Er fod llawer mwy i waith Gweinidog ‘na arwain oedfaon a chyfarfodydd, mae arwain cyfarfodydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r gwaith ac yn naturiol mae paratoi ar gyfer y cyfarfodydd hynny yn cymryd llawer mwy o’ch amser ‘na fydde chi’n dymuno. Dyma syniad i chi o’r rhan yma o’r gwaith yn 2014.

Erbyn nos Sul yma sy’n dod bydda i wedi pregethu 101 o weithiau yn 2014, rhif Orwelaidd iawn! Mae modd defnyddio yr un pregeth mewn gwahanol eglwysi felly dim ond 42 pregeth newydd dwi wedi gorfod paratoi yn 2014. Dwi’n paratoi nodiadau reit fanwl (er nad ydwi’n sdicio at y nodiadau wrth bregethu ar y diwrnod) felly roedd paratoi 42 pregeth yn golygu paratoi oddeutu 84,000 o eiriau o nodiadau – digon ar gyfer PhD arall! Roedd y rhanfwyaf o bregethau yn 2014 yn bregethau yn edrych ar Lyfr Exodus, Llythyr Paul at y Colosiaid, Llyfr y Proffwyd Amos a’r Salmau.

Mi wnes i baratoi ac arwain 30 o Astudiaethau Beiblaidd yn 2014, tua’u hanner nhw ar Efengyl Marc a’r hanner arall ar Lythyr Paul at y Rhufeiniaid. Dy’ ni’n gobeithio gorffen mynd trwy Rhufeiniaid erbyn Gorffennaf 2015.

Mi wnes i arwain 45 cyfarfod gweddi – does dim angen ‘paratoi neges’ ar gyfer y cyfarfod hwn, dim ond rhoi arweiniad ar y dydd.

Mi wnes i arwain 12 oedfa mewn cartrefi hen bobl – doedd dim angen llawer o baratoi ar gyfer yr oedfaon yma, dim ond addasu pregethau roeddwn i wedi paratoi ar gyfer y Sul.

Dwi yn ffodus IAWN fod aelodau eraill yn yr eglwys yn arwain y Clwb Ieuenctid, Dosbarth Ysgol Sul yr Oedolion a’r Ddau Grŵp Tŷ. Mae llawer o fy ffrindiau sy’n Weinidogion yn gorfod arwain y cyfarfodydd yna hefyd felly o gymharu dwi’n ei chael hi’n hawdd.

Dwi ddim yn rhannu hyn er mwyn cael tap ar fy ngefn ‘Da Was ffyddlon’. Jest yn meddwl fod hi’n bwysig i bobl gofio a dal hyn mewn cof pan nad yw’n pregethu ni mor gyfforus a dylai fod bob wythnos a pan fo’r astudiaethau ddim yn neidio o fywiogrwydd bob un wythnos. Rwy’n cofio yn yr haf ffrind i mi sy’n gweithio mewn Eglwys fawr Saesneg yn dweud mae dim ond 14 o weithiau roedd disgwyl iddo fe bregethu mewn blwyddyn – petai Gweinidogion Cymraeg dim ond yn gorfod pregethu 14 gwaith mewn blwyddyn mae’n debyg y byddai ein pregethu ni yn adlewyrchu hynny drwy ddangos mwy o raen paratoi, ymchwil a steil ayyb…

Dwi’n ffodus nad oes rhaid i mi arwain oedfa noswyl ‘na dydd Dolig eleni. Ond mi fydd y rhanfwyaf o Weinidogion a dyma fydd oleiaf eu canfed oedfa yn 2014 – os ydy’n nhw’n ymddangos wedi blino a’r neges ddim cweit mor adloniannol a’r hyn sydd ar y teledu cofiwch adael iddyn nhw wybod eich bod chi’n gweirthfawrogi eu gweinidogaeth. Dwi’n ffodus iawn fod gen i griw o fy nghwmpas yn yr Eglwys yng Nghaernarfon sydd yn fy annog i ymlaen, nid yw pob Gweinidog mor ffodus.

Nadolig Llawen!

Please follow and like us: