Mae hi bron yn ddeng mlynedd bellach ers i mi ddechrau ymwneud a Chymdeithas yr Iaith. Un o’r atgofion cyntaf sydd gyda fi o Ffred Ffransis oedd y tro hwnnw pan wnaethom ni feddiannu Kwick-Save Aberystwyth fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd. Dyma ni’n mynd i mewn, a’r peth nesaf dyma gyhoeddiad dros tannoy y siop gan… Ffred! Dim ond Ffred fyddai wedi bod a meddwl digon cyflym ar un llaw a direidus ar y naill i wneud y ffasiwn beth.

Dros y blynyddoedd ers hynny dwi wedi cael fy nghalonogi a fy nadrithio, wedi fy herio a’m gwylltio ond yn bennaf wedi fy ysbrydoli gan Ffred. Oherwydd ei unplygrwydd mae llawer nad sy’n adnabod Ffred yn iawn wedi caledu yn ei erbyn ar wahanol adegau; ond yr unplygrwydd yma yw’r athrylith tu ôl Ffred. Egwyddor yw meingefn unplygrwydd Ffred a byddai Cymru heddiw, yn enwedig y mudiad cenedlaethol, yn le llawer gwell pe byddai gan fwy o’n harweinwyr yr unplygrwydd yma pan fo egwyddor dan warchae.

Er i fi wybod o’r dechrau fod ei ffydd yn Iesu yn bwysig i Ffred ac yn allwedd i ddatgloi llawer am ei gymeriad a’i werthoedd ches i ddim cyfle i’w glywed yn sôn am hyn tan i mi gael lifft yn y fan ganddo fe i Gaerdydd rhyw ddwy flynedd yn ôl. Roedd hi’n ddiddorol i mi fod ei ffydd bersonol yn dra draddodiadol o efengylaidd ond fod ei gritiqe o’r traddodiad efengylaidd modern, yn bennaf eu bod nhw yn esgeuluso elfen gymunedol y ffydd Gristnogol, yn peri iddo fethu a bod yn hollol gyfforddus yn y traddodiad hwnnw heddiw. Dyna, mewn ffordd, rywbeth arall rydym ni’n rhannu.

Pam sôn am hyn nawr? Wel, nos Sul fe wnaeth S4C raglen yn dilyn Ffred i dri lle arwyddocaol iddo. Roedd hi’n raglen wych iawn ac i unrhywun sydd yn adnabod Ffred a Meinir fe gewch eich cyffwrdd, roeddwn ni’n dra emosiynol tra’n gwylio rhai rhannau o’r rhaglen. I bobl sydd dim ond yn adnabod y Ffred dadleugar cyhoeddus yna efallai wnewch chi ddod i adnabod a deall athrylith Ffred yn well ar ôl gwylio’r rhaglen.

Mae hi ar gael i’w gweld eto fan YMA am rai wythnosau eto.

Please follow and like us: