Fe’m tarwyd i yn y Car ar y ffordd nol fyny i Fangor heno mae nid diffyg pobl ifanc ydy problem sylfaenol ymarferol ein Eglwysi, nid diffyg caresmatiaeth a mawl cyfoes chwaith (er eu bod nhw, wrth gwrs, yn bethau sydd yn rhaid i’r Eglwys daclo nawr) ond yn hytrach diffyg pregethwyr a phregethau gwir gyffrous ac eneiniedig. Gwrando ar Mark Driscoll oeddw ni ar yr iPod a dydy ni heb glywed y fath bregethu yn y Gymraeg ers degawdau bellach – y fath eneiniad wrth esbonio Gair Duw mewn modd perthnasol ar un llaw ac awdurdodol ar y llaw arall. 

Er mod i wedi dechrau pregethu dwi ddim yn meddwl am enyd mod i wedi fy nghalw i roi pethau nol yn eu lle gyda phregethu Cymraeg – ddim o gwbl – y mwyaf o bregethau da dwi’n eu clywed ar yr iPod ac edrych arnyn nhw ar y wê y mwyaf dwi’n sylwi pa mor wan a di eneiniedig ydy fy mhregethu i i gymharu a mawrion sydd wedi eu defnyddio gan Dduw yn y gorffenol.

Wnai eich gadael chi gyda’r clip yma o bregeth olaf Martin Luther King a bregethodd y diwrnod cyn iddo gael ei ladd a chael mynd at ei Waredwr. Dwi wrth fy modd gyda Marin Luther King oherwydd mae e’n cael ei weld fel un o’r arwyr mwyaf yn hanes modern ond rhywsut nid oedd yn ffitio mewn i ddelfryd moderniaeth a’r byd ol-fodern o gwbl oherwydd roedd yn gwbl gwbl gadarn dros y ffaith fod yna un gwirionedd yn hytrach na cyfres o wirioneddau. Gwirionedd Luther King oedd fod Iesu yn Benarglwydd oedd wedi marw i gymodi Dyn a Duw ac i adfer ei Deyrnas – dyna oedd y gwirionedd i King a dyna yw’r gwirionedd heddiw. Maen anhygoel sut y mae hanes modern wedi ‘air brushio’ y rhan gwbl gwbl ganolog yna o athroniaeth a gweledigaeth Luther King allan o’i hanes poblogaidd diweddar.

Dyma chi wledd, O! am gael pregethu fel yma eto yng Nghymru!:

Please follow and like us: