Yn y blogiad diwethaf wnes i bortreadu Sarah Palin, partner McCain yn y ras arlywyddol fel ymgeisydd text book dde-efengylaidd gan ei bod hi’n pro-life, yn pro-guns ac a mab ar y ffordd i ryfela’n gyfiawn yn y Dwyrain canol. Wel, y newyddion diweddaraf o’r UDA ydy fod Palin ddim mor text book a hynny oherwydd fe ddatgelwyd heddiw fod merch Palin, sydd yn ei harddegau ac yn ddi-briod, yn bum mis feichiog.

I ddechrau dwi am bwysleisio y dylai bywyd preifat teuluoedd gwleidyddion aros yn breifat ac yn hynny o beth mi fydd yn drist iawn os bydd y wasg yn erlid merch Palin. Fodd bynnag dwi’n meddwl bod oblygiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol i’r stori yma boed i ni hoffi hynny neu beidio. Ar un llaw dwi’n meddwl y bydd llawer o’r bleidlais dde-efengylaidd yn teimlo fel pe taent wedi cael eu bradychu eisoes a bod eu dynes “nhw” ddim yn ddifrycheulyd wedi’r cyfan; mae’r ddelfryd wedi dymchwel yn barod a hynny dim ond ar ol rhai diwrnodau. Maen siwr y bydd llawer yn gofyn iddyn nhw eu hunain a oes yna fwy o storiau llai ffafriol am Palin yn cuddio allan yna? Ar y llaw arall maen debyg y bydd penderfyniad y ferch i gadw’r babi yn hytrach na throi at erthyliad yn siwr o galanogi rhai o’r dde-efengylaidd oherwydd fod hyn, er gwaethaf popeth, yn dangos fod Palin yn ymarfer yr hyn mae hi’n pregethu. Fodd bynnag, maen debyg mae cymysg ac wedi eu siomi bydd y rhan fwyaf o’r bleidlais dde-efengylaidd gyda’r stori yma gan dybio nad yw Mam na all gymryd gofal a rheolaeth dros ei phlant yn ffit i lywodraethu gwlad.

Ond mi all yr hanesyn yma am ferch Palin ddod a chefnogwyr newydd draw at y Gweriniaethwyr oherwydd fod yr hanesyn yma yn dangos nad text book o Fam ydy Palin ond yn hytrach ei bod hi a’i theulu yn deulu “go-iawn” sy’n wynebu ac yn gorfod delio ag issues sy’n effeithio miloedd o deuluoedd yn ein cymdeithas ol-fodernaidd ni heddiw. Efallai fod ein syniadau, ein daliadau a’n ffydd yn ddu a gwyn ond nid yw bywyd bob dydd yn ddu a gwyn. Trwy’r hanesyn yma mae Palin wedi profi nad ydy bywyd yn ddu a gwyn ac maen debyg y bydd hynny yn dennu cefnogwyr iddi hi a MCain.

Dwi ddim am ddifrio’r sefyllfa wrth orffen ond fe welesi hi’n ddoniol fod merch Palin a thad ei phlentyn yn priodi yn fuan oherwydd bod Palin yn Pro-Guns ac nawr mae hi’n anog Shotgun wedding… Bwm bwm.

Please follow and like us: