Dwi yn y broses ar hyn o bryd o brynu tŷ. Dwi’n ffodus iawn fod gen i deulu sy’n medru darparu blaendal i mi roi i lawr. Dwi’n brynwr cyntaf. Mae gen i swydd sy’n talu cyflog mwy nag anrhydeddus. Ond mae gen i broblem.

Am ryw reswm mae bron a bod pob darparwr morgais yn gwrthod rhoi morgais i mi. Pam? Oherwydd bod gen i Gredit Score isel. Daeth y cyfan fel tipyn o syndod i mi gan mae dim ond un cerdyn credid sydd gen i a does byth mwy nag ychydig gannoedd ar hwnnw a dwi erioed wedi colli taliad ac yn aml iawn dwi’n ei dalu i ffwrdd yn gyfan pob mis. Dwi erioed wedi talu’r un bil yn hwyr a does gen i ddim math o ddyled arall ac eithrio benthyciad myfyriwr sy’n gymharol fychan erbyn hyn.

Mynd ati wedyn i wneud cais i gael gweld fy Credit Record i. Y record yn cadarnhau’r hyn roeddwn i’n gwybod sef fod fy hanes i a dyledion yn gwbl lân. Cysylltu yn ôl gyda’r darparwyr morgais ar oll roedden nhw’n medru dweud oedd bod yna ffurflenni apelio i gael ond fod y broses yna’n medru cymryd misoedd!

Yn y diwedd, dod at wraidd y broblem sef fy mod i wedi symud o un cyfeiriad i’r llall yn ddi-dor bron a bod ers fy mod i’n ddeunaw. Hawdd deall y broblem yna. Ond dyma wnaeth fy ngwylltio i – roedd gen i Gredit Score isel, mae’n debyg, oherwydd NAD oedd gen i ddyledion! Hynny yw, gan fy mod i mor lân gyda fy nyledion doedd dim hanes gen i iddyn nhw fedru ei sgrwtineiddio ag asesu sut un oeddwn i wrth dalu dyledion yn ôl. Petai gen i lond dwrn o gardiau credid a dyled ar bob un mi fyddai fy Nghredit Score yn uwch!

Am system cwbl wallgof! Cosbi pobl sydd heb ddyled ond yn barod i bentyrru mwy o ddyled ar bobl sydd eisoes mewn dyledion.

Yn y diwedd fe wnaethom ni ddarganfod benthyciwr oedd yn fodlon rhoi morgais i mi diolch byth. A hwnnw oedd y Principality. Banc Cymreig.

Mae’n debyg fod gwers fan hyn.

Please follow and like us: