Pan fuodd Lasarus farw nid oedd Iesu o gwmpas. Bedwar diwrnod wedyn dyma Iesu yn cyrraedd a’r peth cyntaf dywedodd Mair wrth Iesu oedd: “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” Mewn geiriau eraill, “Dduw, ble oeddet ti!?” Yr un cwestiwn ag y mae pobl yn ei ofyn heddiw yn wyneb dioddefaint a drygioni, yn arbennig efallai yn wyneb y rhyfel yn Wcraen.
Nes ymlaen yn yr hanes mae’r dyrfa ag agwedd debyg: ‘Ond roedd rhai ohonyn nhw’n dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i’r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”’ Mewn geiriau eraill, ‘Os wyt ti’n Dduw cariad, pam dwyt ti ddim yn gwneud mwy i ddangos hynny?’
Yn ein byd ni heddiw – mae’r cwestiynau a’r angst yma yn erbyn duw a chrefydd yn gyffredinol yn ymateb cyffredin, dynol a digon dealladwy. Ond beth ddylai ein hymateb fel Cristnogion fod i ddioddefaint fel y rhyfel yn Wcraen neu ddioddefaint mwy personol fel salwch mae rhai yn nheulu Caersalem yn ei wynebu ar hyn o bryd?
Dyma bedwar ymateb allai fod o help:
I.) NID FEL HYN MAE PETHAU I FOD
I ddechrau, fel Cristnogion gallwn ddweud mai ‘nid fel hyn mae pethau i fod’. Ar ddechrau’r Beibl yng nghân y greadigaeth ym mhenodau cyntaf Genesis mae Duw yn dweud fod popeth yn “dda”. Wrth edrych o’n cwmpas heddiw rydym ni’n gallu gweld daioni a phrydferthwch o’n cwmpas o hyd, rydym ni’n gallu ‘gweld yr harddwch sy’n parhau’ a hefyd yn gallu gweld Ei ‘ogoniant ar bob twyn’ fel y canodd Rhys Nicholas. Ond yn aml mae’r prydferthwch a’r daioni yma’n cael ei daflu i’r cysgod wrth feddwl am y drygioni a’r dioddefaint sydd o’n cwmpas hefyd. Fodd bynnag, bwriad gwreiddiol Duw oedd i’r byd yma fod yn dda. Ac er bod drygioni wedi llygru pethau, rydym yn gallu dweud mai ‘nid fel hyn mae pethau i fod’ ac rydym yn credu fel Cristnogion fod Duw yn y broses o roi popeth yn ôl yn iawn. Rhan o’r gobaith a’r efengyl Gristnogol yw bod Duw mynd i adfer y greadigaeth gyfan.
II.) NID YW DUW’N EDRYCH I FFWRDD WRTH EIN GWELD YN DIODDEF
Yr ail ymateb yw bod Duw yn gweld fod drygioni wedi dod mewn i’w greadigaeth. Mae Duw wedi gweld fod angen delio gyda phroblem y byd, dyna pam wnaeth Duw ddanfon Iesu i’r byd nid fel rheolwr, cyfreithiwr neu economegydd ond fel meddyg. Roedd y greadigaeth a’r ddynoliaeth yn sâl – ac anfonodd Duw ei fab fel Meddyg Da i iachau dynoliaeth a byd briwedig.
III.) MAE DUW GYDA NI YN Y DIODDEF
Yn hanes Iesu a Lasarus mae adnod fyrraf y Beibl: “Roedd Iesu yn ei ddagrau.” Dydy hwnnw ddim yn swnio fel ymateb rhywun sy’n ddi-hid. Dydy hwnnw ddim yn swnio fel ymateb rhywun sydd out-of-touch. Un o’r pethau anhygoel am Iesu yn dewis dod mewn i’r byd yma yw bod hynny’n golygu fod Duw gyda ni yn ein dioddef. Nid dim ond yn yr iwfforig rydym ni’n cael cyfle i gyfarfod Crist a phrofi ei wefr, ond hefyd yn ein dioddef a’n wylo. ‘Mawr yw Iesu yn ei Berson, Mawr fel Duw, a mawr fel dyn’ fel y canodd Titus Lewis.
IV.) BYDD YN SYCHU POB DEIGRYN
Yn bedwaredd, mae hanes Lasarus yn adrodd i Iesu ddod a bywyd yn ôl i Lasarus, mae gwyrth yn cymryd lle. Ar ôl wylo mae Iesu’n gwneud rhywbeth am y peth. Trwy farw ar y Groes ac Atgyfodi mae Iesu wedi rhoi’r cynllun mawr ar waith i sychu pob deigryn. “Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.” (Datguddiad 21) Mae’r dechrau newydd ar ddod ac mae eisoes yn dod – bydd Duw yn rhoi popeth nol yn iawn. Rydym yn gallu cael blas o hynny drwy gyfarfod Crist a phrofi ei wefr … hyd yn oed trwy ein dagrau.
Fy syniad i am hyn ydi nad yw Duw(os yn bod o gwbl) yn dda nac yn hollalluog.Os ydio yn dda mae ei syniadau am ddaioni mor wahanol i rai dynion fel nad ydynt,efallai yn gorgyfwrdd o gwbl.Ynghylch bod yn hollalluog,beth yn union yw ystyr hynny?