Roeddwn i wedi bwriadu blogio am hyn bore ‘ma cyn clywed am ddyweddïad fy Chwaer! Felly mae’r newyddion arbennig yna wedi ychwanegu rhywbeth personol i’r testun. Yr hyn sydd wedi tynnu fy sylw i heddiw yw cynlluniau’r Ceidwadwyr i roi tax breaks i barau priod a phobol mewn partneriaethau sifil.
Mae’r cysyniad o briodas yn gysyniad sydd yn golygu gymaint o wahanol bethau i wahanol bobl bellach. Ar un llaw mae gen i ffrindiau yn eu tridegau sydd wedi priodi ar ôl bod yn cyd-fyw am bron i ddeg mlynedd ac ar y naill law mae gen i ffrindiau sydd wedi priodi yn eu ugeiniau cynnar ar ôl canlyn am flwyddyn yn unig a heb gyd-fyw. Ar un llaw mae gen i ffrindiau sy’n Gristnogion o argyhoeddiad sy’n gweld eu priodas fel perthynas tair ffordd, gyda Duw yn y canol. Ac ar y naill law mae gen i ffrindiau sy’n anffyddwyr rhonc sydd wedi cyd-fyw trwy eu hoes ond heb briodi ond ar un wedd yn byw fel pe taent yn briod. Ac wrth gwrs mae gen i ffrindiau hefyd sydd mewn partneriaethau sifil gyda’u partner sydd o’r un rhyw. Mewn gair, yng ngolwg y gymdeithas gyfoes mae’n amhosib diffinio “priodas” bellach.
Fodd bynnag, i bobl sy’n dilyn Iesu mae modd cynnig diffiniad weddol bendant o briodas o hyd. Mae’r Beibl yn dysgu fod priodas yn uniad rhwng merch a bachgen a hynny yng ngolwg Duw. Mae’r uniad a’r berthynas yma i fod i adlewyrchu y berthynas rhwng Iesu a’i bobl – Iesu yw’r priodfab a’i bobl yw’r briodferch. Mae rhai diwinwyr o’r farn fod Duw wedi creu’r sefydliad o briodas fel delwedd i ni allu cael mymryn o amgyffred o’r cariad mae Iesu wedi ei ddangos at ei bobl. Fe ddywedodd Joshua Harris yn ei lyfr ‘Stop Dating the Church’ (Multnomah, 2004):
God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save. What passion He has for His Church! Even if you’ve never studied the Bible, you’ve heard echoes of this amazing love throughout your life. Every true love story has hinted at it. Every groom weakened at the sight of his radiant bride has whispered of it. Every faithful, committed, and loving marriage has pointed to it. Each is an imperfect echo of the perfect song of heaven.
Dwi’n cofio trafod gyda rhai ffrindiau, oedd hefyd yn dilyn Iesu, rhai wythnosau yn ôl os oedd diben a gwerth i bobl nad oedd yn dilyn Iesu briodi? Tybiodd un o’m ffrindiau i nad oedd pwynt gan fod eu lifestyle nhw ddim yn adlewyrchu’r patrwm priodasol sydd yn y Beibl ac oherwydd hynny fod priodas yn ddi-bwynt iddynt. O roi’r peth mewn cyd-destun gwahanol – beth fyddai’r pwynt i Elinor Benett wneud gradd wyth ar y delyn bellach? Mi fyddai’r ymarfer yn golygu dim iddi, mynd trwy’r motsiwns yn unig fyddai hi.
Ond roeddwn i yn anghytuno oherwydd dwi’n meddwl fod Duw wedi ordeinio priodas fel sefydliad cymdeithasol i’r ddynoliaeth gyfan nid dim ond i bobl sy’n dilyn Iesu. Yn amlwg, dim ond pobl sy’n dilyn Iesu ac sydd wedi dod i sylwi dyfnder ei gariad drosom all werthfawrogi dyfnder ac arwyddocâd priodas; ond mae’r sefydliad o briodas yna i bawb. Mae’n debyg i’r genedl os hoffech, un o’r ffurfiau cymdeithasol eraill y mae Duw wedi ei ordeinio ar gyfer dynoliaeth. Gall bawb werthfawrogi’r drefn a gweld gwerth a phwrpas i’w cenedl ac i’r cenhedloedd, ond fel rwyf wedi dadlau o’r blaen y mae yna ddealltwriaeth ddyfnach o’r genedl yn dod i bobl sy’n dilyn Iesu.
Dwi hefyd yn meddwl fod yna wahaniaeth pwysig rhwng priodas yn wyneb Duw a’r Eglwys a priodas yn wyneb y Wladwriaeth. Os caf i’r fraint byth i briodi ni fydda i’n arwyddo’r gofrestr fel rhan o’r briodas yn yr Eglwys er mwyn dangos mod i’n priodi yng ngolwg Duw a’i bobl ac nid yng ngolwg y Wladwriaeth. Yn amlwg, bydd rhaid i mi arwyddo’r gofrestr yn y diwedd, dydw i ddim yn anarchydd. Ond mi fydda i’n arwyddo’r gofrestr yn breifat heb fod yn rhan o’r gwasanaeth neu hyd yn oed ar ôl dychwelyd o’r mis mel! Bydda i’n gwneud hynny er mwyn dangos mae eil-beth yw cydnabyddiaeth y wladwriaeth o’m priodas ac mae’r hyn sydd o bwys mwyaf yw mod i’n priodi yng ngolwg Duw ac ym mhresenoldeb y saint. Er mod i yn credu mae trefn sydd wedi ei ordeinio gan Dduw ydy gwladwriaethau (fel y genedl a phriodas) dwi hefyd yn credu o argyhoeddiad eu bont i weithredu’n secwlar a di-wahân. Felly, ar lefel gwladwriaeth does gen i ddim gwrthwynebiad i bartneriaethau sifil rhwng pobl o’r un rhyw. Mae’n fater gwahanol wrth ystyried priodas Gristnogol o fewn yr eglwys gan mae’r ddysgeidiaeth Gristnogol ydy fod priodas yn rhywbeth rhwng bachgen a merch. Ond ni ddylai’r wladwriaeth, fel sefydliad niwtral, ddilyn llwybr tebyg. Mae hawl gan bobl o’r un rhyw gael eu cydnabod gan y wladwriaeth ond mae hawl hefyd gan gymunedau ffydd ymarfer eu dealltwriaeth traddodiadol nhw o’r hyn yw priodas hefyd.
Dyma ddod a ni yn ôl felly at yr etholiad sydd o’n blaenau ac yn benodol at y sôn am y tax brakes y mae’r Ceidwadwyr wedi addo heddiw i barau priod. Mae’n siŵr eich bod chi wedi casglu erbyn hyn fy mod i’n gweld priodas fel rhywbeth pwysig i’w ymarfer a’i warchod mewn cymdeithas. Ar yr olwg gyntaf felly fe’m calonogwyd o weld fod y Ceidwadwyr yn bwriadu adlewyrchu hynny drwy eu polisïau.
Ond wedyn ar ôl craffu yn fanylach daeth hi’n gynyddol amlwg mai stynt a gimmick yw’r cyfan. Mae’n debyg y gall rhai teuluoedd priod elwa fyny at rhywbeth tebyg i £150 mewn tax brakes yn ystod y flwyddyn. Mae hynny’n llai na £3 yr wythnos, pris peint yn y dafarn neu goffi yn Starbucks.
Mae priodas yn bwysig, ond mae ei werth i gymdeithas yn fwy na phris mwg o goffi siawns?
Haia Rhys, a chyfarchion o Seland Newydd!
Dwi ddim yn gwbod i ba raddau (os o gwbl) y dylai’r wladwriaeth hybu priodas. Ac os oes angen rhyw fath o hwb, rwy’n anghytuno’n llwyr gyda tax breaks i barau priod.
Dwi’n nabod merch sengl a dau o blant. Dyw hi ddim mewn perthynas â thad y plant, gan iddo yntau ei thrin yn dreisgar, ac fe dorrodd hi gysylltiad ag ef er ei lles hithau a’r plant (af i ddim i fanylion, ond gelli ddychmygu’r math o straeon erchyll). Mae hi’n gweithio’n galed iawn fel rhaint sengl, yn cadw’r ty, bwydo’r plant ac ati, a hynny ar ben ei swydd. Felly pam, o pam, y dylwn i ac Angharad gael tax break o £150 y flwyddyn, tra’i bod hi’n cael dim?! As if bod hynny’n ‘hwb’ sy’n mynd i wneud iddi hi feddwl – o wel, mae’n well i fi fynd nol at dad y plant, neu ffeindio rhyw foi arall i’w briodi.
Mae gwobr ariannol i barau priod yn gyfystyr â dirwy ariannol i bobl ddibriod. Mae’r tax breaks hyn, felly, yn mynd i gosbi miloedd ar filoedd o famau sengl sydd mewn sefyllfaoedd anodd yn ariannol ac yn gymdeithasol – pobl y dylai’r wladwriaeth eu helpu, nid eu cosbi.
Pob hwyl,
Iwan
Rwy’n cytuno Iwan, fy mhwynt oedd fod y Ceidwadwyr yn di-raddio Priodas gyda’r polisi yma.
Dwi yn meddwl y dylai’r wlad hybu priodas, ond nid yn y ffordd yma.