Addas oedd gorffen y drafodaeth gyntaf (gweler y tri blogiad diwethaf isod) gyda geiriau Arfon Jones oherwydd yr oedd ef yn un o fyfyrwyr Bala-Bangor a threuliodd gyfnodau mewn carchar dros yr iaith; cyfnodau a gawsai sêl bendith a chefnogaeth lwyr y Prifathro Dr. Tudur Jones. Dyma symud ymlaen felly i drafod yr ail-safbwynt neilltuol a goleddai Dr. Tudur Jones. Os mai nofio yn erbyn llif y sefydliad crefyddol a wnai ei safbwyntiau clasurol diwinyddol, yna nofio yn erbyn llif y sefydliad gwleidyddol Prydeinig a wnâi wrth gefnogi’r defnydd o ddulliau anghyfansoddiadol ym mrwydr yr iaith.

Er mawr syndod i lawer, datgelwyd gan Rhys Evans yng nghofiant Gwynfor gynllun gan Tudur Jones i greu ‘…byddin di-drais i weithredu ar linellau Gandhiaidd.’ Esboniodd i Gwynfor mewn llythyr (ag iddo fanylion trefniadol manwl fel atodiad) yn 1960 fod angen ‘mudiad ar wahân i’r Blaid ond yn tynnu ei gefnogaeth o rengoedd y Blaid.’ Mae’n bosib i Tudur Jones weld sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel gwireddu’r cynllun hwn i raddau, ond mae’n bwysig ac yn arwyddocaol nodi bod Dr. Tudur Jones yn trafod ac hyd yn oed wedi rhoi ymgais i gynllunio’r fath weithgaredd ddwy flynedd cyn darlith enwog Saunders Lewis a chyn gweld sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Canfuwyd tystiolaeth bellach i’r perwyl hwn ym mhapurau Dr. Tudur Jones ym Mangor mewn gohebiaeth gyda gŵr o’r enw Bob Luitweiler o Ferthyr Tydfil yn 1960, lle mae’n ymateb i ymholiad gan Dr. Tudur Jones ynglŷn a phosibilrwydd gweithgaredd anghyfansoddiadol di-drais. Meddai Bob Luitweiler:

We were very happy to receive your letter and hear of your study group in non-violence… We are in the process of working out a course and have just started so we can not give you more than some tentative suggestions at this time. However, we would be very happy to send you a copy of some of our plans if they would be of any value to you… In general, I’m very sorry to say there is very little experience regarding training for non-violent action. I believe from what I have been able to learn up to now that the most experience has been in the United States, particularly in regards to the use of non-Violence in breaking down racial barriers in public places.

Ar ryw wedd roedd hi’n dipyn o safiad iddo ef fel Gweinidog yr Efengyl ac Athro Diwinyddiaeth gefnogi’r myfyrwyr ifanc yma oedd yn torri’r gyfraith mewn protest, ond doedd cefnogi eraill ddim yn ddigon iddo. Roedd Dr. Tudur Jones ymysg cwmni dethol ond penderfynol o “barchedigion” a oedd am wneud safiad eu hunain. Yn 1967 penderfynodd Dr. Tudur Jones ynghyd â Pennar Davies, Yr Archdderwydd R. Gwyndaf Evans, A.O.H. Jarman, Bobi Jones, J.R. Jones ac Alwyn D. Rees ddechrau cymryd rhan mewn protestio di-drais ar fater statws yr iaith. Nid rhyw ymgais docenistaidd oedd ganddyn nhw mewn golwg chwaith; ‘wedi sgwrs bellach â Bobi,’ meddai Alwyn D. Rees, ‘teimlasom mai crwydro braidd yn ddôf fyddai ein cyfyngu ein hunain i’r disg car.’

Teimlai Dr. Tudur Jones a’i gyd “barchedigion” erbyn diwedd 1967 nad oedd y Llywodraeth yn cymryd galwadau’r Cymry am statws i’r iaith o ddifrif. Yr hyn a wnaeth y Ddeddf a basiwyd rai misoedd ynghynt oedd rhoi rhyddid i Benaethiaid Adrannau’r Llywodraeth wneud fel y gwelent yn dda heb fod unrhyw reidrwydd arnynt i wneud unrhywbeth yn arbennig. Erbyn dechrau 1968 roedd chwe mis wedi mynd heibio ers pasio’r Ddeddf ac ym mywyd pob dydd nid oedd statws yr iaith wedi ei chryfhau na’i hadfer o gwbl. Bwriad Dr. Tudur Jones a gweddill y “parchedigon” oedd dwysau’r pwysau ar y Llywodraeth drwy ddangos nad dim ond myfyrwyr penboeth oedd yn fodlon gwneud safiad dros y mater a dyma oedd byrdwn llythyr agored anfonwyd ganddynt at eu cyd-Gymry:

Yr ydym ni’n argyhoeddedig erbyn hyn ei bod yn rhaid inni wneud mwy na chanmol y bobl ifainc sy’n brwydro dros yr iaith. Wedi ymatal cyhyd a rhoi pob cyfle i’r awdurdodau weithredu, credwn ei bod yn rhaid i ninnau hefyd ddangos ein bod o ddifrif ynglŷn â hawliau’r iaith. Ein cynllun yw cael nifer sylweddol o bobl gyfrifol i arwyddo’r datganiad amgaeedig a’i gyflwyno i Adrannau’r Llywodraeth a’i gyhoeddi yn y wasg ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd. Sylwer ein bod eto’n gadael digon o amser i’r cyfieithu gael ei wneud. Gwahoddwn chwi i uno â ni yn yr ymgyrch hon.

Yn y datganiad oedd wedi ei hamgáu nodwyd na fyddai’r llofnodwyr o Ddydd Gŵyl Ddewi, 1968, ymlaen yn arddangos disg treth ffordd ar eu ceir hyd nes y byddai’r disgiau hynny yn cael eu dosbarthu yn ddwyieithog trwy Gymru gyfan yn ddiwahân, a hyd nes y derbynnir ceisiadau a sieciau Cymraeg am y trwyddedau hyn. Ymhellach mynnent na fyddent ar ôl y 31ain o Fai, 1968, yn cario trwydded gyrru car nac yn ei ddangos i unrhyw swyddog yng Nghymru hyd nes y ceir y ffurflen gais a’r drwydded yn ddwyieithog ar gyfer pawb yng Nghymru’n ddiwahân. Yr oeddent yr un mor ddifrifol am y trwyddedau Teledu a Radio oblegid nid oedd bwriad ar ôl y 30ain o Fehefin, 1968, godi nac adnewyddu trwydded radio a theledu hyd nes y byddai’r ffurflen gais a’r drwydded yn ddwyieithog ar gyfer pawb yng Nghymru’n ddiwahân. Byddai hyn oll yn sicr o arwain at achosion llys, felly cytunwyd na fyddent yn ateb unrhyw wŷs i lys barn ynglŷn â’r troseddau os na fyddai’r wŷs honno yn ddwyieithog (neu yn Gymraeg yn unig) heb iddynt orfod gofyn ymhellach am hynny. Gwnaethant hi’n amlwg nad oedd bwriad ganddynt chwaith i dalu dirwyon am y troseddau uchod, felly gallasai’r ymgyrch fod wedi peri i rhai o’r “parchedigion” wynebu cyfnodau o garchar.

Flwyddyn yn ddiweddarach gwahoddwyd Dr. Tudur Jones gan Morys Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y pryd, i annerch rali ym mis Ionawr 1969 yn y Tŷ Mawr, Penmachno. Roedd hon yn rali arwyddocaol yn hanesyddol oherwydd dyma pryd y dechreuwyd ar yr ymgyrch arwyddion ffyrdd. Yn y gwahoddiad amlinellodd Morys Rhys yn ddigon clir wrth Dr. Tudur Jones beth oedd natur gweithgareddau’r diwrnod, dywedodd:

Y bwriad yw cychwyn ymgyrch y Gymdeithas i roi i’r Gymraeg ei lle haeddiannol ym mhob agwedd ar lywodraeth leol y diwrnod hwn. Dechreuir drwy ganol bwyntio ar arwyddion ffyrdd. Ar y daith i gartref William Morgan bydd aelodau’r Gymdeithas yn dileu, â phaent, arwyddion Saesneg uniaith ym mhob rhan o Gymru. Gofelir peidio â chwrdd ag arwyddion sydd ag unrhyw elfen o berygl ynghlwm â hwynt; gyrrir rhestr o’r arwyddion i’w dileu i’r aelodau ymlaen llaw.

Mewn gair, roedd Dr. Tudur Jones yn llawn ymwybodol o natur y rali y cytunasai i’w hannerch. Gwelodd dor-cyfraith fel arf effeithiol, ond i’w ddefnyddio’n ddoeth ac amserol. Er enghraifft, erbyn 1971 roedd yn ddig â Ffred Ffransis am ‘…agor ymgyrch [ar fater darlledu]… a gweithredu’n uniongyrchol cyn cyhoeddi unrhyw ddatganiad, na chrynhoi barn gyhoeddus…’ Ond yn yr achos hwn bwrw ymlaen a wnaeth Cymdeithas yr Iaith a Ffred Ffransis heb gonsensws y “parchedigion”; ‘ni theimlodd y senedd y gallasom oedi ymhellach cyn lansio’r ymgyrch hon,’ meddai Ffred Ffransis, ‘daliaf ar y cyfle i’ch hysbysu am y newydd hwn, cyn ei gyhoeddi i’r wasg. Yr wyf yn bersonol yn gobeithio o hyd y gellir cydweithredu â’ch ymgyrch chwi i gael pobl tu allan i’r Gymdeithas hefyd i ymatal rhag talu treth teledu.’

Tua diwedd 1971 teimlodd Pennar Davies y dylai’r “parchedigion” wneud rhywbeth gweledol i gefnogi’r rhai ifainc oedd yng ngharchar ac fe rannodd ei ddyhead i drefnu rali ac i wahodd Dr. Tudur Jones i annerch. Meddai Pennar wrth Dr. Tudur Jones:

Teimla rhai ohonom fod yr amser wedi dod i nifer sylweddol o bobl mewn oed wneud rhywbeth i’n huniaethu ein hunain â’r bobl ifanc sydd wedi eu carcharu dros yr iaith ac argyhoeddi pobl nad pobl ifanc anaeddfed ac anghyfrifol sydd yn yr ymgyrch ond pobl o bob oedran sydd yn mynnu cael urddas a dyfodol i’r Gymraeg… Oni wnei rhywbeth teimlir y gall digalondid mawr ddisgyn hyd yn oed ar y bobl ifainc.

Mae’n amlwg fod edmygedd mawr gan Dr. Tudur Jones i’r rhai ifainc oedd yn gwneud safiad ac yn cael eu carcharu. Tystiodd Meinir Ffransis, gwraig Ffred Ffransis, i gefnogaeth a geiriau caredig Dr. Tudur Jones pan roedd Ffred Ffransis dan glo yn 1973. ‘Roedd yn gysur mawr inni dderbyn llythyr oddi wrthych, a chael cadernid newydd o’r geiriau’ meddai Meinir Ffransis, ‘Diolch am eich gofal amdanom.’ Flwyddyn yn ddiweddarach ceir llythyr yn yr archifau gan un o fyfyrwyr Bala-Bangor (dwi’n meddwl?!), Gethin Clwyd, o H.M. Prison, Liverpool yn diolch i Dr. Tudur Jones am ei anogaeth a’i gefnogaeth cyson.

Please follow and like us: