Mae hwn yn barhad o’r drafodaeth rai diwrnodau yn ol ar y testun R. Tudur Jones – tanseiliwr cyfraith?

Fel y gellid tybio, gwylltio llawer o bobl a wnai Dr. Tudur Jones wrth estyn cefnogaeth ac anogaeth mor agored i weithgareddau tor-cyfreithiol. Yn dilyn ei rôl yn y rali ym Mhenmachno lle lansiwyd yr ymgyrch Arwyddion Ffyrdd derbyniodd lythyr cadarn o gondemniad gan D. Ll. Rhys Hughes o Benfro. ‘I read with a sense of shame and horror of your incitement to a mob at Penmachno to violence, disaffection and disloyalty, ‘ meddai D. Ll. Rhys Hughes gan ychwanegu:

As one charged with the training of disciples of the Price of Peace, you have brought shame on our church, beside yielding encouragement to those evil forces which are seeking to rend our beloved Wales apart. May I beg of you to consider your position and if you must be disloyal both to God and your country, at least resign from the position you hold.

Er fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifennu gan benboethiaid oedd yn eistedd ar ochr arall y ddadl, y mae yn llythyr pwysig am ei fod yn codi’r cwestiwn o ddoethineb neu annoethineb Gweinidog yr Efengyl yn dangos ei liwiau gwleidyddol, a hynny drwy fynd mor bell â thorri’r gyfraith. Mae’n deg nodi fodd bynnag fod yna gonsensws o edmygedd, ymysg yr Annibynwyr o leiaf , i safiadau o’r fath. Er enghraifft, adroddodd E.D. Jones o Eglwys Annibynnol Seion, Aberystwyth wrth Dr. Tudur Jones eu bod nhw fel Eglwys wedi pasio i anfon neges o ‘galondid ac ymddiriedaeth’ at Ffred Ffransis yn ei ‘safiad dewr o weithredu’n ddi-drais.’ Ond nid oedd hyn at ddant pawb yn Aberystwyth; ‘fe ellwch ddychmygu golwg y cyfaill o saer’ meddai E.D. Jones, ‘ond ddywedodd e ddim – peidio â chodi ei law yn unig a wnaeth… Oni fu’r saer yn ymffrostio iddo gael y fraint o ysgwyd llaw Kagawa?’

Gwneud gelyn o W.A. Jones, Aberaeron neu Aberayron a wnaethai’r Annibynwyr yn 1972 wedi iddynt basio cynnig ar fater trwyddedau teledu yn Undeb Caerfyrddin. ‘Throughout Wales there are probably many like me – sad, bewildered, despairing’ meddai W.A. Jones mewn llythyr at Dr. Tudur Jones. ‘You have struck a stupid blow at Welsh social harmony, at the rule of law in a democracy, at religion itself, and at morality,’ oedd ei gyhuddiad. Yna daeth y frawddeg ysgytwol a wnaeth gynhyrfu Dr. Tudur Jones i’r byw bid siŵr: ‘It is clear you no longer worship God, but the Welsh language. This is idolatry.’ Mae’n amlwg i Dr. Tudur Jones geisio ateb cyhuddiadau’r brawd o Aberaeron oherwydd cyrhaeddodd ail lythyr oddi wrtho i Bala-Bangor wythnos yn ddiweddarach. Dywedodd y tro hwn: ‘You seem to think that persons who believe that the laws of their country should be obeyed are worshipping the State…’ gan ychwanegu, ‘I think it unwise of you to bring up the question of State-worship: Welsh Nationalism is so frighteningly like the old German Nationalism, which did bring about the worship of the state. If you read The Rise and Fall of the Third Reich you will not fail to notice parallel after parallel…’ Ond wrth drafod gyda gŵr a gredai, yn i eiriau ef ‘[that] Wales would be a better place to live in if Welsh were allowed to die out and be preserved like Latin and Greek’ nid oedd fawr obaith i Dr. Tudur Jones ddwyn perswâd arno y tro hwn.

Please follow and like us: