cymru a dydy hi yn sicr ddim yn 'Blaid Gristnogol' fel oedd hi yng nghyfnod Saunders a Gwynfor. Ond hi yw'r unig blaid sy'n dal i frwydro dros ryddid i Gymru felly wnes i ddim breuddwydio pleidleisio dros unrhyw blaid arall am hanner munud.

Bydd dilynwyr y blog yn ymwybodol iawn mod i wedi fy siomi gyda Plaid Cymru, ar y cyfan, dros y dair mlynedd diwethaf oherwydd eu record mewn llywodraeth dros y Gymraeg. Methiant i ddelifro papur dyddiol Cymraeg, methiant i sicrhau LCO ddigon eang i lunio mesur iaith gref a gormod o lusgo traed, ar y dechrau beth bynnag, ar fater sefydlu’r Coleg Ffederal Cymraeg. Dwi’n rhyw lled anghyfforddus hefyd gyda’r ffordd y mae’r Blaid, wrth broffesiynoleiddio ei hun, wedi ei llyncu i’r peiriant gwleidyddol mewn modd lle nad ydy hi, ar rai agweddau, fawr gwahanol i’r pleidiau Prydeinig bellach.

Bydd dilynwyr y blog dros yr wythnos diwethaf yn sicr, ac hefyd dros y misoedd diwethaf wedi sylwi mod i wedi datblygu cydymdeimlad real gyda rhai agweddau o bolisïau sy’n cael eu gweld gan rai fel polisïau’r dde gymedrol. Hynny yw, y math o safbwynt ar gyfiawnder cymdeithasol yr oedd Plaid Cymru yn ei harddel yn y degawdau cynnar, fynny at gyfnod Dafydd Wigely mewn gwirionedd. Byddai ceidwadol ac ‘c’ fach yn mynd rhy bell, ond ‘dy chi’n deall beth dwi’n ceisio ei gyfleu.

Dwi wedi dyfynnu hwn droeon ar y blog, ond dwi am ei rannu unwaith eto gan ei fod yn crisialu i’r dim y math syniadaeth wleidyddol rwyf fi wedi dod i’w goleddu yn araf bach dros y blynyddoedd diwethaf:

I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall. – R. Tudur Jones

Fel Cristion dwi’n credu mae’r drefn i ddynoliaeth ydy trefn y cenhedloedd gyda phob cenedl a diwylliant yn dymuno dim i eraill na fyn iddo ef ei hun. Ac felly ystyriaeth ganolog i mi fel Cristion ydy agwedd y pleidiau tuag at imperialaeth. Gwaetha’r modd y mae’r tair prif blaid, Llafur, Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i arddel y safbwynt unoliaethol ar sawl gwedd. Er fod gennyf gydymdeimlad real gyda llawer polisi sy’n perthyn i’r tair plaid, y mae’r ffaith eu bod nhw’n bleidiau unoliaethol yn eu an-nilysu fel opsiwn real i mi yn syth.

Mae hyn wrth gwrs yn gadael Plaid Cymru yn unig fel opsiwn. Ac byddaf, mi fyddaf yn pleidleisio dros Blaid Cymru!

tudur

Ond credaf i fod hyn yn adlewyrchiad gwael arnom ni fel cenedl. Trist mai dim ond un opsiwn sy’n agored i wir genedlaetholwyr mewn etholiad. O’r hyn y deallaf nid dyma’r norm Ewropeaidd. Mae yna sawl plaid genedlaetholgar yn Catalwnia a Gwlad y Basg, rhai ar y dde a rhai ar y chwith a rhai’n gymedrol. Mae’n adlewyrchiad gwael ar y mudiad cenedlaethol ac ar Gymru fel cenedl mae dim ond un plaid wleidyddol gynhennid Gymreig sydd gyda ni, y mae’n dangos anaeddfedrwydd ein gwleidyddiaeth ac yn dangos pa mor daeog yw mwyafrif ein poblogaeth wrth barhau i fwrw pleidlais dros bleidiau Prydeinig sy’n credu y dylai’r sofran dros Gymru fodoli tu allan iddi. Imperialaeth wedi ei lapio a cotton wool ydy’r safbwynt unoliaethol y mae’r Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei arddel. Y mae’n fath o dwll na fyn y Cristion ei ddioddef.

Ond dyna ni, un plaid wleidyddol sydd gan y mudiad cenedlaethol ar hyn o bryd ac mi fydda i’n pleidleisio dros y blaid honno, Plaid Cymru, fory ac yn dymuno’n dda i’w hymgeiswyr dros y wlad. Bydda i hefyd yn gwylio’r canlyniadau nos fory gan obeithio y caiff Plaid Cymru noson dda. Dyma sut wyf fi’n rhagweld y bydd pethau’n troi allan.

Noson sâl i’r Blaid – 2 AS
Ar noson sâl gallai’r Blaid syrthio i ddwy sedd yn unig, os digwydd hyn mi fydda i yn ystyried troi at derfysgaeth o fath er mwyn cael y maen i’r wâl. Wrth i fwy a mwy o bobl symud i mewn i Gymru aiff hi’n gynyddol amhosib i ni sicrhau annibyniaeth a rhyddid drwy bleidlais ddemocrataidd. Ysywaeth, mae Meirionydd gyda Elfyn Llwyd yn saff tu hwnt i unrhyw amheuaeth ac mi ddylai etifedd Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin, Jonathan Edwards, ennill yn gyfforddus hefyd. Ond ar noson wael gellid methu ennill Ceredigion a Môn yn ôl a methu cipio Llanelli nac Aberconwy ac ar ben hynny gellid colli Arfon. Mae ffiniau etholaethol Arfon wedi newid yn sylweddol gyda gweld colli cadarnleoedd Llŷn ac ennill tiriogaeth amheus Dinas Bangor. Y Blaid Lafur fyddai wedi ennill Arfon yn 2005 gyda’r ffiniau fel y maen nhw’n awr. Dwi’n hyderus y bydd Hywel Williams yn saff oherwydd fod Llafur heb gael ymgyrch weledol nac effeithiol o gwbl yma, ond gall hon fod yn golled i’r Blaid ar noson wan.

Noson dderbyniol i’r Blaid – 3 AS
Ag ystyried y ffordd y mae’r Blaid wedi ei gwthio yn ôl i ymylon y system wleidyddol (yn bennaf oherwydd y duedd Lundain ganolog gan y cyfryngau, yn arbennig felly y ‘leaders debates’ bondigrybwyll) bydd hi’n berfformiad digon derbyniol i’r Blaid ddal gafael yn y dair sedd bresennol a dod yn ail da yn rhai o’r seddau targed. Y dair bresennol ydy Arfon, Meirionydd a Dwyrain Caerfyrddin.

Noson dda i’r Blaid – 4 AS
Dal gafael yn y dair bresennol a chipio un o’r seddau targed. Y si ar y stryd yw fod Llanelli, er a mwyafrif sylweddol i’w goresgyn, yn cynnig ei hun fel gobaith gorau y Blaid o ennill sedd newydd. Mae Pleidwyr tu ôl drysau caeëdig yng Ngheredigion yn meddwl fod y Democratiaid Rhyddfrydol am ddal gafael ar yr etholaeth, ond wn i ddim, efallai fod tîm y Blaid wedi gwneud eu gwaith a casglu’r glo man erbyn hyn. Sefyllfa debyg sydd yna yn Môn, y si ar y stryd yw y bydd hi’n dalcen caled i Dylan Rees gipio’r sedd gan Albert Owen, ond pwy a wŷr gyda’r Blaid Lafur yn derbyn swing cyffredinol yn eu herbyn, efallai y bydd hyn yn agor y drws i Dylan Rees.

Noson rhyfeddol i’r Blaid – 5 i 7
Y ddelfryd i’r Blaid fyddai ennill yn Llanelli, Dwyrain Caerfyrddin, Ceredigion, Meirionydd, Arfon, Aberconwy a Môn. Annhebygol iawn, ond pwy a wyr? Pwy oedd yn disgwyl i’r Blaid gipio Rhondda ac Islwyn yn 1999? Neb o gwbl.

A dyna ni, dyna ddiwedd fy nghyfres yn arwain fyny at yr etholiad. Mae’n anodd i mi farnu beth fydd testun trafod nesaf y blog oherwydd bydd y cyfan yn dibynnu ar ganlyniadau’r etholiad! Ond mi geisia i sgwennu ambell i beth ar y blog nos fory wrth i’r canlyniadau ddod trwodd.

Pleidleisiwch a byddwch wych!

Please follow and like us: