capel gwag

 

Maen rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio tystiolaeth empeiraidd (hynny yw ystadegol) i fesur bendith yng ngwaith yr Eglwys; fodd bynnag ffôl byddai anwybyddu ystadegau yn llwyr oherwydd ‘gwnewch ddisgyblion’ oedd gorchymyn yr Iesu ac nid drwg o beth yw cadw golwg ar nifer y disgyblion hynny. Gwawriodd arnaf yn ddiweddar mai un gwahaniaeth rhwng eglwys fyw a chyfoes ei chenhadaeth ag un sydd ar drai ac yn methu yn ei chenhadaeth yw’r gymhareb aelodau:gwrandawyr. Mewn eglwysi byw diwygiadol (reformissional) mae nifer y gynulleidfa ar y Sul yn fwy, weithiau dipyn yn fwy, na nifer aelodau’r Eglwys. Ar y llaw arall mewn eglwysi traddodiadol sydd wedi methu â gwneud eu cenhadaeth yn un amgylchiadol (contextulized) nid yn unig mae yna ddiffyg gwrandawyr yn y gynulleidfa ond mae’r gynulleidfa yn llai na nifer aelodau’r eglwys hyd yn oed. Cymerer er enghraifft eglwys Mars Hill yn Seattle y rhoddais i sylw iddi yn Cristion rai misoedd yn ôl – erbyn hyn mae dros 10,000 yn mynychu’r cyfarfodydd ar saith campws gwahanol ar draws y ddinas a’r wythnos diwethaf fe ddeellais mae dim ond 3,000 o’r 10,000 oedd yn aelodau llawn o’r Eglwys. Ac ar y pegwn arall dwi’n siŵr nad oes rhaid i ni edrych yn bellach na’n capel neu eglwys leol Gymraeg. Gallaf fentro dweud bod llawer mwy ar y llyfr aelodaeth nag sydd yn y cwrdd ar y Sul. Mae gan rhai eglwysi gannoedd yn aelodau ond maent yn crafu i gael hanner cant yn bresennol ar y Sul ar ddiwrnod da. Oes pwynt i ni fel aelodau yn yr eglwysi Cymraeg drafod cenhadaeth pan nad yw ein aelodau ni ein hunain yn mynychu yr oedfaon o Sul i Sul? Dadleua rhai fod aelodaeth bresennol yr eglwys yn faes cenhadol ynddo ef ei hun cyn meddwl am ennill pobl o’r gymdeithas ehangach i Grist!

 

Wrth gyfeirio at y ffenomenon drist yma fe ddywedodd R. Tudur Jones unwaith mai’r capel Cymraeg oedd yr unig sefydliad yng Nghymru sy’n eich gwahodd i’w hannerch ac yna ddim yn trafferthu i droi fyny i wrando.

Please follow and like us: