Fe aeth y pregethu ddoe yn iawn dwi’n meddwl. Roedd aelodau’r ddau gapl yn garedig a gwerthfawrogol iawn ond wrth gwrs maen rhaid bod yn ofalus mae nid jest wedi eu dallu gyda’r digwyddiad o gael “pregethwr newydd ifanc” oedden nhw. Ond yn yr achos yma dwi’n ffyddiog mae di-dwyll a gonest oedd eu diolchiadau. Yn y Nos fe bregethesi o flaen fy Modryb, y tro cyntaf i fi bregethu o flaen aelod o’r teulu felly roedd hynny yn brawf! Fel wnes i sôn yn y blogiad diwethaf pregethu allan o Philipiaid oeddw ni a dyma, yn fras beth oedd fy neges.
Philipiaid 4:4-7
Cyflwyniad
- Cymdeithas ni heddiw yn un brysur iawn. Mae pawb wastad yn brysur! Gofynnwch chi i unrhywun ‘sut wyt ti?’ neu ‘beth wyt ti’n gwnud dyddiau ma?’ yr ateb gan bawb y dyddiau yma yw “Dwi’n brysur iawn.”Â
- Â Mae’r holl brysurdeb yma yn arwain llawer o bobl i ofid difrifol, rwy’n siŵr fod prysurdeb wedi ein harwain ni gyd i bryder, efallai’n ddifrifol, rhyw dro.
Credit Crunch
- Wrth gwrs y bennod ddiweddaraf yn ein byd prysur llawn gofid ni yw’r ‘Credit Crunch’!Â
- Yn hyn o beth mae Mam yn broffwyd oherwydd mae hi wedi bod yn dweud ers blynyddoedd fod yr holl fyd bancio a benthyca mynd i syrthio’n fflat ar ei wyneb ac oherwydd hynny mae Mam yn mynnu talu am bopeth gyda arian neu siec o hyd. Efallai fod proffwydoliaeth Mam yn cael ei wireddu o’n blaenau nawr, felly gwers cyntaf y dydd ydy gwrandewch ar eiriau doeth eich Mam!Â
- Ond mae’r holl helynt diweddaraf yma am y ‘Credit Crunch’ yn pentyrru gofid ar ben gofid yn ein cymdeithas ofidus ni.
Gofidiau llai dydd i ddydd
- Ond nid dim ond pethau mawr difrifol fel gofid am dalu’r morgais ayyb… sy’n medru ein harwain i gornel gofid, gall bethau llai dydd i ddydd fod yn drafferthus hefyd.Â
- Ers i mi symud i Fangor flwyddyn yn ôl dwi’n treulio tipyn o amser yn teithio ar hyd yr A470 rhwng Bangor ac Aberystwyth. Dwi’n siŵr fod clywed enw’r A470 yn ddigon i gorddi teimladau rhai ohono chi. Mae teithio ffyrdd Cymru yn brawf ar amynedd bob un ohonom ni. Yr hyn sydd yn fy hala i’n wan yw’r bobl yma sy’n gyrru fel malwen gan fwyaf o’r amser yna pan fo’r ffordd yn sythu ac yn mynd yn fwy llydan maen nhw’n rhoi eu troed lawr ac felly yn eich atal chi rhag eu pasio nhw! Mae hynny wirioneddol yn mynd dan fy nghroen i!Â
Mae gofid yn broblem real a difrifol yn ein cymdeithas heddiw, i ddweud y gwir maen epedemig. Mi fyddw chi, o bosib, yn fwy cyfarwydd gyda’r gair Saesneg “Anxiety”.Â
Beth ydy pryder/anxiety felly?Â
- Wel, mae mesur o bryder yn beth da. Er enghraifft pan fo rhywun yn gyrru neu’n gwneud gwaith peryglus fel defnyddio llif neu ddrill maen bwysig cael elfen o bryder ynom ni er mwyn i ni fod yn wyliadwrus. Ond mae problemau yn codi pan fo’n pryder ni’n goddiweddid maint y dasg.Â
- Dwi wedi sôn eisoes am fy nheithiau car o Fangor i Aberystwyth, maen bwysig fod yna elfen o bryder ynof fi er mwyn gyrru yn saff ond dywedwch pe taw ni’n colli cwsg y noson cyn y daith yn pryderu am y daith y bore wedyn yna mi fyddai’r pryder wedi goddiweddid maint y dasg ac yn lle gwireddu ei bwrpas o fy nghadw yn saff mi fydd fy mhryder yn fy llorio.
- Â Yn ôl ystadegau BUPA mae 1 o bob 10 o bobl yn dioddef o bryder difrifol i’r pwynt ei fod yn effeithio ar eu bywydau dydd i ddydd. Ymysg y sgil effeithiau mae: methu cysgu, teimlo’n bryderus trwy’r amser, teimlo’n flinedig, colli eich amynedd a cholli tymer yn aml ac yn hawdd, cael hi’n anodd i ganolbwyntio ac hyd yn oed teimlo eich bod chi’n “mynd o’ch cof”.
- Â Mae yna siawns go dda fod yna rai yma bore ma/heno sy’n dioddef o bryder difrifol, os nad ydych chi yna mae bron a bod yn sicr y bydd pawb yma heno/bore ma rhyw dro wedi gorfod delio gyda elfen o bryder neu bod yn gefn i aelod o’ch teulu neu ffrind fydd yn mynd trwy gyfnod o bryder difrifol.
Ond y newyddion da heno yw fod gan Air Duw gyngor i ni ar bopeth, gan gynnwys sut i ddelio a phryder.
Pryderon Paul
Os oes yna ddigon o bethau yn ein byd prysur ni sy’n ein pryderu ni gadewch i ni edrych ar Paul.
- Fe wnaeth helynt a gofid ddilyn Paul o’r diwrnod cyntaf, yn llythrennol.Â
1. Wedi i Iesu siarad ag ef ar y ffordd i Ddamascus fe aeth yn ddall am dridiau! Wel dyna beth oedd croeso! “Dwi wedi dod i adnabod Iesu ond dwi wedi fy nharo yn ddall! Gret!”
2. Yna fe anfonodd Dduw ŵr o’r enw Ananias draw at Paul i’w gyfarch a cyffwrdd ei lygaid er mwyn iddo weld eto. Ond, i ddechrau doedd Ananias ddim yn trystio Paul oherwydd ei fod wedi clywed fod Paul wedi bod yn erlid Cristnogion. Ond wedyn daeth Ananias i ymddiried yn Paul ac felly allan a nhw o Ddamascus gyda’i gilydd i fynd i JerwsalemÂ
3. OND ar y ffordd allan o Damascus roedd criw o Iddewon wrth y giat yn barod i’w ladd felly roedd rhaid dianc dros y mur.Â
4. Ac os nad oedd hynny yn ddigon o ofid ar ôl i Paul gyrraedd Jerwsalem roedd gweddill y disgyblion, fel Ananias, ddim yn ei drystio ac yn ei ofn oherwydd ei fod wedi bod yn erlid Cristnogion. Hyn i gyd o fewn yr ychydig ddyddiau ar ôl ei dröedigaeth.
5. Yna ar ei daith cenhadol gyntaf pan gyraehodd Paul yn Lystra fe wnaeth e iachau rhywun ac yn hytrach na diolch iddo fe benderfynodd pobl Lystra ymosod ar Paul a’i labyddio (stoneing) a dod yn agos iawn i’w ladd.Â
6. Ar ei ail-daith cenhadol cafodd Paul ei garcharu yn Philipi.Â
7. Yna ar ei daith cenhadol olaf ar y ffordd i Rufain nid yn unig iddo gael ei longddryllio ar y ffordd ond ar ôl cyrraedd fe aeth…Â
8. ar ei ben i’r carchar unwaith eto.
Ac o’r carchar hwnnw yr ysgrifennodd Paul y llythyr yma at yr Eglwys yn Philipi.
Ateb Paul
Dychmygwch yr holl boen, yr holl ofid a’r holl bryder yr oedd Paul wedi bod trwyddo fe cyn iddo fe ysgrifennu’r llythyr yma.Â
- Pe taw ni’n ysgrifennu llythyr tebyg at fy ffrindiau i ar ôl bod trwy’r fath bryder mi fuaswn ni’n cymryd y cyfle i roi fy nghwyn, i adrodd mewn manylder am fy hanes trist ac i lenwi’r llythyr gyda dos go-lew o hunan dosturi.Â
Ond gwrandewch beth mae Paul yn dweud, er gwaetha popeth aeth trwyddo:
“Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser, dywedaf eto, llawenhewch!” (Philipiaid 4:4)
Er gwaethaf ei bryderon a’i ofidiau, a doedd neb a rhai mor fawr a Paul ei hun, mae’n annog y Philipiaid i Lawenhau yn yr Arglwydd a dod a’u holl ofidiau o flaen Iesu Grist.
- Â Maen bwysig nodi fod Cristnogion ddim yn gwbl rydd o ofidiau nac chwaith o ddioddef pryder difrifol sy’n gallu effeithio ar eu iechyd. Maen gamarweiniol amau ffydd Cristion os yw ef neu hi yn dioddef o bryder difrifol trwy’r amser.Â
- Fodd bynnag mae gan y Cristion y sicrwydd a’r calondid fod Iesu yna i’w cynnal drwy gyfnodau anodd.Â
- Hyd yn oed os oes pryder yn amlygu ei hun ym mywyd y Cristion nid pryder yw ei Arglywdd ond Iesu yw ei Arglwydd.
Yr Her
A dyna yw’r her dwi am osod i chi heno/bore ma:Â
1. pwy yw eich arglwydd chi? Pryder a gofid neu Iesu Grist?Â
2. Beth sy’n rheoli eich bywyd chi dydd i ddydd, pryder a gofid neu Iesu Grist?
Sut mae ymateb i’r her?
Os wyt ti’n teimlo mae pryder sy’n rheoli dy fywyd di ar hyn o bryd yn hytrach na Iesu yna mae angen i ti ildio dy fywyd i Iesu a gadael i Iesu gymryd dy bryder di.
- Yn naturiol dy ni gyda yn rhy falch i ildio a throi am gymorth gan bobl eraill.Â
- Er enghraifft ro ni’n coginio bwyd i Menna yn ddiweddar ac fe aeth pethau braidd yn flêr: llysiau yn berwi drosodd, bara garlleg yn y ffwrn angen ei dynnu allan, y cig wedi gor goginio a sychu’n grimp. Fe gynnigodd Menna helpu gyda’r bwyd ond fe fynnais i mod i eisiau gwneud y cyfan, roeddw ni’n credu mod i’n gallu gwneud y cyfan. Ond wrth gwrs oherwydd mod i’n rhy falch i dderbyn cynnig Menna i fy helpu fe aeth popeth yn fler ac fe sbwyliodd rhan fwyaf o’r bwyd.
- AÂ dyna yw ein hagwedd ni gyda phopeth a gyda bywyd yn gyffredinol, dyna yw’n cyflwr naturiol ni. Dy ni’n hunanbwysig ac yn rhy falch i droi am gymorth gan unrhywun gan gynnwys Duw ei hun.Â
- Y gair Saesneg am bechod yw Sin, ac mae e’n air da i ddweud y gwir oherwydd ei fod yn ddiffiniad ynddo ef ei hun o beth yw pechod yn ei hanfod. “Sin is a small word with I in the middle.”
- Mae Duw yn gwybod yn iawn nad oedd gobaith gyda ni sortio pethau allan a sortio allan ein bywydau a’n gofidiau yn ein nerth ein hunain dyna pam wnaeth e anfon Iesu i gymryd y baich unwaith ac am byth ar ein rhan ar y Groes.Â
Ond yr her heno/bore ma yw hyn:Â
Wyt ti mynd i barhau i adael i bryder reoli dy fywyd ac wyt ti am barhau i drio delio a sortio fe mas dy hun neu wyt ti am roi dy ffydd a rhoi dy bryder i Iesu Grist?Â
- Wnaiff rhoi dy ymddiriedaeth a dy ffydd yn Iesu ddim dileu dy holl bryder dros nos ond fe wneith wahaniaeth pwy wyt ti’n ei ddilyn.Â
â— Yn lle bod yn was i bryder mi fyddi di’n was i’r Arglwydd Iesu ac mi fyddi di’n gallu dweud gyda Paul er gwaetha dy holl bryderon dy fod di’n gallu cymryd cam yn ôl a chadw dy lygaid tua’r nefoedd a dweud nad oes unrhyw beth, gan gynnwys marwolaeth hyd yn oed, yn gallu dy atal rhag Llawenhau yn yr Arglwydd.
Heno/Bore ma gadewch i ni gyd wneud yn siŵr mae gweision i’r Arglwydd Iesu ac nid gweision i bryder ydym ni.Â
Gadewch i ni gyd ddod gerbron Iesu a chydnabod ein bod ni wedi methu ac yn siŵr o fethu bob tro ac yn diolch iddo ef am ein caru ac am ddelio gyda’n holl fethiannau a’n holl ofid. Y Credit Crunch yw prif reswm gofid llawer dyddiau yma: yn wahanol i’r banciau mae Iesu wedi dweud ei fod wedi talu’r dyledion i gyd ar ein rhan. Credwch ynddo a diolchwch iddo.
Llongyfarchiadau Rhys, mae’r gallu i sefyll i fyny o flaen tyrfa o bobol a siarad am gyfnod o amser yn rywbeth prin.
Er, dw i’n meddwl y byddai wedi bod yn fwy doniol petai ti wedi dechrau fel hyn:
Mae ein cymdeithas ni heddiw yn un brysur iawn. Mae pawb wastad yn brysur! Gofynnwch chi i unrhywun ’sut wyt ti?’ neu ‘beth wyt ti’n gwnud dyddiau ma?’ yr ateb gan bawb y dyddiau yma yw “Dwi’n brysur iawn.†Felly dw i’n gorfod mynd rwan, hwyl!
*cerdded allan*