(Mae’r isod yn addasiad i’r Gymraeg gen i o ran o bennod o lyfr arbennig Kenneth E. Bailey, ‘Jesus Through Middle Eastern Eyes: Cultural Studies In The Gospels’. Rwy’n credu eu bod yn arbennig o berthnasol wrth i ni weddïo ac ystyried ein hymateb i’r sefyllfa gymhleth yn Israel a Phalestina heddiw lle mae yna ddioddefwyr ar y ddwy ochr. Dydy e ddim yn ddarn ysgafn, mae yn reit academaidd, ond yn bwysig rwy’n credu wrth i ni drio meddwl yn ddyfnach na sloganau’n unig yn ein ymateb i’r tristwch rydym yn ei weld ar y newyddion bob nos.)

Yn Mathew 1.20-21 dywedir wrth Joseff, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai’r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi. Bachgen fydd hi’n ei gael. Rwyt i roi’r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o’u pechodau.”

Yn Hebraeg a’r Aramaeg mae yna chwarae ar eiriau yma sy’n cael ei golli yn y Groeg, y Saesneg a’r Gymraeg. “Iesu” yn Hebraeg yw Yĕšûâ a’r ferf  “i achub” yw yāšaʿ. Os cyfunir Hebraeg a’r Gymraeg mewn un frawddeg, gellir ei gyfieithu fel, “Rwyt i roi’r enw Yĕšûâ iddo, am mai fe fydd yn yāšaʿ ei bobl o’u pechodau.”

Roedd y gymuned Iddewig yn y Tir Sanctaidd yn y ganrif gyntaf wedi ei meddiannu a’i gormesu gan y Rhufeiniaid. Cyn y Rhufeiniaid, roedd y wlad wedi cael ei rheoli gan y Groegiaid, a chyn hynny gan y Persiaid. Yng nghyfnod Iesu roedd llawer o’r tir yn eiddo i dramorwyr oedd yn rheoli ystadau enfawr. Roedd yn rhaid i ffermwyr lleol rentu tir ac yn aml yn cael eu trin yn annheg. Sbardunodd y gorthrwm economaidd a gwleidyddol hwn y gwrthryfel Iddewig yn 60au’r ganrif gyntaf.

Mewn sefyllfa o ormes gwleidyddol ac economaidd mae pobl yn naturiol eisiau achubiaeth, ond o beth? Achubiaeth oddi wrth eu gormeswyr wrth reswm. Gellid gweld hyn yn glir yn yr orfoledd proffwydol dros gwymp Babilon a fynegir yn Eseia 47:

“I lawr â ti! Eistedd yn y llwch,
o wyryf, ferch Babilon.
Eistedd ar lawr, ferch y Babiloniaid,
mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod.
Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto.
Gafael yn y felin law i falu blawd.
Tyn dy fêl, rhwyga dy wisg,
a dangos dy goesau wrth gerdded drwy afonydd.
Byddi’n gwbl noeth, a bydd
dy rannau preifat yn y golwg.
Dw i’n mynd i ddial,
a fydd neb yn fy rhwysto i.”
(Eseia 47.1-3)

Mae’r testun hwn yn mynegi llawenydd dealladwy ond haerllug yng nghwymp y gelyn sy’n cael ei gasáu. Mae’r geiriau hyn yn eiriau hawdd i broffwyd sydd eisiau siarad am bechod ac achubiaeth i gymuned sy’n byw dan orthrwm. Mae’r cysyniad o bechod yn cael ei siapio gan yr hyn y mae pobl yn ei ddioddef o law’r gormeswyr, a defnyddir y gair achubiaeth i fynegi eu hiraeth i fod yn rhydd o’r gormes hwnnw. I gymuned o’r fath nid oes llawer o le yn y meddwl i oddef unrhyw un sy’n siarad am ei bechodau a’i angen am achubiaeth rhag ei bechod ei hun. Mae’n anodd i gymuned sy’n cael ei ormesu rhoi gwir ystyriaeth i’w gamweddau ei hun gan eu bod yn cael eu bwrw i’r cysgod gan anferthedd yr hyn y mae’n ei ddioddef drwy law camweddau pobl eraill. Bydd unrhyw drafodaeth am ei bechodau yn cael ei chlywed fel petai’n gwneud yn fychan o’r pechodau y maent yn ddioddefwyr ohono. Mae’n cymryd person dewr i ddweud wrth y gymuned bod angen achubiaeth arni o’i bechodau ei hun.

Yn ystod cyfnod apartheid cyhoeddodd yr Archesgob Desmond Tutu o Dde Affrica gasgliad o’i bregethau a’i ddarlithoedd. Yn naturiol, mae Tutu yn siarad am bechodau’r gormeswyr ac yn dadlau na ddylai pobl o’r tu allan fod yn “wrthrychol” mewn perthynas ag apartheid De Affrica. Dywedai fod cymryd safiad o’r fath fel gwylio eliffant yn sefyll ar gynffon llygoden. Dywed Tutu, “It is small comfort to a mouse, if an elephant is standing on its tail, to say, ‘I am impartial.’ In this instance, you are really supporting the elephant in its cruelty.”

Yn gyntaf rhaid i’r arsylwr ddweud wrth yr eliffant i ddod oddi ar y llygoden cyn y gellir trafod y ddau safbwynt. Rwy’n cytuno’n llwyr. Ond beth os yw’r llygoden yn gormesu llygod eraill? Ni ddylai’r arsylwr anghofio’r eliffant, ond a ddylid anwybyddu gweithredoedd gormesol y llygoden? Pa olau mae hyn yn ei daflu ar weinidogaeth Iesu?

Yn stori’r geni enw’r plentyn yw Yĕšûâ, Iesu (Gwaredwr/Achubwr), ac mae’r testun yn cadarnhau y bydd yn yāšaʿ (achub), bydd yn achub ei bobl rhag eu pechodau. Mae’n siŵr bod y neges hon yn rhan bwysig o pam y wynebodd Iesu wrthwynebiad a dod â’i fywyd daearol i ben ar groes. Fel Ioan Fedyddiwr, mynnodd Iesu ddweud pethau beirniadol am ei bobl ei hun, pobl oedd yn ddioddefwyr gormes.

Mae hyn yn ymddangos yn glir ac yn bwerus yn Luc 13.1-5, lle aeth pobl at Iesu ac adrodd fod Pilat wedi lladd rhai addolwyr tra roedden nhw’n offrymu aberthau wrth yr allor yn y Deml. Beth allai fod yn waeth na grŵp o bobl yn cael eu llofruddio gan filwyr gormesol ar y foment fwyaf sanctaidd ac yn y lle mwyaf sanctaidd ar eu pererindod grefyddol?

Ystyriwch pe bai terfysgwyr yn mynd i mewn i eglwys neu’r capel a saethu i lawr yr offeiriad neu’r gweinidog a’i bobl yng nghanol gwasanaeth cymun! Roedd Iesu yn wynebu stori o’r fath am Pilat. Rhannwyd wrtho am yr erchyllter oedd wedi cymryd lle, ac roedd ei wrthwynebwyr yno i weld sut byddai’n ymateb. Yn naturiol, roedd disgwyl iddo rwygo ei fantell, curo’i frest a gweiddi, “Pa mor hir, O Arglwydd! Pryd y doi i achub dy bobl a’n rhyddhau o’r gorthrwm creulon yma?”

Ond atebodd Iesu, “Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!” (Luc 13:5). Mewn sefyllfa o orthrwm, mae’n cymryd dewrder mawr i ddweud wrth y gymuned orthrymedig bod pawb yn bechaduriaid a bod yn rhaid i bawb edifarhau gan fod angen gras ar bawb i gael achubiaeth. Mae’r angel yn cadarnhau’r ddiwinyddiaeth hon i Joseff cyn i Iesu gael ei eni trwy gyhoeddi, “Rwyt i roi’r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o’u pechodau ” (eu prif broblem yw eu pechod — mae’r gorthrwm Rhufeinig yn gonsyrn pwysig, ond mae’n eilradd).

Mae’r un thema yn ymddangos ar ffurf wahanol yng Nghân Sechareia. Mae Luc 1.68-69 yn darllen:

“Molwch yr Arglwydd – Duw Israel!
Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
Mae wedi anfon un cryf i’n hachub ni –
un yn perthyn i deulu ei was,
y Brenin Dafydd.”

Mae hyn yn amlwg yn newyddion da i bawb. Mae Sechareia yn parhau gyda adnodau 70-71 sy’n darllen:

“Dyma’n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion
ac o afael pawb sy’n ein casáu ni.”

Mae Sechareia yn “wleidyddol gywir.” Dyma yw’r union beth y mae pobl eisiau ei glywed. Bydd y Meseia yn gyrru allan y gormeswyr Rhufeinig a’r cenedl ddynion halogedig o’u plith. Bydd Duw, trwy’r Meseia, yn eu hachub rhag eu gelynion, ac o law pawb sy’n eu casáu.

Ond yna mae Sechareia yn parhau yn Luc 1.76-77 gydag ychydig eiriau am ei fab, Ioan, ac yn dweud:

“A thithau, fy mab bach, byddi di’n cael dy alw
yn broffwyd i’r Duw Goruchaf;
oherwydd byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd
i baratoi’r ffordd ar ei gyfer.
Byddi’n dangos i’w bobl sut mae cael eu hachub
drwy i’w pechodau gael eu maddau.”

Yn sydyn mae’r byrddau yn cael eu troi. Bellach nid unig broblem y gymuned yw’r “rhai sy’n ein casáu” ond eu bod yn clywed fod angen iddynt gael eu hachub o’u “pechodau eu hunain.” Mae’r gorthrymedig hefyd yn bechaduriaid! Mae achubwr i bechaduriaid yw achubwr i bawb, oherwydd bod pawb yn bechaduriaid.

Mae’r persbectif hwn i’w weld yn yr Ysgrifau Sanctaidd mor gynnar â Pregethwr 4:1 sy’n darllen:

“Dyma fi’n ystyried yr holl orthrwm sy’n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i’w hachub nhw o afael y gorthrymwyr.”

Mewn testun o’r fath mae’r gormeswyr a’r gorthrymedig yn gaeth mewn carchar na allant ddianc ohono. Mae pob un angen gras o’r tu allan i’r carchar. Mae’r testun yn Luc yn sôn am achubiaeth oddi wrth “ein gelynion” ac am broblem fewnol “ein pechodau.”

Please follow and like us: