Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O’r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw’n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi’n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai’n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw’r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau’r cysur a’r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae’r sbarc a’r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw’n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae’r wefr o fod gyda’i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos i ddiffinio eu perthynas a dyma Tomos yn cynhyrfu a gwaeddi: “Dy ni gyda’n gilydd yn dydyn? Dydy hynny ddim yn ddigon i ti?” Yn amlwg nid oedd Tomos yn barod i ymrwymo ei hun i Ruth.

Tybed a ydych chi wedi bod mewn perthynas fel hyn? Mae lle cryf i dybio fod yna gannoedd o Gristnogion fel Tomos allan yna. Nid merch yw Ruth. Ruth yw’r Eglwys.

Yn ddiweddar, yma yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo’r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi’r eglwys. Yn yr erthygl yma felly fy mwriad yw tanlinellu o’r newydd beth yw’r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i’n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd. Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu’r Eglwys a McDonalds – dydy mynd i’r Eglwys ddim yn eich gwneud chi’n Gristion mwy nag y gwnaiff mynd i McDonalds yn eich gwneud chi’n hamburger! Er, fel Protestant da, na gredaf fod yr Eglwys yn gyfrwng i selio iachawdwriaeth rwyf yn argyhoeddedig fod yr Eglwys ac athrawiaeth yr eglwys o bwys canolog i’r Cristion.

Mae’r Beibl yn cyfeirio at yr Eglwys fel Priodferch Crist. Meddai Paul yn Effesiaid 5:25-27:

Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau’r eglwys a’i roi ei hun drosti, i’w sancteiddio a’i glanhau â’r golchiad dŵr a’r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo’i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o’r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai.

Mae’n debyg fod yr adnodau hynny yn rai sy’n fwy cyfarwydd i chi fel rhai sy’n cael eu darllen mewn gwasanaeth priodasol ond gadewch i ni am ennyd graffu yn fanwl ar yr adnodau. I mi mae’r adnodau yma yn ysgytwol: cymaint yw cariad Iesu dros ei eglwys, ei briodferch – hynny yw y ti a mi – fel ei fod wedi rhoi ei hun o’i wirfodd ar y groes drosom ni. Ond nid yn unig hynny ond pan ddaw y dydd (nid os ddaw y dydd) pan ddown i gyd o flaen Duw nid yn unig y bydd hi’n gysur gwybod fod Iesu wedi rhoi ei hun o’i wirfodd ar y groes trosom ond y bydd Iesu ei hun yn ein cyflwyno yn ddi-fai a di-frycheuyn i Dduw yn y nefoedd. Wylwch, o’r fath fraint! Mae rhai diwinwyr o’r farn fod Duw wedi creu’r sefydliad o briodas fel delwedd i ni allu cael mymryn o amgyffred o’r cariad mae Iesu wedi ei ddangos at yr Eglwys. Fe ddywed Joshua Harris yn ei lyfr ‘Stop Dating the Church’ (Multnomah, 2004):

God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save. What passion He has for His Church! Even if you’ve never studied the Bible, you’ve heard echoes of this amazing love throughout your life. Every true love story has hinted at it. Every groom weakened at the sight of his radiant bride has whispered of it. Every faithful, committed, and loving marriage has pointed to it. Each is an imperfect echo of the perfect song of heaven.

Dyna felly’r olwg hir dymor o bwysigrwydd yr eglwys – yr eglwys yw cymar Crist ei hun. Ond beth am bwysigrwydd fwy ymarferol dydd i ddydd yr Eglwys? Rwyf wedi cyfeirio eisoes at y ffaith nad ydy bod yn aelod o Eglwys yn eich gwneud chi’n Gristion, wedi dweud hynny rwy’n credu ei bod hi’n anodd os nad amhosib byw fel Cristion heb fod yn rhan o Eglwys. Mae dyletswydd ar Gristnogion i fod yn oleuni a halen yn y gymdeithas a’r ffordd orau i ddangos y goleuni a taenu’r halen hwnnw yw fel cymuned wedi dod at ein gilydd. Mae’r gymdeithas ehangach yn fwy tebygol o gymryd sylw o gymuned Gristnogol nag ydyw o Gristnogion unigol wedi eu gwasgaru dros dref, dinas neu ardal helaeth. Drwy gael cymuned o gredinwyr yn cyd-fyw yr efengyl a’r bywyd newydd gall y gymuned yn ehangach weld yr efengyl ar-waith yn arbennig felly pan fo cyfyngderau fel salwch a phrofedigaethau yn dod i’n rhan.

Yn ail, mae i’r Eglwys rôl bwysig yn dilysu a profi ffydd y Cristion. Nawr peidiwch a fy nghamddeall, nid rôl yr Eglwys yw rhoi’r bawd i fyny neu’r bawd i lawr i honiad rhywun ei fod yn adnabod ei Waredwr ond mae’r Beibl yn ein dysgu am y ffrwythau sy’n brawf o ddilysrwydd ffydd. Yn y bregeth ar y mynydd mae Iesu’n dysgu yn Mathew 5:16: ‘Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.’ Ac yna yn Galatiaid 5:19-23 mae Paul yn ymhelaethu:

“Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o’r blaen, na chaiff y rhai sy’n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.”

Nid wyf yn honni am ennyd y bo’r Cristion yn gwbl rydd o weithredoedd y cnawd ac yn llawn dop o ffrwythau’r Ysbryd dros nos ond pa le gwell nag yng nghymdeithas yr Eglwys i drafod a meithrin ein pererindod mewn modd gariadus sy’n llawn o anogaeth iach? Nid yw ein iachawdwriaeth yn ddibynnol ar ddim un gweithred maen ddibynnol ar ffydd yn unig, fodd bynnag fe ddylai ein gweithredoedd adlewyrchu’r un weithred oedd yn cyfri ar y groes.

Dyna felly gyffwrdd yn unig ar ambell agwedd o bwysigrwydd yr Eglwys i’r Cristion, gobeithio y gallwn ddychwelyd at y testun eto maes o law gan fod llawer eto i’w drafod, gan y gynnwys y ffenomenon ryfedd, fel a nodwyd gan R. Tudur Jones unwaith, o fod yr unig sefydliad yng Nghymru sy’n eich gwahodd i siarad ac yna ddim yn troi fyny i wrando!

Please follow and like us: