Yn rhifyn diwethaf Cristion cyhoeddais y gyntaf o ddwy (neu fwy efallai!) erthygl am yr Eglwys – felly cyn symud ymlaen yn yr erthygl yma byddai’n fuddiol crynhoi prif bwyntiau’r erthygl flaenorol. Esboniais fod yr Eglwys yn hanfodol bwysig am y rheswm syml ei bod hi’n bwysig yng ngolwg Duw ei hun; cymaint nes iddo gyflwyno’r Eglwys i Iesu ein Harglwydd fel ei Briodferch. “God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman” meddai Joshua Harris yn ei lyfr Stop Dating the Church, “so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save.” Ar lefel mwy ymarferol esboniwyd yn yr erthygl flaenorol bwysigrwydd yr Eglwys fel cymuned o gredinwyr a bod cymuned o gredinwyr yn fwy tebygol o ddal sylw a dylanwadu ar y gymdeithas seciwlar na chredinwyr unigol fan hyn fan draw. Yn olaf esboniwyd fod cymuned yr Eglwys yn lle i brofi ffydd y crediniwr, nid bod yr eglwys i ddod rhwng dyn a Duw ond yn hytrach ei bod yn gymuned lle dylem ni drafod a meithrin ein pererindod ysbrydol mewn modd cariadus sy’n llawn anogaeth iach.
Wrth ail-ddarllen rhan gyntaf y drafodaeth cyn dechrau ysgrifennu’r rhan hwn fe wawriodd arnaf mor bell yw ein heglwysi Cymraeg heddiw o’r ddelfryd, wel nid delfryd mewn gwirionedd oherwydd yng ngair Duw model a chanllaw a roddir, nid delfryd afrealistig. Nid edrych i lawr a thwt twtio o bedestal yw fy mwriad yn hyn o beth ond yn hytrach rwy’n siarad o brofiad. Fel myfyriwr ymchwil ym Mangor a chyn hynny yn fyfyriwr is-radd yn Aberystwyth rydwyf wedi gwneud fy siâr o’r hyn a elwir yn church-hopping. Tra yn Aberystwyth roeddwn yn mynychu dwy eglwys wahanol, a bellach er yn byw ym Mangor mae fy mhenwythnosau’n cael eu rhannu rhwng Bangor ac Aberystwyth a chanlyniad hyn oll yw fy mod i wedi methu ymroi i waith fy eglwys leol fel y dylwn i ac fel y dylai pob Cristion wneud. Oherwydd hynny nid pregethu yw fy mwriad yn yr ysgrif hon, ond yn hytrach uniaethu a cheisio cynnig cyngor i fi fy hun yn ogystal ag i chi’r darllenwyr sydd, o bosib, wedi syrthio i’r fagl o fod yn llugoer eich ymroddiad i’ch eglwys leol.
Trin yr Eglwys fel Sinema
Y ffenomenon gyntaf rwyf am gyfeirio ati yw’r un o drin yr Eglwys fel Sinema neu’r Pictiwrs. Dwi wrth fy modd yn mynd i’r Sinema, yn enwedig ers symud i Fangor oherwydd mae mynd i weld ffilm yn cynnwys reid fach ar y trên draw i Gyffordd Llandudno. Ond er fy hoffter o’r tripiau bach draw i Junction (fel mae’r Conductor ar y trên yn ei alw), anaml iawn y caf noson rydd neu wythnos dawel i fynd yno – dim ond os nad oes unrhywbeth arall o gwbl ymlaen, dim gwaith i’w gwblhau na dim adloniant amgen ar gael y penderfynaf ei throi hi am Junction. Wedi i chi gyrraedd yno does dim rhaid gwneud unrhywbeth, dim ond prynu eich tocyn ac yna bydd y staff yn gweini diodydd a phop-corn i chi a mewn â chi i eistedd nôl a mwynhau y ffilm a chael dianc o’r byd go iawn am awr neu ddwy. Yna adref â chi a gadael i staff y Sinema glirio’r pop-corn oddi ar y llawr a gosod y lle yn barod ar gyfer y ffilm nesaf. Tybed a ydych chi’n un o’r rheini sy’n trin yr Eglwys fel Sinema? Mae yna ddigon o rai yn gwneud hynny.
Dim ond os nad oes unrhywbeth arall ymlaen y byddwch chi’n troi i mewn i’r cwrdd, a hynny dim ond llond llaw o droeon y flwyddyn, rhyw fath o last resort. A phan drowch chi fyny fyddwch chi ddim yn disgwyl gwneud mwy nag eistedd yn y cefn a’i throi hi am adref ar y diwedd. Bydd y rheini sy’n trin yr Eglwys fel Sinema yn cymryd yn ganiataol fod aelodau eraill yn gwneud yr holl waith ac y gallant hwy fynychu oedfaon pan yn gyfleus iddyn nhw. Mae cadw eich enw ar lyfrau aelodaeth eich capel a dangos eich wyneb yn y cwrdd o dro i dro yn ystod y flwyddyn er mwyn lleddfu eich cydwybod yn ymylu ar ofergoeliaeth ac mae hyn yn ffenomenon sy’n rhaid i’r eglwysi Cymraeg ei wynebu a’i daclo heddiw. Un o brif elynion efengyl Crist yn ein capeli heddiw yw crefydd. Nid yw crefydd a Christnogaeth yn gyfystyr. Mae un yn dilyn ofergoel a’r llall yn dilyn gras Crist.
Y gymhareb aelodau:gwrandawyr
Gwerth nodi fod yn rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio tystiolaeth empeiraidd (hynny yw ystadegol) i fesur bendith yng ngwaith yr Eglwys; fodd bynnag ffôl byddai anwybyddu ystadegau yn llwyr oherwydd ‘gwnewch ddisgyblion’ oedd gorchymyn yr Iesu ac nid drwg o beth yw cadw golwg ar nifer y disgyblion hynny. Gwawriodd arnaf yn ddiweddar mai un gwahaniaeth rhwng eglwys fyw a chyfoes ei chenhadaeth ag un sydd ar drai ac yn methu yn ei chenhadaeth yw’r gymhareb aelodau:gwrandawyr. Mewn eglwysi byw diwygiadol (reformissional) mae nifer y gynulleidfa ar y Sul yn fwy, weithiau dipyn yn fwy, na nifer aelodau’r Eglwys. Ar y llaw arall mewn eglwysi traddodiadol sydd wedi methu â gwneud eu cenhadaeth yn un amgylchiadol (contextulized) nid yn unig mae yna ddiffyg gwrandawyr yn y gynulleidfa ond mae’r gynulleidfa yn llai na nifer aelodau’r eglwys hyd yn oed. Cymerer er enghraifft eglwys Mars Hill yn Seattle y rhoddais i sylw iddi yn Cristion rai misoedd yn ôl – erbyn hyn mae dros 10,000 yn mynychu’r cyfarfodydd ar saith campws gwahanol ar draws y ddinas a’r wythnos diwethaf fe ddeellais mae dim ond 3,000 o’r 10,000 oedd yn aelodau llawn o’r Eglwys. Ac ar y pegwn arall dwi’n siŵr nad oes rhaid i ni edrych yn bellach na’n capel neu eglwys leol Gymraeg. Gallaf fentro dweud bod llawer mwy ar y llyfr aelodaeth nag sydd yn y cwrdd ar y Sul. Mae gan rhai eglwysi gannoedd yn aelodau ond maent yn crafu i gael hanner cant yn bresennol ar y Sul ar ddiwrnod da. Oes pwynt i ni fel aelodau yn yr eglwysi Cymraeg drafod cenhadaeth pan nad yw ein aelodau ni ein hunain yn mynychu yr oedfaon o Sul i Sul? Dadleua rhai fod aelodaeth bresennol yr eglwys yn faes cenhadol ynddo ef ei hun cyn meddwl am ennill pobl o’r gymdeithas ehangach i Grist! Wrth gyfeirio at y ffenomenon drist yma fe ddywedodd R. Tudur Jones unwaith mai’r capel Cymraeg oedd yr unig sefydliad yng Nghymru sy’n eich gwahodd i’w hannerch ac yna ddim yn trafferthu i droi fyny i wrando.
Gobaith?
Yn y rhifyn nesaf bwriadaf symud tu hwnt i’r diagnosis a throi at y feddyginiaeth. Troi cefn ar ddiwylliant anobaith a throi at nerth yr Ysbryd i roddi ‘trydan yn y traed’.