Mae fy Nhad wedi bod wrthi’n ddiwyd yn hel ei achau ers imi fod yn hogyn bach. Ei ddiddordeb mawr oedd dilyn achau ei Dad (fy Nhaid) oblegid cyfenw Ffrengig oedd ganddo sef Couture (newidiodd fy Nhad ei enw i Llwyd tua diwedd y saithdegau dwi’n meddwl). Darganfyddodd fod ein teulu ni yn Huwganotiaid Protestannaidd a ffodd i Loegr yn 1576 rhag erlid y Catholigion – rhai o’r Huwganotiaid cyntaf i gyrraedd Lloegr maen debyg.

Felly cyn y darganfyddiad ysgytwol diweddaraf yma roedd credentials Protestannaidd fy ngwaed eisoes wedi ei sefydlu OND dyma Nhad wythnos yma yn darganfod fod yr angori yn mynd ym mhellach oblegid wythnos yma darganfu fy Nhad fy mod i’n ddisgynydd uniongyrchol i Edmund Cranmer (Archddiacon Caergaint) a Thomas Cranmer (Archesgob Caergaint) – dau ffigwr cwbwl allweddol yn hanes Protestaniaeth ym Mhrydain. Fe ffodd fy hen (x15) Daid, Edmund, i’r cyfandir rhag cael ei erlid gan y Catholig Fari Waedlyd yn 1554 ac fe losgwyd fy hen (x15) Ewythr, Thomas, gan Fari Waedlyd yn 1556.

Dyma’r linach:

Please follow and like us: