Yn y rhifyn yma gobeithiaf gychwyn esbonio sut y medrwn fynd ati, yn nerth yr Ysbryd Glan, i adfer gobaith a dianc o anobaith yn ein Heglwysi yng Nghymru a hynny nid er ein lles ein hunain, ond er lles ein cyd-Gymry ac er mawl i Dduw. Ond yn gyntaf byddai’n syniad atgoffa ein hunain yn sydyn o brif bwyntiau’r ddwy erthygl flaenorol yn y gyfres. Yn y gyntaf esboniais fod yr Eglwys yn hanfodol bwysig am y rheswm syml ei bod hi’n bwysig yng ngolwg Duw ei hun; cymaint nes iddo gyflwyno’r Eglwys i Iesu ein Harglwydd fel ei Briodferch. Ar lefel mwy ymarferol esboniwyd yn yr erthygl gyntaf bwysigrwydd yr Eglwys fel cymuned o gredinwyr a bod cymuned o gredinwyr yn fwy tebygol o ddal sylw a dylanwadu ar y gymdeithas seciwlar na chredinwyr unigol fan hyn fan draw. Yn olaf esboniwyd fod cymuned yr Eglwys yn lle i brofi ffydd y crediniwr, ond nad yw’r Eglwys i ddod rhwng dyn â Duw. Cymuned yw’r Eglwys lle dylem drafod a meithrin ein pererindod ysbrydol mewn modd cariadus sy’n llawn anogaeth iach. Yn yr ail erthygl fe drafodais ddau broblem ymarferol y byddai’n rhaid i’r Eglwysi ei wynebu cyn medru symud ymlaen i drafod adferiad, sef diffyg ymroddiad i waith ein eglwys leol a’r angen i ail-ddarganfod pwysigrwydd “offeiriadaeth yr holl saint”. Ac yn ail, ein methiant i ddenu brwdfrydedd a phresenoldeb trwch ein haelodau presennol i’n gwasanaethau heb sôn am ddenu gwrandawyr o’r gymdeithas ehangach.

Yn yr erthygl yma felly gobeithiaf symud tuag at yr ateb; ac ar y dechrau un, hoffwn wneud yn glir nad ydw i’n honni fod yr ateb gennyf i – ddim o gwbl – ond yn hytrach, fe gredaf fod yr ateb i’w gael yn y Beibl ond i ni ei astudio’n fanwl a gweddigar. Credaf fod angen i ni yn yr Eglwysi yng Nghymru ail-ddarganfod arbenigedd ac unigrywiaeth Crist fel dyn, Duw, athro a’n hunig waredwr. Cymaint oedd y sylweddoliad o Arglwyddiaeth Crist ar un adeg yng Nghymru nes i Gristnogaeth ddod yn ran o’n hunaniaeth genedlaethol. Ond nid mynegiant o ffydd bersonol yng Nghrist fel gwaredwr yw’r label ‘Cristion’ yng Nghymru bellach ond yn hytrach rhan y gellid ei gymryd yn ganiataol o’n hunaniaeth. Mewn gwlad lle mae 71% yn adnabod eu hunain fel Cristnogion ond dim ond 8.7% yn ei hymarfer hi’n gyhoeddus ni ellid ond dod at gasgliad o’r fath – gwahaniaeth o 62.3%. Nid fy lle i yw barnu y Cristnogion hynny sydd off the radar fel petai ond yn hytrach edrych ar yr hyn dywed y Beibl yw’r Cristion fel y gall bobl wedyn farnu drostynt hwy eu hunain. Mae’n rhaid i ni wynebu’r cwestiwn yma os ydym ni am weld adferiad yn ein Eglwysi. Beth yw Cristion? Bydd unrhyw eglwysi sy’n annelwig ar y cwestiwn hwn yn methu yn ei chenhadaeth gan nad yw hi ei hun yn sicr o’r ateb mae ein cymdeithas yn awchu amdano.

Y peth cyntaf sy’n werth nodi yw hyn, plant ac nid wyrion sydd gan Dduw. Cyn i fy Nhad-cu droi at Grist yr hyn wnaeth ei sbarduno i feddwl yn ddyfnach am ei berthynas (neu ddiffyg ar y pryd) gyda Duw oedd iddo dderbyn pamffled oedd a’r teitl brawychus GOD HAS NO GRAND CHILDERN. Byrdwn awdur y bamffled y diwrnod hwnnw oedd y ffaith fod rhaid i bawb ddod i adnabod y Gwaredwr drostynt hwy eu hunain. Nid oes unrhyw un yn etifeddu perthynas a Duw ar sail ffydd ei rieni neu am ei fod yn aelod o genedl a thraddodiad Cristnogol fel, meiddia i awgrymu, Cymru. Mae’r Beibl yn glir y bod pawb yn dechrau yn yr un man mewn perthynas â Duw – does ots am unrhyw gefndir neu fagwraeth Gristnogol. Gwrandewch ar yr apostol Paul, mae’n dechrau gyda’r cwestiwn rhethregol: ‘Felly beth ydyn ni’n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall?’ cystal i ni ofyn a ydym ni’r Cymry yn well yng ngolwg Duw oherwydd ein treftadaeth Gristnogol? Ateba’r apostol yn gadarn gyda’r negyddol:

Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: 


“Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl!

Does neb sy’n deall go iawn, 
neb sydd wir yn ceisio Duw.

Mae pawb wedi troi cefn arno, 
ac yn dda i ddim. 

Does neb yn gwneud daioni – dim un!”

“Mae eu geiriau’n drewi fel beddau agored; 
dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” 

“Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.”

“Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.”

“Maen nhw’n barod iawn i ladd;
 mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman,
 Dyn nhw’n gwybod dim am wir heddwch.”

“Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.” (Rhufeiniaid 3:10-18)

Dyna beth yw geiriau sobor a phwerus. Y rheswm pam y dewisais dynnu sylw at gymal mor negyddol oedd er mwyn dangos nad oes gan Dduw ei ffefrynnau. Yn bwysicach fyth i ni’r Cymry nid yw chwaith yn ffafrio rhai cenhedloedd mwy nag eraill. Mae pawb yn ‘amddifad o ogoniant Duw’ (Rhuf. 3:23) ond y newyddion da yw hyn: gall pawb, yr un mor ddiwahaniaeth, ddyfod i mewn i berthynas â Duw. Ni wneir hynny drwy gael eich magu mewn eglwys a chael eich bedyddio’n blentyn; ni wneir hynny chwaith oherwydd fod eich Mam neu eich Tad yn Gristnogion, ac yn sicr ni wneir hynny trwy berthyn i un o genhedloedd mwyaf Cristnogol hanes – nid drwy fod yn Gymro! Nid yw’r rhain yn ffactorau i’w difrïo, cofiwch; arwyddion ffordd ydynt i’ch cyfeirio at y briffordd i berthynas go-iawn â Duw a dod yn Gristion.

Yn ei epistol at yr Effesiaid mae Paul yn trafod dod i gredu a dod yn Gristion yn nghyd-destun bod yn farw ac yna dod i fywyd. Mae’n cyfeirio at bobl oedd yn farw yn eu hen ffordd o fyw a meddwl ac a ddaeth yn ‘fyw yng Nghrist.’ (Eff. 2:5) Nes ymlaen mae Paul yn esbonio mai trwy ras a thrwy ffydd yn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol y daeth yr Effesiaid i berthynas â Duw; dyna sut y daethant yn Gristnogion. Dyma pam, yn ei epistolau at y Rhufeiniaid a’r Effesiaid, yr esbonio Paul gyflwr dyn heb Dduw a’i angen am berthynas gyda Duw. Disgrifia Paul sut mae dod i berthynas gyda Duw sef drwy ffydd ac nid drwy unrhyw weithredoedd. Ond beth am eiriau Crist ei hun? Dyma y dywed yn Ioan 14:6; ‘Myfi yw’r ffordd y gwirionedd a’r bywyd. Nid oes neb yn dod at y Tad ond trwof fi.’ Trwy ffydd yn Iesu a neb arall felly mae dod i berthynas a Duw. Dyma sut mae dod yn Gristion. Rhaid i’r Eglwys beidio syrthio i gors plwraliaeth yn ein oes aml-ffydd ni a cyflwyno Iesu fel un ffordd ymysg llawer at Dduw – ddim ar unrhyw gyfri – Iesu ein gwaredwr yw’r unig ffordd. Mae awgrymu mae dim ond un ffordd ymysg llawer ffyrdd yw ffordd y Groes yn ddifrïol o waith yr un a wnaeth yr aberth eithaf drosom ni – rhaid i ni rhoi’r gorau i amharchu Crist yn enw plwraliaeth ac aml-ffydd.

Yn y paragraffau diwethaf rydym ni wedi bod yn delio gyda’r syniad o ddod yn Gristion. Tybiaf fod y profiad hwn, a elwir yn hanesyddol yn dröedigaeth, wedi mynd yn ddieithr i ni, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd o fewn ein eglwysi. Mae’n un esboniad o’n marweidd-dra ysbrydol. Rydym ni, ar ddiwrnod da, yn barod i sôn am fod yn Gristnogion ond os ydych chi am fod yn saff o greu tawelwch llethol yna holwch am y profiad o ddod yn Gristion. I rai maen brofiad y gellid enwi’r union amser a diwrnod ond i eraill, fel y fi, gellid cofio’n ôl i rhyw gyfnod o rai wythnosau neu fisodd yn eich bywyd pan daeth pethau yn glir; beth bynnag y bo mae’r ffaith yn sefyll eich bod chi, gobeithio, yn gallu dweud eich bod chi boed dros nos neu dros gyfnod hirach wedi dod yn Gristion. Er fod 71% o Gymru yn Gristnogion tybed faint all ddweud wrth eraill am eu profiad neu eu taith wrth ddod yn Gristion? Dim ond holi. Mewn amryw o lyfrau Cristnogol adroddir fel hyn; going to Church doesn’t make you a Christian more than going to Mcdonald’s doesn’t make you a hamburger. Mae hyn wrth gwrs yn hollol wir ac mae’r neges fod yn rhaid i bawb ddod i berthynas bersonol â Duw trwy Iesu yr un mor berthnasol i’r 8.7% sy’n mynychu Eglwys ag yw i’r 62.3% nad sy’n mynychu. Ond hoffwn ail-bwysleisio wrth ddod a’r erthygl hon i’w therfyn, fod ein treftadaeth Gristnogol yn un tu hwnt o gyfoethog ac y gallwn ymfalchïo yn ei gylch a thynnu ysbrydoliaeth oddi wrtho. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni wynebu’r realiti fod ein treftadaeth Gristnogol wedi rhoi cam-argraff difrifol ar feddwl y Cymry ynglŷn ag ystyr Cristnogaeth a Cristion. Fe droes y syniad o berthynas ysbrydol fyw gyda Duw trwy Iesu yn ddim byd mwy na label o hunaniaeth. Rôl yr Eglwys yng Nghymru heddiw yw pregethu’n glir unwaith eto fod Cristnogaeth yn fwy na label diwylliannol yn unig. Mae’n ffydd fyw a radical i bob oes fel ei gilydd. Fel yr Apostol Paul, rhaid i ni ddatgan nad oes arnom ‘gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi.’ (Rhuf 1:16)

Gwn bydd rhai yn teimlo fod pwyslais yr erthygl hon wedi bod yn rhy unigolyddol – ar ryw wedd fe gytunaf a dyna pham y bydd rhaid aros tan y rhifyn nesaf i gael cwblhau y dweud a rhoi’r darlun cyflawn.

Please follow and like us: