Er i Tudur Jones gydnabod pwysigrwydd trafod ‘y pethau sy’n debyg o ddenu cefnogaeth ar ddydd etholiad,’ mynnodd bwysleisio mai ‘nid mater o gofleidio set o dybiaethau athronyddol yw cenedlaetholdeb ond o gael pobl i gydnabod nodweddion eu dynoliaeth eu hunain. Ffurf ar hunan-adnabyddiaeth ydyw.’ Tybiodd fod perygl i’r trywydd fwy pragmataidd Plaid Cymru erbyn yr 1980s arwain y Blaid i’r un gors a’r pleidiau Prydeinig: ‘Gwelsom eisoes beth a ddigwyddodd i’r Blaid Lafur pan lyncodd bragmatiaeth Harold Wilson,’ meddai, ‘Yn lle ymddiosg o’r caledwch doctrinaire a oedd yn mygu’r haenau dynol yn ei neges, fe ddatblygodd yn blaid ddi-egwyddor yn yr ystyr lythrennol.’ Mynnodd Tudur Jones fod rhaid cadw’r ffocws ar raison d’etre y Blaid sef rhyddid i Gymru: ‘Nid ymgiprys am rym yn unig yr ydym. Grym er mwyn cyrraedd nod rhyddid y genedl yw’r peth yr ydym eisiau ei gael.’ A hwnnw yn ryddid oddi wrth Brydeindod a phleidiau Prydeinig.
Gyda perfformiad truenus y Blaid ddoe, tybed a’i dychwelyd at y raison d’etre sydd ei angen? Gan gydnabod yn gwbl onest nad ydy mwyafrif y bobl sy’n byw yng Nghymru yn cytuno a hi. Ac os felly oes angen wynebu’r realiti nad trwy ddemocratiaeth, yn unig, y mae cael y maen i’r wal?