Roedd hi’n drist iawn clywed am farwolaeth R. Geraint Gruffydd wythnos yma. Ces i’r fraint anghyffredin o’m magu yn yr un Eglwys ag yr oedd e’n aelod, yr Eglwys Efengylaidd yn Aberystwyth. Am rai blynyddoedd ces i’r fraint o’i alw e, gyda Bobi Jones, yn athrawon Ysgol Sul. Rwy’n medru dwyn i gof y gwersi yn mynd trwy lyfr yr Actau gyda Geraint a Bobi’n dod a’r cyfan yn fyw drwy eu dealltwriaeth a’u dehongliad o gyd-destun a chefndir diwylliannol a gwleidyddol cyffrous cyfnod yr Eglwys fore.
Daeth i’m cof wythnos yma hefyd mae Geraint oedd y cyntaf i fy holi a oedd fy mryd ar y Weinidogaeth Gristnogol. Yr ateb pendant ar y pryd, a minnau ddim hŷn na dwy ar bymtheg os nad iau, oedd na! Rwy’n ei gofio’n dod i siarad â mi rai wythnosau wedyn a holi, ‘os ddim y Weinidogaeth beth am fod yn Aelod Seneddol?’ Roedd y sgyrsiau hyn yn ddadlennol yn yr ystyr eu bod yn dangos fod Geraint yn cyfri gwerth arbennig i’r ddwy rôl yn ei Gymru ef, ond fod yr arweiniad ysbrydol yn cael y flaenoriaeth. Wrth gwrs erbyn heddiw mi rydw i’n Weinidog, er i mi anghofio tan wythnos yma mae Geraint a’m holodd yn gyntaf ynglŷn â’r llwybr posib hwnnw.
Cof arall sydd gen i ynglŷn â Geraint oedd ei gyngor a’i ddoethineb wrth i mi ddechrau fy ngwaith ymchwil ar Genedlaetholdeb Cristnogol R. Tudur Jones. Wrth drafod y testun, y syniadau a’r bobl gyda Geraint roedd hi’n amlwg mae nid trafod hanes yr oedd Geraint ond trafod digwyddiadau roedd wedi byw trwyddynt a phobl roedd wedi eu hadnabod yn dda. Dau gyfaill pennaf ei Dad, Moses Gruffydd, oedd Saunders a J.E. Daniel – dau genedlaetholwr a dau uniongredwr diwinyddol yn eu lliwiau gwahanol. Wrth golli Geraint rwy’n amau ein bod ni wedi colli ein cyswllt uniongyrchol olaf allai wir roi cyfri am haen ysbrydol syniadaeth wleidyddol Saunders a J.E. Daniel.
A dyna gyffwrdd ar yr hyn a ddaethai a gwefr i mi fel Cristion a chenedlaetholwr ifanc – yn Geraint, fel Bobi, roedd gen i athrawon Ysgol Sul oedd nid yn unig yn Gristnogion uniongred ond hefyd yn genedlaetholwr cadarn. Pan oeddwn yn fy arddegau hwyr ychydig oedd gan y Cristnogion efengylaidd roeddwn yn eu hadnabod i’w ddweud am genedlaetholdeb ac ychydig oedd gan y cenedlaetholwr roeddwn yn eu hadnabod i’w ddweud am Gristnogaeth efengylaidd (ac eithrio fy rhieni, ynddyn nhw ces i fy magu yn sŵn llawen y ddau!). Felly roedd dod i ddarllen a chlywed syniadau Geraint a Bobi yn chwa o awyr iach i Gristion o genedlaetholwr ifanc. Nid oedd rhaid i mi ddewis rhwng fy Nghristnogaeth a fy nghenedlaetholdeb fel roedd rhai Cristnogion ‘efengylaidd’ eraill yn ceisio fy mherswadio ar y pryd.
Yn olaf, mi fydd gostyngeiddrwydd Geraint yn aros yn y cof. Gostyngeiddrwydd oedd yn deillio o’i ffydd Gristnogol. Rwy’n cofio clywed rhywun yn dweud na fyddai gobaith gan Geraint gael yr yrfa lwyddiannus a gafodd heddiw gan na fyddai’n medru “gwerthu ei hun” mewn cyfweliadau. Ar adegau roedd ei ostyngeiddrwydd yn rhwystredig, rwy’n cofio y tro es i i’w holi ynglŷn â gwaith R. Tudur Jones – dros y ffôn ac ar ôl i mi gyrraedd roedd yn mynnu na fyddai dim o werth gyda fe rannu o gwbl – cyn mynd ymlaen i rannu perlau dwfn amhrisiadwy o wybodaeth am fywyd, dylanwadau a syniadau R. Tudur Jones. Mae yna wybodaeth am J.E. Daniel a dylanwad Daniel ar R. Tudur Jones yn fy ngwaith ymchwil nad yw wedi ei gyhoeddi na’i ddatgelu yn unrhyw le arall heblaw am y sgwrs ces i gyda Geraint y diwrnod hwnnw.
Mae fy nghydymdeimlad a’m gweddïau gyda Luned, ei Weddw, a’r teulu cyfan. Er i ni golli cawr, nid ydym yn galaru fel y rhai heb obaith oherwydd ‘Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu.’ (1 Thes. 4:14)
Diolch am rannu, Rhys. Coffa da amdano.
Ie diolch am hwn, Rhys. Un o’r pethau siomedig am y llu o deyrngedau gwresog sydd wedi ymddangos dros yr wythnos ddiwethaf yw cyn lleied o sôn sydd am ffydd Geraint (diolch am gyfraniad Rhiannon ar Bwrw Golwg ddydd Sul am gywiro ychydig ar hynny). Ffydd syml, “blentynnaidd” ar yr ystyr orau, ac un o’r ffyrdd a welais i hynny oedd yn ei weddïau cyhoeddus, a oedd bob tro yn bwrpasol, yn dyner ac yn fyr. Mae Cristnogaeth Gymraeg yn dlotach o’i golli ond mae wedi bod yn gyfoethog o’i gael.
Diolch am hwn. Rown i’n meddwl yn debyg, fod y diffyg cydnabyddiaeth o ffydd R. Geraint Gruffydd yn broblem, achos roedd yn amlwg yn ganolog i’w allu i ddehongli’r gweithiau llenyddol a wnaeth dros gyfnodau mawr yn hanes Cymru.