Yn y rhifyn hwn gobeithiaf barhau i esbonio sut y medrwn fynd ati, yn nerth yr Ysbryd Glan, i adfer gobaith yn ein Heglwysi yng Nghymru. Ar gychwyn y gyfres esboniais fod yr Eglwys yn hanfodol bwysig am y rheswm syml ei bod hi’n bwysig yng ngolwg Duw ei hun; cymaint nes iddo gyflwyno’r Eglwys i Iesu ein Harglwydd fel ei Briodferch. Es ymlaen wedyn i drafod rhai problemau ymarferol y byddai’n rhaid i’r Eglwysi ei wynebu cyn medru symud ymlaen i drafod adferiad, sef diffyg ymroddiad i waith ein eglwys leol a’r angen i ail-ddarganfod pwysigrwydd “offeiriadaeth yr holl saint”. Yn yr erthygl ddiwethaf bu i mi bwysleisio’r angen i ni ail-ddarganfod y pwyslais clasurol ar Iesu Grist ac ef yn unig fel ein hunig obaith – gwaredwr cryf i’r gwan. Maen bur debyg i bwyslais yr erthygl ddiwethaf fod yn rhy unigolyddol i rai gyda’r sôn am y pwysigrwydd i’r unigolyn ddod i berthynas gyda Duw. Ar ryw wedd fe gytunaf a dyna pham y byddaf yn parhau yn y rhifyn hwn ar yr un thema er mwyn cwblhau y dweud a rhoi’r darlun cyflawn ac nid y darlun unigolyddol yn unig.
O edrych yn ôl ar hanes y ffydd yng Nghymru dros y ganrif diwethaf gellid ond dod i’r casgliad fod pegynnu difrifol ac anffodus wedi bod rhwng dau safbwynt arbennig. Ar y naill law, cawn y traddodiad sy’n rhoi pwyslais trwm ar faddeuant pechodau ac o ganlyniad ar dröedigaeth bersonol. Rhoir sylw mawr i ochr unigolyddol ein ffydd heb ddangos fawr ddiddordeb yn Nheyrnas Dduw a sgôp Brenhiniaeth Crist. Dyma’r pwyslais bu i mi dynnu sylw ati, ac yn iawn felly, yn yr erthygl ddiwethaf oherwydd mae perthynas fyw gyda’n Duw o’r pwys mwyaf. Ar y llaw arall, ceir traddodiad sy’n canoli sylw ar ddysgeidiaeth Iesu Grist am Deyrnas Dduw, gan ei gweld fel rhaglen i’w cyflawni trwy ymroddiad gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r tyndra rhwng y ddau draddodiad wedi bod yn mud-losgi ers blynyddoedd ac y mae wedi dwysau yn ystod y flwyddyn diwethaf gyda’r trafod a fu yn dilyn sylwadau a drama ddadleuol Aled Jones Williams, Iesu! Ond credaf i fod y ddau draddodiad yn tynnu sylw at bethau sy’n hanfodol yng nghyfanrwydd gweledigaeth y ffydd Gristnogol. Os ydym am weld adferiad ysbrydol ac adnewyddiad yn ein Eglwysi, mae’n rhaid cyfannu’r rhwyg rhwng y ddau bwyslais a hynny yng ngoleuni dysgeidiaeth y Testament Newydd.
Bum yn ddigon ffodus i gael ymweld ag eglwysi Kyiv, Yr Wcráin yn ôl yn yr hydref ac roedd yr eglwysi allan yna yn adleisio pwyslais yr Iesu o gyfuno’r personol a’r cymdeithasol. Holais un o’r arweinwyr Eglwysig dylanwadol allan yna os oedd yn gweld fod rôl i’r Cristion ymhél a gwaith cymdeithasol a gwleidyddol. Fe chwarddodd nol yn fy wyneb am ofyn y fath gwestiwn hurt! ‘Petai Duw am i ni eistedd nol’, meddai, ‘a pheidio ymhél a’r byd ar ôl i ni ddod yn Gristnogion yna byddai’n gwneud mwy o synnwyr iddo ein cymryd yn syth i’r Nefoedd ar ôl i ni ddod i gredu!’ Esboniodd y cyfaill hyn i mi mewn golau ysgafn ond mi roedd yn gwneud sylwad diwinyddol dwfn a phwysig. Rydym ni’n dod i gredu ac yn cael ein hachub mewn hanes a dyna sy’n rhyfeddol am Iesu Grist ein gwaredwr; fe ddaeth ar ffurf dyn yn llythrennol i fewn i hanes. Mae bron a bod pob crefydd yn honni fod eu duw wedi anfon proffwydi neu angylion ond dim ond y ffydd Gristnogol sy’n adrodd i Dduw ei hun ymweld yn llythrennol a ni mewn cnawd.
Ond beth mae hyn oll yn golygu i ni heddiw ar lefel ymarferol? Pam fod deall a phwyntio hyn allan yn bwysig i ni wrth drafod adferiad ysbrydol yn ein Eglwysi? Wel, gan fod Duw ei hun wedi dod i fewn i hanes mae disgwyl i’n ffydd ni gael ei amlygu mewn hanes hefyd. Efallai fod ein ffydd yn cychwyn ar lefel unigolyddol wrth ddod i berthynas a Christ ond ni ddylai byth aros felly; rhaid mynd allan a rhaid gweithio ar lwyfan hanes. Aled Jones Williams ddywedodd y llynedd mae ei obaith drwy ysgrifennu sylwadau eithafol o Ryddfrydol yn ei lythyron yn Golwg a’i ysgrif yn y Goleuad oedd dod a gwedd ‘broffwydol’ yn ôl i rôl yr arweinydd eglwysig. Bu bri unwaith ar y peth a alwn yn “bregethu proffwydol” ond ni olyga ben-rhyddid i dorri’r Beibl yn ddarnau man. Un o ystyron “pregethu proffwydol” yn hanesyddol yw condemnio pechodau’r oes. Maen golygu portreadu drygioni yn y ffordd fwyaf difrifol posibl, ac mae’n golygu ymosod yn gadarn ond teg ar y troseddwyr yn y gobaith y bydd yn adfer ei ffyrdd er ei les ef ei hun ac er lles cymdeithas. Pan fydd Cristion yn ceisio bod yn broffwydol, bydd yn dewis pwnc sy’n debyg o gyffroi ei wrandawyr, pwnc cyfoes fu ar y newyddion yr wythnos hwnnw efallai. Crafu cydwybod yw’r bwriad.
Mewn rhai cylchoedd bydd y pynciau yn rai mwy personol, pethau fel meddwi, gamblo, erthylu neu anffyddlondeb. Ar hyn o bryd, nid yw’r pynciau hyn yn boblogaidd iawn fel pynciau i’w codi mewn pregeth ond maent yn broblemau sy’n llethu cymdeithas ac wedi pydru eu ffordd i mewn i’n heglwysi ers tro hefyd yn anffodus. Gellid deall pam mai pynciau llai personol sy’n mynd a bri capeli Cymraeg heddiw, pethau fel diweithdra, yr Iaith Gymraeg, rhyfel niwclear neu newyn byd. Mae cydnabod bodolaeth a thaclo pechodau personol yn ogystal a rhai strwythurol yn bwysig ond y gyfrinach yw deall y berthynas rhwng delio gyda phroblemau cymdeithasol ar un llaw a deall y pwyslais ar berthynas real bersonol a Duw trwy Iesu ar y naill. Mae’n rhaid i’r ddau wedd ddod law yn llaw er mwyn i’n Cristnogaeth ni yma yng Nghymru fod yn gyflawn eto. Fel y dywedodd Jim Wallis un tro: ‘You can’t just keep pulling bodies out of the river; you’ve got to send somebody upstream to see what or who is throwing them in.’ Hynny yw, ofer ydy unrhyw waith cymdeithasol a gwleidyddol yn ein eglwysi oni welwn y gwaith yng nghyd destun y dimensiwn ysbrydol dyfnach. Yn yr un modd, bas iawn fydd unrhyw ffydd Gristnogol sydd a phwyslais yn unig ar yr ysbrydol heb drosi oblygiadau hynny i weithgaredd ymarferol mewn hanes. Ond fel dywedodd R. Tudur Jones: ‘Peth anodd ddychrynllyd yw bod yn broffwydol ac yn rasol yr un pryd.’