Yn mis Mehefin 2023 fe wnes i brofi beth fyddai llawer o bobl yn ei alw yn ‘burnout’. Bu farw ffrind yn annisgwyl ac roeddwn i’n flinedig yn barhaus (o bosib ar ôl dal Covid dair gwaith) ac wedi bod yn brwydro rhyw fath o haint on-and-off ers misoedd. Roeddwn i hefyd wedi bod yn Weinidog prysur gyda sawl haearn yn y tân am 12 mlynedd heb gymryd yr un cyfnod Sabothol … ac hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dylunio graffeg … heb sôn am fagu teulu bach! Ia…
Es i at y doctor yn disgwyl gwrthfiotigau a dim byd mwy, ond ar ôl sgwrsio am bob dim arall wnes i adael gyda ‘llythyr doctor’ oedd yn awgrymu y dylwn gymryd cyfnod estynedig i ffwrdd er mwyn gwella ar bob lefel.
Corff, meddwl ac enaid.
Un o’r disgyblaethau dwi’n gobeithio gweithio mewn i’m patrwm newydd o fyw yw darllen mwy, yn cynnwys darllen ffuglen, rhywbeth nad ydw i wedi cael hamdden (neu ddisgyblaeth?) i wneud ers blynyddoedd. Dwi wedi gorfod darllen rhyw ychydig trwy’r amser fel rhan o ngwaith yn paratoi pregethau. Ond dwi eisiau dechrau darllen er mwyn darllen. Darllen er mwyn mwynhau. Darllen er mwyn meddwl. Nid dim ond darllen er mwyn gwaith.
Diben y rhan yma o fy ngwefan felly yw jest cadw log o beth dwi wedi bod yn ei ddarllen ers i mi fod yn sâl a cheisio ffordd wahanol o fyw.
Pan fydd cyfle mi fydda i yn sgwennu be fyddai’n ei alw yn adolygiad-nad-sy’n-adolygiad, hynny yw rhyw gasgliad o feddyliau a syniadau fydda i wedi hel a meddwl amdanynt wrth ddarllen y llyfr.
Os yw teitl llyfr ar y rhestr isod yn ddolen, yna gallwch glicio arni i ddarllen fy meddyliau.
Medi 2023
- Nonconformist gan Jane Parry
- Ymbelydredd gan Guto Dafydd
- A History of Christianity in Wales gan David Ceri Jones, Barry J Lewis, Madeleine Gray a D. Densil Morgan
- The Ruthless Elimination of Hurry: How to stay emotionally healthy and spiritually alive in the chaos of the modern world gan John Mark Comer
Awst 2023
Gorffennaf 2023