DIWEDDARIAD: Yn dilyn neges gan Arthur Dafis ar ran y Brifysgol (gweler y sylwadau isod) dwi wedi golygu’r testun rhywfaint er mwyn cywiro rhai ffeithiau anghywir. Y prif ffaith oedd angen ei gywiro oedd fod y Telerau a’r Amodau DDIM yn newydd, yr hyn a digwyddodd oedd eu bod wedi eu dwyn i sylw’r myfyrwyr o’r newydd. Mae modd gweld y ffeithiau wedi eu cywiro mewn coch. Rwyf hefyd wedi gweld y copi Cymraeg o’r Amodau nawr ac wedi newid y dyfyniadau o’r Saesneg i’r Gymraeg. Ymddiheuriadau am y cam-argraff.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud cryn niwed iddi hi ei hun dros y misoedd diwethaf am fod mor ddi-hud ei hagwedd tuag at farn myfyrwyr Neuadd Pantycelyn am ddyfodol y neuadd. Mae’r Brifysgol wedi methu a deall na fydd adain Gymraeg mewn neuadd fawr dwyieithog yr un peth a neuadd benodedig Gymraeg fel sydd wedi bodoli ers 1974. Dwi wedi dadlau o’r blaen fod hyn yn debyg i Gerrymandering – cymryd cymuned fwyafrifol Gymraeg a’i phlannu hi yn ôl fel cymuned leiafrifol mewn neuadd fwy Saesneg.
Ond mae’n ymddangos fod pethau yn mynd o ddrwg i waeth yn Aberystwyth ac fod y Brifysgol wedi cymryd cam-gwag gwirioneddol ddifrifol wrth newid dynnu sylw at Delerau ac Amodau’r Brifysgol. er mwyn, fe ymddengys, ffrwyno ac atal mwy o brotestio gan y myfyrwyr. Byddai rhai yn dehongli hyn fel ymateb i’r Protestio diweddar, ond nid oes tystiolaeth glir fod cysylltiad rhwng y ddau.
Dyma’r amodau newydd:
Bydd gan y Dirprwy Is-Ganghellorion ‘awdurdod i ofyn i bobl beidio ag ymgynnull yn adeiladau ac ar dir y Brifysgol, i ofyn i bobl adael adeiladau a thir y Brifysgol, i wrthod caniatáu cyfarfodydd, neu i derfynu cyfarfodydd.’
Mae’r ddogfen yn mynd ymlaen i esbonio y byddai camau yn cael eu cymeryd i ddelio gyda achosion sy’n:
‘tarfu ar weinyddiaeth na gwaith cyffredinol y Brifysgol’ neu a fyddai’n ‘dwyn anfri ar y Brifysgol’.
Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi hawl mewn rhai achlysuron i adran Gwasanaethau Gwybodaeth i archwilio ebist a ffeiliau’r defnyddwyr/myfyrwyr lle tybir fod myfyrwyr wedi bod ynghlwm wrth drefnu torri y telerau a’r amodau.
Ymysg y cosbau y bydd y Brifysgol yn eu rhoi i fyfyrwyr sy’n torri’r amodau yma mae:
cerydd, dirwy (heb fod dros £200), atal yr hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol, troi allan o Neuadd Breswyl neu o bob Neuadd Breswyl, gwaharddiad rhag defnyddio cyfleusterau Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad arall ymhlith y myfyrwyr, neu esgymuno’r troseddwr am gyfnod heb fod yn fwy nag un sesiwn, neu ei ddiarddel o’r Brifysgol yn gyfan gwbl.
Er fod y Telerau a’r Amodau yma mewn lle ers blynyddoedd fe ymddengys, mae’n nhw dal yn gwbwl gywilyddus ac yn adleisio ar y gorau cyfundrefnau Prifysgolion Cymru nol yn y 1970au pan oedd y protestiadau yn erbyn yr ehangu ar eu cryfaf; ac ar y gwaethaf yn adleisio Prifysgolion yr Almaen yn yr 1930au. Mae’n amser i fwy o staff academaidd Aberystwyth ddod oddi ar y ffens a gwrthwynebu arweinyddiaeth echrydus April McMahon ac rwy’n gobeithio na fydd y myfyrwyr yn cael eu dychryn gan y telerau a’r amodau newydd yma ac y bydda nhw’n parhau ar lwybr protest.
Yn y cyfamser mae’n debyg y gallai’r Brifysgol yn ddigon hawdd fenthyg rhai sloganau slic allan o 1984.
Annwyl Rhys
Rwyf newydd ddarllen dy ddarn diweddaraf ar dy flog “Prifysgol Aberystwyth: y brifysgol Orwelaidd”.
Yn y darn hwn rwyt yn honni fod “y Brifysgol wedi cymryd cam-gwag gwirioneddol ddifrifol wrth newid Telerau ac Amodau’r Brifysgol er mwyn, fe ymddengys, ffrwyno ac atal mwy o brotestio gan y myfyrwyr.” Ac rwyt yn mynd ymlaen i ddyfynnu (yn Saesneg) yr ‘amodau newydd’ ac yna yn ddiweddarach gyfeirio at “arweinyddiaeth echrydus April McMahon”.
Pwysig felly yw tynnu dy sylw at y ffaith nad yw’r Rheolau a’r Rheoliadau yma yn rhai newydd o gwbl, maent yn eu lle ers blynyddoedd.
Do bu rhaid eu diweddaru yn ddiweddar yn sgil ad-drefnu. Ym mis Rhagfyr 2012 cymeradwyodd Cyngor y Brifysgol y penderfyniad i ddileu’r swydd Cofrestrydd ac Ysgrifennydd. Dosrannwyd y cyfrifoldebau a oedd yn perthyn i swydd y Cofrestrydd ymysg uwch swyddi eraill, a llawer o’r rhai sydd yn ymwneud a gweithgaredd dydd i ddydd y Brifysgol at swydd y Dirprwy Is-Ganghellor dros Wasanaethau Myfyrwyr a Staff.
Yn sgil y newid hwn, bu’n rhaid i’r Brifysgol ddiweddaru’r Rheolau a’r Rheoliadau er mwyn adlewyrchu’r strwythur newydd. Cawsant eu cymeradwyo gan Senedd y Brifysgol nol yn yr haf, a dyna pam eu bod wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar.
Mae Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol i’w gweld (yn Gymraeg ac yn Saesneg) yma http://www.aber.ac.uk/cy/regulations/ ar wefan y Brifysgol ac mae croeso i ti neu unrhyw un arall eu darllen, a’u beirniadu os ydych yn dymuno.
Ond cyhuddo’r arweinyddiaeth bresennol o fod wedi eu cyflwyno? Na, mae hyn yn ffeithiol anghywir a byddai’n dda o beth petait yn fodlon ail ystyried dy ddatganiad yng ngoleuni’r uchod.
A fu llawer o brotestio a chyfarfodydd yn ystod y misoedd a aeth heibio? Wel do. A fu unrhyw ymgais i rwystro’r protestiadau hynny rhag digwydd? Naddo.
Mae croeso mawr i ti ymweld â ni yma yn Aber i drafod ymhellach dy gonsyrn am yr hyn sy’n digwydd yma, gan gynnwys Pantycelyn.
Pob hwyl
Arthur
Arthur Dafis
Uwch Swyddog Cyfathrebu
Prifysgol Aberystwyth
Dwi’n dotio at y cywiriadau mewn coch i erthygl oedd yn trafod agweddau ‘Orwelaidd’ wedi’r Brifysgol eu ‘cywiro’!! Un o nodweddion cymdeithasau totalitaraidd am wn i ydi’r anallu llwyr i weld eironi