Yn nhraddodiad Father Ted a Vicer of Dibely, ond eto yn torri cwys tra gwahanol fe ddechreuodd “Vicer Comedy” newydd y BBC Nos Lun. Dilyn hanes y Ficer Adam Smallbone sy’n cael ei chwarae gan Tom Hollander y mae’r gomedi newydd Rev. Mae Adma yn Ficer ar blwy yng nghanol dinas mewn ardal sy’n ymddangos yn dra ddifreintiedig. Tra gwahanol felly i bentref dymunol Dibely.

rev 1

Ar ddechrau’r bennod gyntaf mae Adam yn diolch i’w blwyfolion am y croeso mae ef a’i wraig wedi cael ers cyrraedd y plwy. “Thanks for making us welcomed in this vibrant dynamic church” cyn fod y camera yn panio at y gynulleidfa o lond dwrn o bobl yn unig. Yn ogystal a bod yn ddoniol roedd yr olygfa yma yn wych oherwydd ei fod ar un llaw yn adlewyrchu’n onest faint o bobl sydd yn addoli ar y Sul dyddiau yma ac ar y naill law yn adlewyrchu’r optimistiaeth y mae rhai arweinwyr Cristnogol yn ei ddangos yng nghanol yr anialwch ysbrydol. Roedd Adam yn gweld pethau, mae’n amlwg, yn hanner llawn yn hytrach na hanner gwag.

Yn ail olygfa’r bennod fe gawn Adam a’i wraig yn eu cegin drannoeth parti cynhesu tŷ y ficerdy. Y peth cyntaf sy’n eich taro chi yw mae nid Shloer a Volavons oedd yn y parti hwn! Nawr, dydw i ddim yn llwyrymwrthodwr a dydw i ddim yn meddwl y dylai arweinwyr Cristnogol orfod bod. Fodd bynnag dydy e ddim yn syniad arbennig o dda i Ficer feddwi oherwydd dydy e ddim yn syniad arbennig i unrhyw Gristion nac unrhywun o gwbl mewn gwirionedd feddwi’n dwll. Wedi’r cyfan mae’r Beibl yn dweud yn Titus 1:7 na ddylai’r arweinydd Cristnogol fod “yn rhy hoff o win”. Er fod arweiniad y Beibl yn glir ar y mater mae’n siŵr fod yna arweinwyr Cristnogol allan yna sydd a tuedd i gael un yn ormod weithiau ac efallai fod rhywbeth iach wrth bortreadu y ffaith nad ydy arweinwyr Cristnogol yn berffaith ac ein bod ni’n stryglo gyda rhai temtasiynau fel pawb arall. Amwn i mae yr unig broblem fan yma yw fod dim awgrym fod Adam yn gweld ei fai.

Yn yr olygfa yma hefyd y down i wybod mwy am wraig Adam, sef Alex. Mae hi’n gyfreithwraig ac felly yn bortread o’r wraig i Weinidog fodern. Dydy gwragedd i Weinidogion, y rhan fwyaf, ddim yn aros adref fel gwraig tŷ bellach ond maen nhw yn mynd allan a dilyn gyfra eu hunain a da felly. Yma hefyd y gwelwn y Ficerdy o’r tu allan am y tro cyntaf. Rhyw dŷ sy’n edrych yn ddigon tebyg i rhyw dŷ cyngor run down. Mae hyn yn effeithiol oherwydd ei fod yn lladd ar y myth fod gweinidogion yn byw bywyd bras mewn palasau oherwydd dydyn ni ddim! Dwi’n byw mewn tŷ teras un llofft yn Neiniolen ac mae dau o’m ffrindiau i sy’n weinidogion yn byw mewn hen dŷ ynghanol y wlad yn Sir Ddinbych heb iddo linell ffôn, gwres canolog a pibellau yn byrstio bob gaeaf.

Ar y ffordd i’r Eglwys gyda Colin mae Adam yn cael smôc. Aelod cyffredin o’r gynulleidfa oedd Colin, rhywun rough around the edeges, ond er gwaethaf hynny roedd yn cael ei bortreadu fel un oedd a ffydd digon didwyll yn Nuw. Unwaith eto mae hyn, y smygu, yn herio y ddelwedd draddodiadol o’r arweinydd Cristnogol. Fel mae’n digwydd mae dau o fy ffrindiau i sy’n Weinidogion yn smygu yn lled drwm. Mae nhw’n hurt a hunanol i wneud hynny ond mae’n dda fod y ddrama yn portreadu’r realiti fod rhai Gweinidogion yn symgu.

Drws nesaf i’r Eglwys mae yna dri adeiladwr yn gweithio a phob tro y bydd Adam yn pasio mae nhw yn ei watwar mewn gwahanol ffyrdd. Y tro cyntaf iddo fe eu pasio nhw mae e’n annog Colin i “Droi’r foch arall” ond yn eironig ddigon erbyn diwedd y rhaglen mae Adam ei hun wedi cael llond bol, yn rhwygo ei goler wen i ffwrdd ac yn gwaeddi “F*off” wrth yr adeiladwyr. Rhaid cydnabod fod yr olygfa yma yn dra effeithiol a doniol ond eto gan feddwl yn ôl ar Titus 1:7-8 mae Adam yn strechio ei hawl i gael parch fel arweinydd Cristnogol i’r eithaf yn y fan yma.

Ar ddau achlysur yn y bennod mae Adam yn cael ei hun mewn tacsi gyda’r Archddiacon. Dyn sy’n hung up ar gynnal y traddodiad a’r adeiladau. Mae’n amlwg fod gan Adam fwy o ddiddordeb yn y bobl sy’n addoli yn yr eglwys na’r adeilad ei hun. Ceir portread effeithiol o Adam y Ficer sydd eisiau treulio amser gyda’r bobl ond ei fod yn gorfod gweithio mewn cyfundrefn eglwysig sy’n milwrio yn erbyn hyn ac yn llyncu ei holl amser gyda phethau fel codi arian i drwsio’r ffenestr a’r to.

Plot stori’r bennod gyntaf yma yw fod Ysgol yr Eglwys wedi derbyn adroddiad OfStead arbennig ac felly roedd pobl wedi dechrau mynychu’r eglwys er mwyn cael lle i’w plant yn yr ysgol. Un o’r bobl wnaeth ddechrau mynychu yn dilyn yr adroddiad oedd yr Aelod Seneddol lleol. Roedd ymweliad teulu’r AS gyda’r eglwys yn ddoniol iawn. I ddechrau dyma’r plentyn yn protestio: “Why are we doing this? It’s not Christmas!” Mae hyn, wrth gwrs, yn dychanu’r crefyddwyr sydd dim ond yn ymarfer eu ffydd honedig ar ddydd Nadolig a dros y Pasg, wrth fedyddio ac wrth briodi.

Roedd hi’n ddoniol hefyd fod y newydd-ddyfodiaid i’r eglwys ddim yn siŵr beth i’w wneud, pryd i godi, pryd i eistedd a beth i’w adrodd a phryd i’w adrodd ac ati. Anghydffurfiwr ydw i ond gan fod Dad yn Anglican dwi’n addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn achlysurol ac gallaf ategu hyn! I rywun sy’n dod i wasanaeth Anglicanaidd traddodiadol o’r tu allan mae’r cyfan yn gyfrinach fawr, pryd i sefyll, pryd i eistedd ac yn y blaen, ac mae’r sawl sydd wedi troi i’r gwasanaeth yn teimlo’n dra anghyfforddus weithiau. Y wers fan yma amwn i yw fod yn rhaid i eglwysi lunio gwasanaethau mewn ffordd sy’n cynnwys a tywys pobl newydd ac ddim yn eu heithrio.

Ar ddiwedd yr olygfa yma fe welir pobl yn rhoi arian i’r eglwys mewn ffordd ‘edrychwch arna i’, pobl yn rhoi arian i gael eu gweld er mwyn ceisio cael lle i’w plant yn yr ysgol. Mae hyn yn bortread da iawn o’r modd y mae rhai crefyddwyr yn ymroi i’r achos, weithiau yn ariannol, ond am y rhesymau anghywir.

Nes ymlaen yn y rhaglen mae’r AS yn holi yn blwmp ac yn blaen i Adam am le i’w blentyn yn yr ysgol. Er mwyn helpu’r sefyllfa mae’n cynnig arian sylweddol i’r eglwys atgyweirio’r ffenest oedd wedi torri. Ac yna mae Adam yn dweud wrth yr AS “It would help if you actually came to Church.” Gwych! Unwaith eto mae’n dal rhagrith pobl, crefyddwyr yn enwedig, i’r dim. Yr holl Gymry sy’n dal i ddisgwyl cael bedyddio eu plant yn y capel, priodi yn y capel a’u claddu hyd yn oed ond heb fod yn ymarfer y ffydd clywch: “It would help if you actually came to Church.” Wrth gwrs dydy mynd i’r capel ddim yn eich gwneud yn Gristion ond mae yn rhyw ddangosydd o’ch ymrwymiad i’ch ffydd honedig.

Yna tua diwedd y bennod mae cyflymder y plot yn arafu ac mae Adam yn cael ei hun yn yr eglwys ar ben ei hun ac yn cael amser i weddïo. Mae’n gwawrio arno fod yr holl sefyllfa allan o reolaeth ac mae’n cychwyn ei weddi drwy gydnabod ei bechod, mae’n cydnabod ei fod e wedi bod yn rhy barod i gyfaddawdu gyda’r cyfoethog (yr AS a’u tebyg oedd yn defnyddio crefydd i gael beth oedden nhw eisiau) yn hytrach na chymryd ochr y tlawd oedd yn ceisio dim mwy na ffydd syml yn Nuw, fel Colin.

Yna dyma Adam yn dweud wrth yr AS na chai le i’w blentyn yn yr ysgol oherwydd mae llefydd i wir Gristnogion oedden nhw ac nad oedd modd i’r AS brynu ffafr drwy gynnig arian i’r Eglwys. Yn ddiddorol, dyma’r AS yn troi yn syth a cychwyn rhoi tough time i’r Ficer am wneud y peth iawn. Ceir yma bortread o’r gwleidydd modern sydd, yn sylfaenol, an-egwyddorol ac yn ceisio troi popeth i’w felin ei hun gydag arian a dylanwad.

Daw’r bennod i’w therfyn gyda fy hoff olygfa i lle gwelir Adam a Colin tu allan yr eglwys yn eistedd ar fainc.

Colin: “That Professor and his book about God being all deluded …”
Adam: “Who? Richard Dawkins?”
Colin: “He’s a tw*t isn’t he?”

A daw’r rhaglen i ben gyda rhyw fath o neges ynglŷn a chyfyngiadau gwyddoniaeth ac fod rhai pethau ynglŷn a’n bodolaeth a’n byd na all ond ffydd eu hateb.

Casgliadau

Rev 2

Ar y cyfan wnes i fwynhau’r rhaglen yn fawr iawn. Wnes i ei gwylio gyda ffrind i mi oedd hefyd yn gweithio i Eglwys ac er fod y ddau ohonom ni wedi ei fwynhau roeddem ni, rhywsut, yn teimlo’n lled euog am ei fwynhau.

Y rheswm am hynny oedd yr holl regi, roedd hi’n ymddangos fel bod llawer iawn iawn o regi yn y rhaglen. Mae’n bosib nad oedd mwy o regi ynddi na rhaglenni comedi eraill, ond oherwydd fod llawer o’r rhegi dod o enau Adam (oedd mewn coler wen) efallai fod y rhegi yn sefyll allan yn fwy. Ar un llaw roeddwn i’n hoffi’r ffaith fod y rhaglen yn portreadu Adam, y Ficer fel person cyffredin, fel pechadur oedd yn llithro yn aml i’r un beiau fel pawb arall. Dyna ydym ni mewn gwirionedd. Er mod i’n mynd yn weinidog, dydw i ddim yn well na neb arall a dwi yn syrthio, yn rhy aml, i’r un beiau a phawb arall. Ond er mod i yn adnabod gweinidogion, a rheiny yn rai efengylaidd cofiwch, sydd yn cael un yn ormod i yfed weithiau ac sydd yn rhegi ar achlysuron tra arbennig dydw i ddim yn adnabod gweinidogion sydd yn mynd ar bendars enfawr yn aml ac yn rhegi am yn ail frawddeg a hynny am eu bod nhw, yn gywir felly, yn cymryd her Titus 1:7-9 o ddifri. Doedd Adam yn amlwg ddim, ac felly mae ei gymeriad, i ryw raddau, yn dwyn anfri ar y weinidogaeth.

Wrth gwrs, calon o ffydd Gristnogol ydy Iesu Grist. Er i Adam droi mewn gweddi ar un achlysur yn y bennod ni chafwyd unrhyw ddehongliad nac esboniad synhwyrol o ffydd yn Iesu o gwbl yn y bennod. Fe gafwyd moeswers ynglŷn a “gwneud y peth iawn” do, ond roedd Iesu yn fwy na athro da oedd yn dysgu moeswersi yn unig. Ond rhaid cofio mae cyfres gomedi ydy hon nid chwaer raglen i Songs of Praise ac hefyd mae dim ond y bennod gyntaf mewn cyfres ydy hi. Os oes moeswers o fath mynd i fod ymhob pennod mae’n siŵr y bydd craidd neges efengyl Iesu yn dod trwodd rhyw ben.

Os ydych chi’n cael eich tramgwyddo yn hawdd peidiwch a gwylio Rev. Mam paid a’i wylio. Ond os ydych chi am weld comedi glyfar sy’n portreadu crefydd wag a her y weinidogaeth gyfoes yna gwyliwch gweddill y gyfres da chi.

Please follow and like us: