Pan glywais i yn gyntaf am gamgymeriad Rhodri Glyn Thomas yn cyhoeddi’r enw anghywir yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn neithiwr roeddw ni yn fy nyblau. Ond erbyn heno ‘ma rwy’n teimlo’n sori dros Rhodri Glyn druan. Erbyn hyn mae’r helynt wedi cyrraedd tudalen flaen prif wefan newyddion y BBC dros Brydain nid dim ond BBC Cymru, gweler isod:
I chi sydd heb weld yr halibalw drostoch chi eich hun eto, rhowch glec YMA i weld y fideo. O diar o diar, o leia mae gan dim LOL eu dalen flaen nawr.
Please follow and like us:
druan a fo. ond roedd o yn wych!
roedd o ar y breakfast news bob rhyw 10munud bore ma – roedden nhw’n gofyn i bawb ddanfon eu storiau o “embarassing moments” i mewn. er naethon nhw ddim son ei enw o – jyst “this Welsh minister” – ddim yn siwr os ‘di hwnna’n beth da neu drwg.