Yn Luc 2 darllenwn fod yn rhaid i Joseff a Mair deithio i Fethlehem ar gyfer y cyfrifiad – doedd dim ffurflen ar-lein i’w llenwi bryd hynny – yn cael trafferth dod o hyd i le i aros, ac yn chwilio’n daer am lety munud olaf.

Mae’r ymateb ”nid oes lle yn y llety” – yn aml yn cael ei ddehongli fel gwrthodiad, ond, o weld y sefyllfa, gwnaeth y ceidwad le iddynt— ond nid rownd y cefn ac allan o’r ffordd mewn beudy anghofiedig fel mae’r chwedl yn dysgu, ond yn hytrach yn y gofod fyddai’n galon i’w gartref, lle cedwid yr anifeiliaid a lle byddai’r ceidwad a’i deulu yn byw a bod. Mae rhywfaint o ddealltwriaeth sylfaenol o bensaernïaeth y dwyrain canol yn y ganrif gyntaf yn esbonio hyn.

Ymhell o gael ei wthio allan o’r ffordd, cafodd Iesu ei eni i galon cartref croesawgar. Mae hyn yn newid naws y stori: nid yw’n ymwneud â gwrthodiad mwyach, ond am letygarwch, parodrwydd i wneud lle i Iesu.

Beth mae’n ei olygu i ni wneud lle i Iesu? Mae’n dechrau gyda’r sylweddoliad gostyngedig ei fod Ef wedi gwneud lle i ni.

Un o’r gwirioneddau hyfryd am Iesu yw ei fod yn ein croesawu fel yr ydym. Fel y dywed yr hen garol Gymraeg ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’:

“Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt.”

Mae hon yn neges arbennig o bwerus i ni Millennials a Gen Z, wedi ein dal mewn diwylliant sy’n rhoi pwysau arnom i guradu delwedd gyhoeddus berffaith sy’n cymryd mantais lawn ar filters y cyfryngau cymdeithasol. Gyda Iesu, nid oes angen falsio. Gallwn ddod ato fel yr ydym – yn flêr, yn amherffaith, ac yn real.

Yn ddiweddar, deuthum ar draws dyfyniad gan John Mark Comer, gweinidog ac awdur cyfoes: “Rydyn ni’n caru’r pethau iawn, yn y drefn anghywir.”

Roedd hyn yn taro tant gyda fi, yn enwedig yn ystod tymor prysur y Nadolig. Mae mor hawdd caru’r pethau da mewn bywyd – ein teuluoedd, gyrfaoedd, diddordebau – ond eu gosod uwchlaw’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.

Ces fy atgoffa o wers o fy mhlentyndod. Dwi’n meddwl mai stori i blant oedd hi yn yr Eglwys un Sul gan bwy bynnag oedd yn arwain y gwasanaeth. Roedd ganddo jar, gyda rhai cerrig mawr, a cherrig mân. Pan aeth y cerrig mân i mewn i’r jar gyntaf, nid oedd lle ar ôl i’r cerrig mwy. Ond pan aeth y cerrig mwy i mewn gyntaf, roedd popeth yn ffitio’n berffaith.

Roedd y wers yn glir: blaenoriaethwch yr hyn sy’n wirioneddol bwysig.

Pa mor aml ydyn ni’n llenwi ein bywydau â’r “pethau bach” – pethau sy’n iawn ynddynt eu hunain, ond heb adael lle i’r hyn sydd o dragwyddol bwys? Ynghanol prysurdeb bywyd, mae’n rhy hawdd anghofio meithrin ein perthynas ag Iesu.

Mae’r Nadolig yn wahoddiad i aildrefnu ein blaenoriaethau, i wneud lle i Iesu. Mae hyn wedi ei wneud yn bosib oherwydd iddo Ef yn gyntaf wneud lle i ni.

Felly y Nadolig hwn, gadewch i ni oedi i fyfyrio ar y gwirionedd anhygoel bod Iesu eisoes wedi gwneud lle i ni. Ac mewn ymateb, gadewch inni wneud lle iddo – nid yn unig yn ein dathliadau, ond yng nghanol ein bywydau.

Bydded i Dywysog Tangnefedd drigo yn eich calon y tymor hwn.

Please follow and like us: