I bobl sydd wedi bod yn troi ym myd Prifysgolion dros y dair mlynedd diwethaf mae un acronym wedi bod yn dominyddu sef: RAE. Saif RAE am Research Assessment Exercise. Maen ymarferiad sy’n digwydd bob saith mlynedd i asesu lle mae Prifysgolion yn sefyll ben ben a’i gilydd yn benodol ar faterion yn ymwneud ac arbenigaeth ymchwil. Mae’r canlyniadau’n effeithio ar allu’r Prifysgolion i farchnata eu hunain ac, yn fwy pwysig efallai, y swm o arian ymchwil y gall Prifysgol ddenu. Yn y cylch diwethaf roedd Prifysgol Caerdydd filltiroedd ar y blaen dros Brifysgolion eraill Cymru, a dweud y gwir nhw oedd y seithfed Brifysgol orau drwy Brydain. Dyna sydd i gyfri pam fod Prifysgol Caerdydd wedi bod mor hy a di-fater eu hymrwymiad a’u cyfrifoldeb i’r Genedl Gymreig. Roedd Caerdydd “rhy dda” i Gymru felly roedd hi’n anwybyddu unrhyw strategaethau oddi mewn i Gymru oedd, wrth reswm, yn cynnwys ymgeisiadau i ddatblygu addysg Gymraeg yn y sector. Ond mae’r RAE wedi tynnu pluen o het Prifysgol Caerdydd heddiw sydd, yn yr hir dymor, yn newyddion da i Gymru ac yn newyddion da i addysg Gymraeg yn y sector mi dybiaf. Mae Caerdydd wedi plymio o’r seithfed safle ym Mhrydain i’r ddwy ar hugain safle, syrthio bymtheg o safleoedd!  

Ar y llaw arall mae heddiw wedi dod a newyddion da i Brifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Mae Abertawe ac Aberystwyth wedi codi ddeg safle yr un gyda adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth nawr y gorau, yn swyddogol, ym Mhrydain, yn uwch na Rhydychen, Caergrawnt a’r London School of Economics! Yr Adran Gyfrifeg a Chyllid a’r Adran Beirianneg Electronig ddaeth a newyddion da i Fangor gan i’r ddwy adran yna ddod allan fel y gorau ym Mhrydain yn eu meysydd!

Fel un sy’n nghanol y berw i geisio sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg fydd yn gorff newydd blaengar dan statudau cyfreithiol i ddarparu a hybu addysg Gymraeg yn y sector yng Nghymru mae’r datblygiadau heddiw yn newyddion da. Maen dda gweld fod Caerdydd sydd wedi bod yn bur elyniaethus ac anwybyddu o’r Gymraeg yn cael eu tynnu i lawr atom ni’r gweddill a gobeithio y bydd hyn yn ffordd o’i cael yn ran canolog o ddatblygiadau sefydlu’r Coleg Ffederal Cymraeg.

I fi wnaeth aros yn Aberystwyth i fynychu’r Brifysgol, yn wyneb gwawd rhai cyfoedion, dwi’n mentro gwên slei mod i nawr a gradd dosbarth cyntaf o Adran Wleidyddiaeth rhagorach na Rhydychen, Caergrawnt a’r LSE.

Please follow and like us: