Nos Sadwrn es i weld Pridd gan y Theatr Genedlaethol ym Mangor. Dydw i ddim yn mynd i weld llawer o ddramâu – er dwi’n mwynhau pob un dwi’n mynd i weld felly dylwn drio mynd i weld mwy. Gan nad ydw i wir yn foi dramâu nid adolygiad yw hwn, jest argraffiadau. Cynhyrchiad da, actio gwych ac ar y cyfan sgript ddifyr hefyd. Ond rhaid i mi gyfaddef mae fy ymateb cyntaf oedd bod y ddrama yma gan Aled Jones Williams ychydig bach yn hunangofiannol o bosib? Ac o’i gweld hi felly fod yna ddiffyg cynildeb o ganlyniad?
Fel Gweinidog dwi’n gweithio mewn maes lled debyg i hen faes Aled pan oedd yn Offeiriad. Dwi’n ymwybodol o’r pwysau weithiau i “actio’r rhan” ac i “ddiddanu” eich praidd pan nad ydych meddwl heb sôn am eich calon yn y man iawn y diwrnod hwnnw. I ryw bwynt mae modd gweld yr Offeiriadaeth/Weinidogaeth yn cael ei chyffelybu a rôl a chenadwri y Clown. Dyma sy’n fy arwain i dybio fod yr elfen hunangofiannol yn y sgript yn mynd yn ddyfnach na jest problem y Clown a’r ddiod.
Un o olygfeydd mwyaf pwerus a clyfar y ddrama i mi oedd hwnnw pan roedd y Clown yn ceisio cael ychydig bach a audience participation. Pawb, gan fy nghynnwys i, yn edrych i ffwrdd yn anesmwyth yn gobeithio na fyddai’r Clown yn fy newis i. Ac yna’r Clown yn dweud rhywbeth i’r perwyl (sori dydy’r sgript ddim efo fi rŵan) “jest dod yma i gael eich diddanu ddaru chi ‘neud, doedde chi ddim yn disgwyl nac isho cael eich aflonyddu.” Dyna yn sicr i chi sut byddai Aled wedi teimlo lawer tro wrth geisio arwain Eglwys – wynebu cynulleidfaoedd oedd jest eisiau derbyn heb wir gymryd rhan eu hunain.
Drama dda – ewch i’w gweld hi.