Fis Hydref 2017 fe gaeodd cwmni Morris Bros, Cwm-y-Glo. Roedd ganddyn nhw siop rownd y gornel i’n tŷ ni felly ers blynyddoedd roeddem ni’n prynu bara yno sawl gwaith yr wythnos. Bellach mae’r cwmni wedi ail-sefydlu mae’n debyg ond ar raddfa lai ac yn anffodus nid yw’r siop yng Nghaernarfon wedi ail-agor. Roedden nhw’n gwneud chwip o dorth wen dda ac roedd eu torth frown yn neis hefyd.
Pan gaeodd Morris Bros yng Nghaernarfon doedd newid i nôl bara o unig bopty arall y dre ddim yn ymarferol – maen nhw mewn rhan o’r dre dydyn ni ddim yn pasio’n aml a beth bynnag dydy eu bara ddim gymaint â hynny’n well na bara’r archfarchnad. Mae bara Morrisons fymryn yn well na bara Tesco ond y gwir amdani yw bod bara’r archfarchnad yn sâl iawn. Dwi’n credu mai Lidl ydy’r archfarchnad sy’n gwneud y bara gorau … ond nid oes Lidl yng Nghaernarfon.
Rheswm arall i osgoi bara o’r archfarchnadoedd yw eu bod yn cynnwys pob math o gynhwysion di-angen. Dyma restr cynhwysion torth wen arferol o’r archfarchnad:
Wheat Flour (with calcium, iron, niacin (B3) and thiamin (B1)), Water, Yeast, Salt, Soya Flour, Vegetable Oils (Rapeseed, Sustainable Palm), Emulsifiers: E471, E472e, E481; Vinegar, Preservative: Calcium Propionate; Flour Treatment Agent: Ascorbic Acid (Vitamin C).
14 o gynhwysion yn cynnwys rhai artiffisial. Er fod y bara isod yn cynnwys 6 o gynhwysion mae bara yn ei hanfod yn gallu cael ei wneud gyda dim ond tri – blawd, dŵr a halen.
Beth oedd yr ateb felly? Wel, dechrau pobi bara ein hunain siŵr iawn!
Er ein bod ni’n byw bywydau reit brysur rydym ni’n ffodus ein bod ni’n gweithio o adref – ‘da ni allan rhywbryd bob bore a bob pnawn yn ymweld a chyfarfod pobl – ond adre mae’r swyddfa ac felly rydym ni mewn ac allan o’r tŷ trwy’r dydd ac roedd gweithio mewn patrwm o bobi mewn i’r diwrnod yn bosib i ni beth bynnag. Efallai nad ydy pobi yn ystod yr wythnos yn bosib i lawer o bobl – beth am fentro arni ddydd Sadwrn felly?
Ar ôl tipyn o arbrofi a tipyn o lanast a tipyn o amynedd gan Menna dwi’n meddwl mod i (ar ôl tri mis) wedi setlo ar dorth wen burum dwi’n hapus ag e. Dwi’n nodi mae torth furum yw hwn oherwydd mod i newydd ddechrau’r broses o ddysgu sut i bobi gyda lefain (sourdough) … mwy am hynny rhywbryd eto.
Cynhwysion
300g Blawd Cryf Gwyn
200g Dŵr llugoer
7g Burum Cyflym
7g Halen
7g Siwgr
30g Olew Olewydd
Dull
- Cymysgwch y cynhwysion yn dda.
- Tylunio’r toes am 10 munud gyda llaw neu am 6 munud mewn peiriant stand mixer gyda’r dough hook mlaen. Mae rhai hand mixers yn dod efo dough hooks ond dydy hand mixers hyd yn oed gyda’r dough hook ddim yn gweithio’r toes ddigon ar gyfer gwneud bara. Er bod rhywbeth therapiwtig am dylunio toes gyda llaw dwi wedi gweld fod defnyddio peiriant yn gynt ac, yn allweddol, yn gwneud llawer llai o lanast!
- Rhoi’r toes mewn powlen a’i orchuddio.
- Gadael i’r toes ddyblu mewn maint – os ydy eich tŷ yn gynnes gall hyn gymryd cyn lleied ag awr, ond gallai gymryd cymaint â 4 awr.
- Troi’r toes allan a churo’r aer allan ohono.
- Ei siapio fel pêl dynn, ei osod ar bapur greaseproof a’i orchuddio eto a’i adael am 45 munud.
- Yn y cyfamser cynheswch y popty i 225C a gosod oven tray ynddo i gynhesu ac oven tray arall ar waelod y ffwrn.
- Ar ôl tua 45 munud codwch y papur greaseproof sydd a’r bara arno a’i osod ar yr oven tray sydd wedi bod yn cynhesu.
- Glychwch wyneb y toes, gwasgarwch ychydig o flawd ar wyneb y toes ac yna ei sgathru gyda chyllell siarp.
- Rhowch y trey a’r toes arno yn y ffwrn a thywallt rhywfaint o ddŵr ar y trey arall sydd ar waelod y ffwrn i greu stêm. Caewch y popty yn sydyn.
Ar ôl 10 munud rhowch y ffwrn i lawr i 200C a phobi am 20 munud arall (felly pobi am 30 munud i gyd). - Bydd y dorth yn barod pan fydd o leiaf 96C tu mewn. Mae cael themometr yn handi i wybod yn sicr ei fod wedi gorffen pobi yn y canol.
- Cewch eich temtio i ddechrau bwyta’r dorth yn syth ond gadewch iddo orffwys ar wire rack am awr.
Dyna ni – lot haws nag y mae’n swnio! Ewch amdani.