
Rowan Williams a John Sentamu
Mae’r Hen Destament yn llawn o broffwydi yn condemnio polisiau economaidd barus y dosbarth uwch yn Samaria a Jwdea. Yn ystod oes Amos roedd Israel yn mwynhau cyfnod o heddwch a chynnydd economaidd llewyrchus. Fodd bynnag fe berodd y fendith yma i’r gymdeithas droi yn hunanol, materol a difater. Fe ddechreuodd rhai oedd yn gyfforddus eu byd anwybyddu anghenion rhai llai ffodus ac fe drodd llawer o bobl yn hunan-longyfarchiadol gan anwybyddu Duw. Oherwydd llwyddiant materol Israel roedden nhw wedi dod yn bobl ddifater a ddaeth i ddibynnu ar gadernid a diogelwch gwag, rhyw fath o false sense of security ys dywed y Sais. Wrth gwrs epil llwyddiant ydy llygredd a chamwri moesol a dyma oedd i’w weld yn blaen i Amos. Hunan-hyder yn hytrach na rhoi eich hyder yn Nuw yw dechrau’r diwedd. Ym mhroffwydoliaeth Amos maen amlwg fod dosbarth pwerus a chefnog o drigolion Samaria, prifddinas Israel, wedi dod i fod yn bobl gyfoethog, hunanol ac anghyfiawn. Oherwydd i’r dosbarth uwch drethu’n drwm a chipio tiroedd dechreuodd caethwasiaeth anghyfreithlon ac anfoesol yn ogystal â chreulondeb tuag at y tlawd yn gyffredinol.
Bore ma roeddw ni wedi cyffroi i weld y bod yr Archesgobion Rowan Williams, Caergaint a John Sentamu, Efrog wedi codi mantell Amos a proffwydi’r Hen Destament a siarad geiriau proffwydol a heriol yn wyneb y Credit Crunch. Yn wyneb cynlluniau Trysorlus yr Unol Daleithiau i greu cronfa o £320bn ($700bn) i ddelio gyda dyledion du (bad debts) fe ddywedodd John Sentamu yn ddigon cywir:
One of the ironies about this financial crisis is that it makes action on poverty look utterly achievable. It would cost $5bn to save six million children’s lives. World leaders could find 140 times that amount for the banking system in a week. How can they tell us that action for the poorest is too expensive?
Mae Sentamu yn wir pob gair ac dwi’n siwr mae nid Cristnogion yn unig sy’n gweld anfoesoldeb yr holl sefyllfa yma; ond rwy’n falch mae dau arweinydd Cristnogol sydd wedi dod a’r anghyfiawnder plaen yma i flaen y penawdau bore ma.