Erbyn i’r rhan fwyaf ohonoch chi ddarllen hwn mi fydda i ar drên Virgin i Lundain. Mi fydd rhan gyntaf y daith yn arafach o lawer na’r ail ran oherwydd nad ydy cledrau Gogledd Cymru wedi eu gwefru. Er y bydda i yn teithio yn un o drenau Voyager modern Virgin rhyw hen dractor disel fydd yn gorfod ei tynnu hi tra byddwn ni yng Nghymru. Nawr te, rwy’n eich clywed chi’n dweud wrtha i nawr: “Rhys, rwyt ti’n sgwennu ar flog technoleg, ma hynny yn ddigon trist a geeky a nawr dyma ti’n dechrau sôn am drenau!” Wel, mae yna reswm da pam mod i’n sôn am drenau a sôn am y diffyg cledrau trydan yng Nghymru oherwydd fod hanes bach fy nhrên i yn arwydd o rhywbeth mwy difrifol fydd yn effeithio pawb yng Nghymru ac nid dim ond pobl fel fi sy’n ymddiddori mewn technoleg.
Yr hyn sy’n mynd am sylw yw ddiffyg is-adeiledd dechnolegol yng Nghymru. Boed hynny yn ddiffyg trosglwyddion radio DAB, diffyg rhwydweithiau 3G gan y cwmnïau ffôn symudol, diffyg cyswllt band llydan o gwbl heb sôn am ffibr-optig neu ddiffyg cledrau trenau trydan. Pan fydd y signalau analog yn cael eu diffodd cyn bo hir mi fydd llawer o Gymru yn colli signal teledu neu radio yn gyfan gwbl oni fydd buddsoddi sylweddol mewn trosglwyddion a thechnoleg newydd yng Nghymru. Mi fydd economi Cymru yn dioddef wrth i fwy a mwy o fusnesau fynd yn ddibynnol ar rwydweithiau 3G a band llydan ffibr-optig.
Mewn gair, rydym ni yng Nghymru nid yn unig ar ymylon ynysoedd Prydain ond rydym ni ar ymylon technoleg ynysoedd Prydain. Ond rydym ni’r Cymry wedi hen arfer a chael ein trin yn israddol i dde-ddwyran Lloegr erbyn hyn yn tydyn? Mae yna rhywbeth sylfaenol yn anghywir mewn unrhyw wlad lle cymerir pedair awr a hanner ar y trên i deithio 160 milltir o Fangor i’r Brifddinas Caerdydd ond dim ond tair awr i deithio 230 milltir i brifddinas yn Ymerodraeth yn Llundain.
Mae technoleg, gyfeillion, hyd yn oed yn dangos sgil-effaith coloneiddio.