Mae podlediadau wedi bod ar hyd lle ers blynyddoedd nawr a dwi wedi bod yn eu defnyddio yn achlysurol ers tua 2004. Am gyfnod nol yn 2006 fues i’n gyfrifol am ddarlledu podlediad fy hun; ro’ ni’n arfer recordio setiau byw yn Naws (noson fisol Cymdeithas yr Iaith yn Cŵps Aberystwyth a redodd am ddeunaw mis nol yn 2005/06) ac yna eu darlledu nhw fel podlediadau.

Ond y gwir amdani yw fod podlediadau wedi methu dal poblogrwydd eang. Dim ond pobl teck-savvy sydd wedi cymryd at bodlediadau. Maen debyg fod trwch defnyddwyr Twitter yn danysgrifwyr i bodlediadau ond prin y gellid dweud yr un peth am ddefnyddwyr Facebook… ‘dy chi’n deall beth ydw i’n dweud.

Er mod i wedi bod yn early adopter i bodlediadau rhai blynyddoedd yn ol maen rhaid i mi gyfaddef mae dim ond yn ddiweddar iawn dwi wedi dod i wneud defnydd cyson o bodlediadau. Maen debyg fod yna ddau ffactor tu ôl i fy niddordeb o’r newydd mewn podlediadau.

Yn gyntaf, dwi’n meddwl fod podlediadau jest yn well dyddiau yma. O ran fy niddordeb mewn Technoleg dwi’n dilyn Digital Planet y BBC, Tech Weekly y Guardian a podlediad enGadget yn wythnosol. Mae rhain yn bodlediadau gwych sydd a cynnwys a safon cynhyrchu da iawn. Mewn gair, nid ydyn nhw’n swnio’n amaturaidd fel yr oedd podlediadau hyd yn oed y darlledwyr prif ffrwd ar y dechrau. O ran fy niddordeb ym mhethau’r ffydd mae podlediadau Mars Hill Church yn arloesol o ddifyr – pregethu 2.0! Dwi hefyd yn hoff o bodlediadau’r ymgyrchydd Cristnogol Tony Campolo. Felly mae’r cynnwys yn safonol a difyr bellach.

Ond yn ail mae’r iPhone wedi gweddnewid y profiad podlediadol i mi. Cyn i mi gael iPhone roedd rhaid i mi lawrlwytho y podlediadau i fy Mac, wedyn syncroneiddio fy iPod i fy Mac ac wedyn cofio cario’r iPod o amgylch gyda mi. Bellach dwi’n gallu lawrlwytho’r podlediadau’n uniongyrchol ar fy iPhone a does dim rhaid i mi feddwl am gofio cario’r iPhone o amgylch gyda mi oherwydd fy iPhone yw fy ffon ac mae dyn wedi arfer cario ei ffon gyda fe i bobman! Bellach dwi’n gwrando ar bodlediadau yn y car, yn y gwely, wrth olchi’r llestri, ym mhobman… Gyda’r gallu nawr i lawrlwytho podlediad yn syth i’r iPhone daeth gwrando ar bodlediadau yn rhywbeth ar fympwy i wneud lle yn gynt roedd rhaid cynllunio o flaen llaw er mwyn gwneud yn saff fod y podlediad diweddaraf ar yr iPod cyn gadael eich desg.

Ond mae yna un brycheuyn go-sylweddol yn parhau ym myd podlediadau sef diffyg podlediadau Cymraeg. Fe driesi gyda Naws rhai blynyddoedd yn ôl ac fe gadwodd Steffan Cravos Radio Amgen i fynd am sbel hefyd ond bellach does dim un podlediad Cymraeg. Tybed os oes yna le i gael Podlediad Metastwnsh? Os oes yna alw sut y gellid gwneud un gan na fydd hi byth yn bosib cael pob cyfrannwr a sylwebwyr i un lle. Oes modd recordio dros y we? Byddai hyn yn ddifyr.

Please follow and like us: