Yn dilyn ei safiad dros y safbwynt clasurol efengylaidd magodd Dr. Tudur Jones ddilyniant heintus. Anfonodd R. B. Higham, Miskin ato yn 1976 i roi ‘gair o werthfawrogiad a diolch am eich safiad pendant dros awdurdod Gair Duw ac Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist, y noson o’r blaen ar deledu Harlech.’ Mae’n amlwg fod gwŷr o berswâd efengylaidd yn isel eu calon ac yn gwerthfawrogi’r tamaid lleiaf o “ddysgeidiaeth iach” gan i R. B. Higham orffen ei lythyr at Dr. Tudur Jones gyda’r frawddeg sentimental hon: ‘Diolch o galon nad yw’r ‘lamp olaf’ wedi mynd allan yn yr hen wlad ‘ma.’ Tybiaf mae cyfeirio at y Sefydliad crefyddol ac addysgiadol seciwlar yr oedd Bobi Jones pan ddywedodd wrth Dr. Tudur Jones; ‘Pan fo dyn yn gyson yn erbyn y Sefydliad, y mae’n ei baratoi ei hun rywsut ar gyfer ymosodiad; pan ddaw cyd-ddealltwriaeth mae’r awel gysurlon yn iachus iawn i’r ysgyfaint, a hyd yn oed yn ysgytiol. Diolch i chi am y fath ymateb hael.’ Er i’r ddau ysgolhaig ddilyn eu llwybr eu hunain ar fater gadael yr enwadau, mae’n amlwg fod y ddau ysgolhaig agored glasurol efengylaidd yma yn estyn cefnogaeth a gwrogaeth i’w gilydd. Roedd y ddau yn coleddu safbwyntiau unig ar ryw wedd gan yn nofio yn erbyn llif diwinyddiaeth a dysg ryddfrydol eclectig Prifysgolion Cymru a hyd yn oed Colegau Diwinyddol Cymru, ag eithrio Bala-Bangor.
Credaf fod deall y tensiwn a fodolai oddi fewn i Anghydffurfiaeth rhwng rhai megis Dr. Tudur Jones, a goleddai’r safbwynt clasurol, a’r rhyddfrydwyr diwinyddol megis Iorwerth Jones yn allweddol bwysig wrth edrych ar ddwy gyfrol Ffydd ac Argyfwng Cenedl. Ynghyd â methiant Refferendwm 1979 roedd yr unigrwydd a deimlai Dr. Tudur Jones oddi fewn i’r Annibynwyr yn golygu nad testun academaidd yn unig oedd yr argyfwng ffydd iddo ef. Yr oedd Dr. Tudur Jones wedi treiddio’n ddwfn i faes ei astudiaeth oherwydd yr oedd yn profi yr argyfwng hwnnw yn bersonol o ddydd i ddydd ac roedd hyn yn ei frifo i’r byw fel y tystia sawl ysgrif yn y gyfrol Ffydd yn y Ffau.
Ond daeth tro ar fyd ac ni adawodd Dr. Tudur Jones yr Annibynwyr er mwyn ymuno â’r efengylwyr ac ymhen dim fe gynyddodd ei boblogrwydd ymysg ei gyd Annibynwyr wrth iddo esgyn i Gadair yr Undeb yn 1986. ‘Un peth y carwn i chi ei wybod a’i gofio,’ meddai Arfon Jones, Swyddog Ieuenctid yr Annibynwyr ar y pryd a wedi hynny Ysgrifennydd y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru, ‘Mae’r hogie gyda chi! Rwyf i’n cael cyfle i’w gweld yn eu tro yn amlach na neb mae’n siŵr, a gallaf eich sicrhau nad ydych yn angof yng ngweddïau llawer aelwyd. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn diolch i Dduw am eich cynnal yn eich safiad dros y gwirionedd. Pa neges bynnag fydd gennych i’r Undeb ym 1986 fe fyddwn yno’n sefyll gyda chi.’